Llun: Menna Fitzpatrick o’r Paralympiad. Chwith: gyda'i medalau Arian ac Efydd o Gemau Paralympaidd Gaeaf Beijing 2022. Ar y dde: Menna ar waith yn Beijing 2022.
Ymunwch â ni am noson o weithdai a rhwydweithio i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn cynnal digwyddiad gyda’r diben o gefnogi cyfranogiad menywod mewn chwaraeon.
Beth fydd y digwyddiad yn ei gwmpasu?
Trwy gydol y digwyddiad bydd nifer o weithdai yn cael eu cyflwyno yn canolbwyntio ar gefnogi cyfranogiad merched mewn chwaraeon. Ein nod yw cyflwyno’r rhain, yn gynhwysol (ond nid yn benodol i anabledd) a chynnig profiad gwych wrth ddatblygu’r wybodaeth am sut i gefnogi cyfranogiad menywod mewn gweithgaredd corfforol gan gynnwys chwaraeon.
Bydd y gweithdai 30 munud yn seiliedig ar y canlynol:
- Taith Athletwr yn cael ei chyflwyno gan Paralympiad Menna Fitzpatrick
- Gweithdy wedi’i gyflwyno gan Lora Roberts MChrio LRCC
- Gweithgaredd lles cynhwysol
- Cyfle i rwydweithio a lluniaeth

Taith Athletwr gan Menna Fitzpatrick

Gweithdy gan Lora Roberts MChiro LRCC
Ar gyfer pwy mae’r digwyddiad?
Mae’r sesiynau’n agored ac ar gael i fenywod a chynghreiriad o gymunedau ar bob lefel o weithgarwch corfforol gan gynnwys chwaraeon.
Llinell Amser Digwyddiad
5:30y.p. – Cyrraedd a lluniaeth
6-7:30y.p. – Gweithdai
7:30-8y.h. – Rhwydweithio a Lluniaeth
Cofrestru
Mae lleoedd yn gyfyngedig. Cofrestrwch ymlaen llaw drwy Eventbrite: