
Llun: [O'r chwith i'r dde] Harrison Walsh (Athletwr ChAC), Nathan Stephens (Uwch Swyddog Llwybr Perfformiad), Chris Law (Cyfarwyddwr Clinigol yn Orthotix) a Hayley Huntley (Rheolwr Gyfarwyddwr yn Orthotix)
Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn falch iawn o gyhoeddi eu bod wedi sefydlu cytundeb partneriaeth unigryw gyda Orthotix. Bydd hyn yn golygu y bydd y busnes o Gaerdydd yn dod yn gyflenwr swyddogol fframiau anafiadau chwaraeon, cymorth orthopedig a dyfeisiau adsefydlu tan 2024.
Chwaraeon Anabledd Cymru (ChAC) yw’r sefydliad arweiniol ar gyfer gweithgarwch corfforol anabledd (gan gynnwys chwaraeon) yng Nghymru. Mae ChAC yn creu ac yn cefnogi cyfleoedd i bobl anabl gymryd rhan mewn ffordd fwy corfforol o fyw ar lefel gymunedol, yn ogystal â thalent sy'n cystadlu mewn chwaraeon anabledd a phara-chwaraeon ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol.
Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn cefnogi mwy na miliwn o gyfleoedd bob blwyddyn i bobl anabl gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Gyda mwy na 750 o glybiau a sesiynau ledled Cymru, o saethyddiaeth i godi pwysau, maen nhw wedi creu cyfleoedd cynhwysol i bawb.
Bydd y bartneriaeth newydd yn galluogi i ‘athletwyr llwybr perfformiad ChAC a gyllidir’ elwa o wasanaethau clinigol arbenigol a fframiau meddygaeth chwaraeon arbenigol dros gyfnod o ddwy flynedd.

Bydd tîm meddygol ChAC nawr yn gallu atgyfeirio unrhyw athletwyr llwybr sydd angen fframiau orthotig arbenigol i’r cyfleuster clinigol newydd gan Orthotix, sy’n cael ei weithredu gan Orthotydd Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Clinigol – Chris Law.
Mae’r clinig a lansiwyd yn ddiweddar, sydd bellach ar agor i’r cyhoedd, wedi cael ei sefydlu er mwyn galluogi gwell mynediad i ddyfeisiau meddygol dosbarth 1 y mae eu gwir angen.
Bydd yn galluogi cleifion i gael eu mesur, eu ffitio a'u cyflenwi â chynnyrch sydd wedi’i gymeradwyo’n feddygol ar gyfer cyflyrau ac anafiadau orthopedig amrywiol. Mae'r clinig yn cynnig slotiau galw heibio dyddiol i’r cyhoedd (Llun-Gwener) ac apwyntiadau dyddiadur ar gyfer gofynion cynnyrch mwy technegol.
Mae'r cytundeb yn golygu bod Chwaraeon Anabledd Cymru yn cwblhau rhestr nodedig o frandiau chwaraeon elitaidd sydd wedi ffurfio partneriaeth ag Orthotix yn ddiweddar. Bydd pob un o’r rhain nawr yn elwa o hygyrchedd i gynnyrch sy’n flaengar yn y farchnad a gwasanaethau clinigol proffesiynol i’w hathletwyr.
Meddai Hayley Huntley, Rheolwr Gyfarwyddwr Orthotix:
“Mae Chwaraeon Anabledd Cymru ac Orthotix yn cyd-fynd o ran agweddau strategol. Rydyn ni'n rhannu athroniaethau sy'n hyrwyddo cenedl actif lle gall pawb gael mwynhad oes o chwaraeon. Bydd ein partneriaeth yn helpu i gefnogi llesiant pobl anabl, gan sicrhau eu bod mor debygol o gael mwynhad gydol oes o weithgarwch corfforol (gan gynnwys chwaraeon) â phobl nad ydynt yn anabl.”