Llun: Enillwr BC4 Tomas Martin (chwith) ac Ioan Williams (de).
Penderfynwyd ar bencampwr pob dosbarth trwy y gorau allan o dair gystadleuaeth. Arweiniodd hyn at gemau o safon uchel wrth i’r chwaraewyr ddysgu mwy am gryfderau a gwendidau eu gwrthwynebwyr drwy gydol y rowndiau.
Dychwelodd Rachel Bailey, Sian Jones, Mark Roderick, Gareth Stafford a Tomas Martin i’r cwrt yn fuan ar ôl cystadlu yn nigwyddiad Challenger yng Ngogledd Iwerddon ym mis Mawrth. I eraill roedd Pencampwriaethau Cymru yn ddychweliad i boccia ar ôl cyfnod hirach.
Llun: Enillwr BC2 Luke Walsh (chwith) a Sian Jones (de)
Roedd y gemau yn arbennig a braf gweld talent ifanc newydd yn ennill gêm yn erbyn chwaraewyr mwy profiadol. Perfformiodd Rhys Sansom, Sian Jones, Gareth Stafford/Gill Stafford ac Ioan Williams i gyd yn dda gan sicrhau bod pencampwr pob dosbarth yn haeddu ennill eu teitl. Yn y pen draw sicrhaodd Rachel Bailey deitl BC1 gyda buddugoliaeth o 2-1, tra bod Luke Walsh (BC2), Mark Roderick/Rhianna Davies (BC3) a Tomas Martin (BC4) i gyd wedi ennill 2-0 dros eu gwrthwynebwyr.
Mae sylw nawr yn troi at yr Ŵyl Para Chwaraeon lle bydd Pencampwriaeth Boccia Timau a Pharau y DU yn cael ei chynnal yn ystod yr haf. Mae’r Pencampwriaeth yn cael ei gynnal dros ddau ddiwrnod (dydd Mercher 10fed a dydd Iau 11eg Gorffennaf 2024) a bydd y twrnamaint yn cynnwys llu o gystadlaethau gan gynnwys parau a thimau.
Llun: Pencampwraig BC1 Rachel Bailey (chwith) a Rhys Sansom (de)
Pencampwyr Cymru 2024
- Rachel Bailey (BC1)
- Luke Walsh (BC2)
- Mark Roderick and Rhianna Davies (BC3)
- Tomas Martin (BC4)
Llun: O'r chwith i'r dde: Nathan Stephens, enillwyr BC3 Mark Roderick a Rhianna Davies, a Morgan Jones.

