Darganfyddwch fwy am enillwyr gorffenol, Llewod y Bont
Llewod y Bont, tîm rygbi gallu cymysg ym Mhorthaethwy ar Ynys Môn oedd enillwyr ein raffl yn yr holidaur cymunedol gorffenol, yn dderbyn gwerth £500 o gefnogaeth, a ddarparwyd trwy dalebau Hyfforddiant Cynhwysiant Anabledd o £250 a gwerth £250 o offer a ddanfonwyd yn syth i’r clwb!
Ymwelodd Uwch Swyddog Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru, Marcus Politis â'r clwb yn ddiweddar i gwrdd â'r hyfforddwyr, dosbarthu'r offer, ac i ddysgu mwy am y cyfle gwych i bobl anabl yn eu cymuned leol!!
Yn ddiweddar enillodd Llewod y Bont, tîm rygbi gallu cymysg ein harolwg cymunedol a derbyniodd werth £250 o Hyfforddiant Cynhwysiant Anabledd a £250 o offer i'w clwb.
Aeth ein Uwch Swyddog Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru i gwrdd â'r hyfforddwyr a cyflwyno’r offer!!
Yn y llun or dde i'r chwith, Darren Owen (Prif Hyfforddwr), Marcus Politis (DSW), Paul Mullins (Hyfforddwr) a Ollie Coles (Swyddog Ymgysylltu Rygbi).
Mae'r clwb yn cyfarfod yng Nghlwb Rygbi Porthaethwy ar yr ail ddydd Sul o bob mis 11:00yb – 12:30yp. Mae sesiwn mis Medi ar 17 Medi oherwydd Triathlon Ynys Môn. Mae’r sesiynau’n rhad ac am ddim ac mae brechdan ‘panad’ a bacwn am ddim sy'n gorfod bod y fargen orau yn y dref!!
Dywedodd y prif hyfforddwr Darren “Roeddem yn gweithio gyda’r prosiect Coed Lleol ar Ynys Môn gan eu bod yn defnyddio ein cyfleusterau a’r coedwig lleol felly fe wnaethom eu gwahodd i lawr am sesiwn rygbi ac fe ddatblygodd o’r fan honno. Rydym wrth ein bodd gyda’r gwobrau gan ein bod yn gweld ein hunain yn ganolbwynt i’r ynys, y gymuned a chwaraeon anabledd. Rydyn ni’n mwynhau rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned ac mae hynny’n hynod bwysig i mi a’r clwb”.
Mae Ollie Coles, swyddog ymgysylltu rygbi Gogledd Cymru wrth ei bodd gyda datblygiad Llewod y Bont, “Dyma enghraifft wych o waith traws-sefydliadol gan fod Gogledd Cymru yn rhanbarth heriol, mae hwn yn glwb gwych ac wedi gwneud rygbi yn hygyrch i bawb. ”
Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn rygbi, gollwng neges i Glwb Rygbi Porthaethwy ar gyfryngau cymdeithasol neu e-bostiwch Darren yn uniongyrchol ar darrenowen75@yahoo.com os hoffech ragor o wybodaeth.