Mae'r twrnamaint yn rhan o Ŵyl Para Chwaraeon aml-chwaraeon ac aml-leoliad wythnos o hyd, sy’n cael ei chynnal yn Abertawe rhwng 10 ac 16 Gorffennaf.
Mae Pencampwriaeth Rygbi Cadair Olwyn Agored Cymru yn cael ei threfnu ar y cyd gan Chwaraeon Anabledd Cymru a Rygbi Cadair Olwyn Prydain Fawr ac mae’n cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn 15 Gorffennaf yn LC2 ar Heol Ystumllwynarth yn Abertawe (SA1 3ST).
Un o chwaraewyr ymosodol y Gweilch yw Arran Flay. Dechreuodd chwarae rygbi cadair olwyn bron i ddwy flynedd yn ôl ac mae'n edrych ymlaen at chwarae ym Mhencampwriaeth Rygbi Cadair Olwyn Agored Cymru.
“Rygbi Cadair Olwyn ydi fy angerdd i,” meddai Arran.
“Mae’n gamp gorfforol iawn ac mae’n rhaid i chi fod yn gryf oherwydd mae gennych chi bwysau’r gadair i’w wthio o gwmpas, ac mae’n rhaid i chi daro pobl gyda llawer o ddwysedd. Mae'n rhaid i chi fod yn ffit iawn yn gorfforol a hyfforddi'n galed i chwarae rygbi cadair olwyn.
“Mae gan y Gweilch siawns dda o ennill Pencampwriaeth Rygbi Cadair Olwyn Agored Cymru, ond mae pob un o’r pedwar tîm sy’n cystadlu yn gryf iawn.
“Fe wnaeth y Gweilch helpu i sefydlu tîm Dreigiau Casnewydd ac mae cyfeillgarwch da a chystadleuaeth fawr rhyngom ni. Mae’r Dreigiau’n chwarae’n well yn erbyn y Gweilch nag yn erbyn unrhyw dîm arall.
“Mae’r Taunton Gladiators yn dîm cymharol newydd. Rydyn ni wedi chwarae yn erbyn rhai o’u chwaraewyr nhw o’r blaen mewn timau eraill ac maen nhw’n bendant yn dîm da.
“Efallai mai’r Tiger Seals yw’r ffefrynnau, gan fod lefel eu sgiliau yn uchel iawn. Fe ddaethon nhw yn ail yn uwch gynghrair WR5 y llynedd a mynd ymlaen i ennill twrnamaint rhyngwladol yng Ngwlad Pwyl, felly, yn dibynnu ar bwy sy'n chwarae iddyn nhw, fe allen nhw fod y tîm i’w drechu.
“O ran y Gweilch, fe fyddwn ni’n sicr yn mynd allan yna ac yn gwneud ein gorau glas i gadw tlws Pencampwriaeth Agored Cymru yn Abertawe!”
Amserlen Rygbi Cadair Olwyn Agored Cymru (dydd Sadwrn 15 Gorffennaf):
10:00: Gladiators v Dreigiau
10:50: Gweilch v Dreigiau
11:40: Gladiators v Tiger Seals
13:00: Gweilch v Tiger Seals
13:50: Dreigiau v Tiger Seals
14:40: Gladiators v Gweilch
15:30: 3ydd v 4ydd
16:20: 1af v 2il
17:10: Cyflwyniad
I gael gwybod ble i Wylio, sut i Wirfoddoli a ble gallwch chi Gymryd Rhan yng Ngŵyl Para Chwaraeon 2023, ewch i parasportfestival.co.uk
Mynnwch eich tocynnau gwylwyr yma.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Paul Evans, Swyddog Cyfathrebu ChAC, ar: paul@lloydbell.co.uk / 07710 743167