Ar ôl i ddamwain barlysu Ben Pritchard o’r asennau i lawr, rhwyfo fel camp roddodd ei annibyniaeth yn ôl iddo a’r gallu i gymryd rhan mewn chwaraeon ar lefel uchel eto – a nawr mae’r athletwr a anwyd yn y Mwmbwls yn annog pobl ifanc i ddod i roi cynnig ar wahanol chwaraeon yn yr Ŵyl Para Chwaraeon ar ddydd Llun 1 Awst.
Mae mwy nag 20 o wahanol chwaraeon i roi cynnig arnynt – pob un yn dod i Fae Abertawe diolch i Gyfres insport a Chyrff Rheoli Cenedlaethol, gyda hyfforddwyr cymwys wrth law i roi cyngor arbenigol.
Y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw cofrestru yn parasportfestival.co.uk a dod i roi cynnig arni!
Ac os nad ydych chi'n hoffi un gamp, fe allwch chi roi cynnig ar un arall. Ac un arall. Ac un arall!
Yn wir, doedd Ben ddim yn rhy hoff o rwyfo pan roddodd gynnig arni fel camp yn ystod ei gyfnod yn adfer yn Ysbyty Stoke Mandeville. Ond canfu ei bod yn rhoi'r rhyddid iddo gystadlu eto a'i bod yn rhoi boddhad mawr iddo yn feddyliol yn ogystal ag yn gorfforol. A’r prif reswm y syrthiodd mewn cariad â rhwyfo yn y diwedd oedd ei fod wedi ei dynnu allan o’i gadair olwyn a dod â llawer o’r annibyniaeth yr oedd yn teimlo ei fod wedi’i golli yn ôl.
Roedd yn dda am rwyfo hefyd, a gyda help Andrew Williams, Llywydd Clwb Rhwyfo Dinas Abertawe, gwahoddwyd Ben i ymuno â Sgwad Datblygu Para Rwyfo Prydain yn 2017.
Gan wneud ymddangosiad rhyngwladol cyntaf trawiadol gyda Thîm Rhwyfo Prydain Fawr yn 2019, enillodd Ben ddwy fedal efydd yn Regata Rhyngwladol Gavirate cyn sicrhau efydd arall yn ei ymddangosiad cyntaf yng Nghwpan y Byd yn Poznan a gorffen yn bedwerydd ym Mhencampwriaethau’r Byd yn Awstria. Wedyn, yn 2021, enillodd fedal arian ym Mhencampwriaethau Ewropeaidd Varese.
Wedyn, dim ond pum mlynedd ar ôl gwylio’r Gemau Paralympaidd o’i wely yn yr ysbyty yn Stoke Mandeville, cystadlodd Ben am y tro cyntaf yn y Gemau Paralympaidd yn Tokyo, gan gystadlu yn sgwlio sengl y dynion PR1. Paris 2024 oedd y nod, ond yn sgil y cyfle i ennill profiad gosododd record Baralympaidd newydd yn y repechage a gorffen yn bumed mewn gwyntoedd cryfion yn y Rownd Derfynol.
Am ei gyflawniadau gwych, enillodd Ben wobr Athletwr y Flwyddyn Chwaraeon Anabledd Cymru yn 2021 – gan dalu teyrnged i Glwb Rhwyfo Dinas Abertawe, Rhwyfo Cymru, Chwaraeon Anabledd Cymru a Rhwyfo Prydain.

“Pan oeddwn i’n bump oed, fe gefais i ddiagnosis o gataract cynhenid, a oedd bryd hynny’n golygu na allwn i gystadlu mewn unrhyw chwaraeon cyswllt – ond yn ffodus roedd tyfu i fyny ar Benrhyn Gŵyr yn cynnig llawer o ddewisiadau gwahanol,” meddai Ben.
