Heriau bach…nodau bach
Mae’r Flwyddyn Newydd yn aml yn adeg i fyfyrio, ac rydw i newydd fod yn meddwl yn ôl i’r Gemau Paralympaidd yn Tokyo, gan fethu credu bod mwy na 4 mis wedi mynd heibio ers hynny. Fe es i i Tokyo ar gyfer y Gemau – na, nid fel athletwr (mae’r dyddiau hynny wedi hen fynd, gwaetha’r modd), ond fel swyddog technegol. Felly, er ei bod yn swnio’n gyffrous iawn, fe dreulies i’r rhan fwyaf o’m diwrnod mewn swyddfa o flaen sgrîn tra bod y saethyddiaeth yn digwydd y tu allan.
Yn y gaeaf, rydyn ni’n tueddu i dreulio cymaint yn fwy o amser y tu mewn. A’r dyddiau hyn rydyn ni’n gweithio gartref mwy hefyd, felly rydw i’n teimlo fel ’mod i’n gaeth i sgrîn gyfrifiadur, fel yn Tokyo. Gan fy ’mod i yn y tŷ gymaint, rwy’n gwerthfawrogi fy amser cinio’n fawr a’r cyfle i fynd allan a chael ychydig o awyr iach. Yn Tokyo, roedd y cyfyngiadau Covid yn golygu bod rhaid i chi wisgo gorchudd wyneb drwy’r amser, hyd yn oed yn yr awyr agored, ond mae wastad yn beth da cael ychydig o ymarfer corff, felly roeddwn i eisiau rhannu nod bach y gwnes i ei osod i fy hun tra bues i i ffwrdd.
Mae heriau o’ch cwmpas i bob cyfeiriad mewn Gemau Paralympaidd. Ym mhobman, fe welwch chi athletwyr lefel uchaf sydd wedi llwyddo i gyrraedd brig eu gyrfa chwaraeon er gwaethaf cyfyngiadau corfforol. Ac rydw i, fel pawb arall, yn syfrdanu at ba mor dda oedd yr holl berfformiadau.
Mae sawl blwyddyn wedi mynd heibio ers i mi fod yn rhan o’r tîm ac yn hyfforddi bob dydd, ac roeddwn i’n teimlo’n eithaf anffit yn amgylchedd chwaraeon lefel uchel y Gemau, felly fe benderfynes i osod her fach i fy hun tra ’mod i yno i wrthbwyso’r holl waith swyddfa. Bob amser cinio, fe wthies i fy ffordd yn fy nghadair olwyn i fyny’r llethr hir i dop y stand. Fe lwyddes i gyrraedd y top ar y diwrnod cyntaf (a oedd yn destun balchder i fi gan ei fod yn stand uchel iawn!), ond taswn i ddim wedi llwyddo i wneud hynny, byddwn i wedi mesur pa mor bell roeddwn i wedi cyrraedd ac yna ceisio mynd ymhellach drannoeth.
Fy nod oedd cyrraedd y top i ddechrau, ac efallai ei wneud yn gyflymach y diwrnod nesaf ac efallai ddwywaith y diwrnod wedyn…ond fe wnes i ddim cynllunio ymhellach na hynny. Dydw i ddim yn credu y llwyddes i fynd i fyny mor gyflym ag y gallwn i hwylio i lawr, ond erbyn y diwedd roeddwn i’n falch o allu ei wneud heb fod yn fyr o anadl.
Dyna’r peth am nodau a heriau, weithiau mae’n llawer haws gwneud rhywbeth pan fyddwch chi ond yn gorfod meddwl am un gwelliant bach ar gyfer yfory. Mae ’na ymadrodd sy’n dweud ‘allwch chi ddim bwyta eliffant ar un tro’ – dydw i ddim yn awgrymu y dylwn ni fwyta eliffantod o gwbl, ond mae’n golygu bod angen i ni feddwl am gamau bach mewn unrhyw nod a osodwn. Os ydych chi eisiau dechrau bod yn egnïol, mae’n haws cerdded, rhedeg neu wthio i waelod eich stryd heddiw ac yna mynd ychydig ymhellach yfory ac ymhellach fyth y diwrnod wedyn.
Y gwirionedd yw, does dim ots p’un a ydych chi eisiau colli pwysau, bod yn fwy ffit neu aros yn ffit wrth i chi fynd yn hŷn, mae’n gallu bod yn anodd iawn meddwl am golli sawl stôn neu gilo neu redeg marathon (neu hyd yn oed wibiad byr). Y broblem gyda nodau mawr yw eu bod nhw’n gallu bod yn syniad diflas iawn ac ymddangos y tu hwnt i gyrraedd. Mae athletwyr yn gosod nodau i’w hunain ar gyfer y Gemau Paralympaidd neu Olympaidd nesaf sydd 4 blynedd i ffwrdd, ond dydyn nhw ddim yn gwneud hynny trwy feddwl am y freuddwyd bell honno yn unig. Maen nhw’n deffro bob dydd gydag un peth bach i ganolbwyntio arno a bydd y peth bach hwnnw, pan fyddwn nhw’n ei gyflawni, yn ei gwneud yn haws i gyrraedd y nod mawr yn y pen draw.
Gall problemau mawr fod yn frawychus, ac nid yw deffro bob dydd yn teimlo ei bod yn rhy anodd gwneud unrhyw beth yn dda i’ch iechyd meddwl. Mae’n llawer gwell deffro gyda syniad bach eich bod chi’n mynd i gyflawni un peth heddiw – bwyta un afal yn lle un bar o siocled; eich gwthio eich hun mewn cadair olwyn pan fyddech chi fel arfer yn gadael i rywun arall eich gwthio – hyd yn oed am bellter byr; rhedeg i’r safle bws nesaf yn hytrach na’r un agosaf; parcio ym mhen pellaf y maes parcio a cherdded ychydig ymhellach i’r siop neu gofrestru ar gyfer eich dosbarth cyntaf – beth bynnag y penderfynwch ei wneud, bydd ei gyflawni yn rhoi boddhad cadarnhaol i chi a rhywfaint o ysgogiad ar gyfer y diwrnod nesaf.
Yn ddiweddar, fe ddes i ar draws y wefan We are Undefeatable (https://weareundefeatable.co.uk/), sy’n cynnwys llawer o syniadau yn amrywio o ffyrdd i symud, sut i ddechrau ar gamp neu weithgaredd a chymorth i ganfod beth sy’n iawn i chi. Pan fyddwch chi’n rheoli heriau iechyd, mae bod yn egnïol yn ymwneud â dod o hyd i beth sy’n gweithio i chi, ac er bod y safle wedi’i ffurfio o amgylch cymuned o bobl sydd â chyflyrau iechyd tymor hir, byddai’r cyngor a’r cymorth o fudd i unrhyw un.
Rwy’n gwybod bod angen i fi feddwl ychydig yn wahanol gan nad ydw i mor symudol â phobl eraill, ond nid yw hynny’n fy atal rhag gwneud ychydig bach o weithgarwch bob dydd, hyd yn oed os nad oes cyfle i fi wthio fy ffordd i fyny stand gwylwyr bob amser cinio! Fe allech hyd yn oed ddechrau trwy wneud rhai ymarferion o gadair ystafell fwyta ac fe allwch addasu pethau’n rhwydd, fel Ymarferion Cadair Olwyn Ella Beaumonth https://youtube.com/channel/UCPSgdS1UDK6Hcv0ZneodW0A, i weddu i’r hyn y gallwch chi ei wneud. Mae hi’n hyfryd ac mae ei sesiynau gweithgareddau’n wych os ydych chi’n dechrau arni wrth geisio bod yn ffit ond yn credu ei fod y tu hwnt i chi.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud mwy na gweithgareddau gartref ac eisiau cymryd rhan mewn chwaraeon, mae llawer o adnoddau eraill ar gael. Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn gwneud llawer o waith fel bod pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yn gallu bod yn egnïol gyda’i gilydd, ac rydyn ni i gyd yn gwybod bod gwneud pethau gyda phobl eraill yn ei gwneud yn haws i’ch ysgogi. Edrychwch ar eu gwefan yma https://www.chwaraeonanableddcymru.com ac maen nhw’n rhoi eu holl ddigwyddiadau ar eu ffrwd Twitter hefyd, sef @dsw_news.
Yn fy mhostiad blog nesaf, byddaf yn archwilio mwy am chwaraeon a mathau eraill o weithgarwch corfforol a sut mae cymryd rhan yn wych i iechyd corfforol a meddyliol. Fe geisia i feddwl am rai syniadau am bethau efallai na fyddwch erioed wedi meddwl am roi cynnig arnyn nhw hefyd!
Hwyl fawr am y tro!