“Fe es i ymlaen i gynrychioli Cymru mewn Traws Gwlad, ac roeddwn i bob amser wedi gwirioni ar y dŵr ac ar ôl dysgu hwylio yng Nghlwb Hwylio’r Mwmbwls roeddwn i hefyd wedi cynrychioli Cymru a Phrydain Fawr mewn dosbarthiadau cychod amrywiol. Datblygodd hyn yn naturiol i ddigwyddiadau Triathlon.
“Ond yn anffodus, tra oeddwn i allan ar fy meic un diwrnod yn 2016, fe wnaeth damwain ddifrod i fadruddyn fy asgwrn cefn i a fy mharlysu o fy asennau i lawr.
“Doeddwn i erioed wedi ystyried rhwyfo o’r blaen, ond roedd yn rhan o fy nghyfnod adfer yn Ysbyty Stoke Mandeville. Doeddwn i ddim yn ei hoffi ar y dechrau, ond roedd yn golygu fy mod i’n gallu dod allan o fy nghadair olwyn ac roedd yn rhoi boddhad mawr i mi yn feddyliol yn ogystal ag yn gorfforol.
“Ers hynny, rydw i wedi dod yn Baralympiad ac rydw i'n canolbwyntio ar ennill medal ym Mharis yn 2024.
“Mae’n anodd credu sut gall chwaraeon newid eich bywyd chi, felly fe hoffwn i wahodd pawb i ddod draw i’r Ŵyl Para Chwaraeon ddydd Llun 1 Awst a rhoi cynnig ar wahanol chwaraeon yn yr Ŵyl Para Chwaraeon.”
Ac os dewch chi ar ddydd Llun 1 Awst, cewch gyfle i gwrdd â Ben – gan y bydd yno ar ddiwrnod agoriadol y digwyddiad.
Ar ben hynny, bydd pawb sy'n cofrestru ac yn dod i roi cynnig ar chwaraeon ar y diwrnod yn cael bag nwyddau am ddim, diolch i bartneriaid cyfres insport, SPAR.
Ac fel rhan o’r Ŵyl Para Chwaraeon wythnos o hyd, bydd twrnamaint arbennig, sef twrnamaint Para Rwyfo Agored Dan Do Cymru, yn cael ei gynnal ddydd Sul 7 Awst. Bwriad y digwyddiad yw rhoi cyfle i blant, pobl ifanc ac oedolion gystadlu, boed hynny am y tro cyntaf neu fel rhwyfwr dan do profiadol.
Am yr Ŵyl Para Chwaraeon (1-7 Awst)
Mae’r Ŵyl Para Chwaraeon wythnos o hyd yn dechrau gyda digwyddiad Cyfres insport ddydd Llun 1 Awst ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe (Prifysgol Abertawe, Lôn Sgeti, Abertawe, SA2 8QB) – a fydd yn darparu cyfleoedd ar lawr gwlad a chyfranogiad cychwynnol i blant, pobl ifanc a oedolion.
Bydd fformat y digwyddiad Cyfres insport yn galluogi cyfranogwyr, hyfforddwyr a rhwydwaith ehangach o wirfoddolwyr i ehangu eu profiadau, cael mynediad at chwaraeon nad ydynt efallai wedi’u hystyried yn rhai sydd ar gael neu’n hygyrch, a ffurfio cysylltiadau â chlybiau lleol gan ddarparu cyfleoedd gwych, cynaliadwy o fewn amgylchedd cynhwysol.
Bydd mwy nag 20 o chwaraeon ar gael i gyfranogwyr gymryd rhan ynddynt, o athletau i rygbi cadair olwyn, a’r cyfan yn cael eu cyflwyno gan Glybiau insport lleol a Chyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol. Mae’r cyfleoedd hyn i gyd yn cysylltu â llwybr lleol i mewn i glybiau cynhwysol lleol sefydledig (Clybiau insport) o bob rhan o dde orllewin Cymru.
Mae’r Ŵyl Para Chwaraeon ar gael am ddim ac mae gwybodaeth a manylion cofrestru ar gael yn: parasportfestival.co.uk.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Paul Evans, Swyddog Cyfathrebu ChAC, ar: paul@lloydbell.co.uk / 07710 743167