Lansiwyd Gŵyl Para Chwaraeon 2023 heddiw – yn amlinellu digwyddiad aml-chwaraeon ac aml-leoliad mwy fyth, wythnos o hyd, sy’n dychwelyd i Fae Abertawe rhwng dydd Llun 10 a dydd Sul 16 Gorffennaf.
Wedi'i chynllunio i ysbrydoli ac annog pobl o bob oedran a gallu i gymryd rhan mewn chwaraeon anabledd a phara chwaraeon a’u gwylio, roedd yr Ŵyl Para Chwaraeon gyntaf y llynedd, a drefnwyd gan Chwaraeon Anabledd Cymru a’i chyllido gan Lywodraeth Cymru, yn llwyddiant ysgubol, gyda sefydliadau fel Golff Cymru, Tennis Cymru, URC, Gymnasteg Cymru a Chymdeithas Pêl Fasged Cadair Olwyn Cymru i gyd yn adrodd am gynnydd mawr mewn ymholiadau yn syth ar ôl y digwyddiad.
Gan adeiladu ar y llwyddiant hwnnw, bydd Gŵyl Para Chwaraeon 2023 yn fwy fyth ac yn well, gyda mwy o dwrnameintiau o statws cenedlaethol a mwy o gyfleoedd i gymryd rhan - fel cyfranogwr, gwirfoddolwr neu wyliwr.
Bydd Gŵyl Para Chwaraeon 2023 ar ei newydd wedd yn dechrau ddydd Llun 10 Gorffennaf gyda Gornest Para Golff Agored Cymru, i’w chwarae yng Nghlwb Golff hardd Bae Langland.
Un o'r dyddiau cyfranogi mwyaf fydd dydd Mawrth 11 Gorffennaf, pan fydd digwyddiad Cyfres insport yn cael ei gynnal ar y Trac Athletau Dan Do ym Mhrifysgol Abertawe (Campws Parc Singleton). Y llynedd, manteisiodd mwy na 200 o bobl, llawer ohonynt heb roi cynnig ar chwaraeon erioed o’r blaen, ar y digwyddiad am ddim yma i ddod i gymryd rhan mewn mwy nag 20 o wahanol chwaraeon - pob un yn cael ei gyflwyno gan Glybiau insport lleol a Chyrff Rheoli Cenedlaethol, a ddaeth â hyfforddwyr cymwys gyda hwy hefyd.
Unwaith eto bydd y Trac Athletau Dan Do yn llawn dop o weithgareddau chwaraeon gwahanol i roi cynnig arnynt, gan gynnwys rhwyfo dan do, rygbi cadair olwyn, gymnasteg, tennis bwrdd a saethu targedau - gyda phob cyfranogwr yn derbyn bag nwyddau gwych. Mae’r digwyddiad yn agored i bob oedran a phob gallu, ac mae’r lleoliad yn gwbl hygyrch. Mae cofrestru ymlaen llaw yn hanfodol a gellir gwneud hynny yn: parasportfestival.co.uk.
Ar ddydd Mercher (12 Gorffennaf) a dydd Iau (13 Gorffennaf) bydd Pencampwriaethau Tîm Boccia y DU yn cael eu cynnal. Mae hwn yn dwrnamaint newydd arwyddocaol i Abertawe, gan fod arwr lleol David Smith OBE – Paralympiad sydd wedi ennill tair medal Aur a rhif un y byd mewn Boccia – yn byw ym Mae Abertawe, dafliad pêl ledr feddal o Barc Singleton.
Ddydd Gwener (14 Gorffennaf) bydd Pencampwriaethau Para Ffensio Prydain a chystadlaethau Saethu Targedau Para Agored Cymru yn dechrau, yn ogystal â gêm Ryngwladol o Bêl Droed Byddar rhwng Cymru a'r Alban.
Cynhelir Pencampwriaeth Rygbi Cadair Olwyn Agored Cymru ddydd Sadwrn (15 Gorffennaf), tra bydd y cystadlaethau Para Ffensio a Saethu Targedau yn dod i ben ddydd Sul (16 Gorffennaf).
Ddydd Sadwrn hefyd cynhelir Cyfres Para Triathlon y Byd Abertawe, gyda DYN HAEARN 70.3 Abertawe yn cloi'r ŵyl chwaraeon wythnos o hyd ar y dydd Sul.
Ymhlith yr athletwyr a fynychodd lansiad Gŵyl Para Chwaraeon 2023 roedd Harrison Walsh (enillydd medal efydd yng Ngemau’r Gymanwlad 2022), Kyron Bishop (chwaraewr Rygbi Cadair Olwyn y Gweilch), Michael Jenkins (para athletwr yn ei arddegau a seren newydd addawol), James Ledger (sbrintiwr â nam ar y golwg), a Beth Munro, a enillodd fedal arian mewn taekwondo yn y Gemau Paralympaidd yn Tokyo, ddwy flynedd yn unig ar ôl dechrau cymryd rhan yn y gamp.
“Roeddwn i’n falch o fod yn lansiad yr Ŵyl Para Chwaraeon gyntaf y llynedd ac rydw i’n falch iawn o fod yn ôl yn Abertawe i helpu i hyrwyddo’r digwyddiad eleni,” meddai Beth.
“Roedd Gŵyl Para Chwaraeon 2022 yn hynod lwyddiannus, o ran lefel uchel y cystadlaethau yn y twrnamaint a faint o bobl o bob oedran a gallu a ddaeth i roi cynnig ar chwaraeon am y tro cyntaf erioed.
“Roedd yn hyfryd gweld pobl yn rhoi cynnig ar chwaraeon a oedd yn gwbl newydd iddyn nhw, oherwydd rydw i’n gwybod sut gall mynd allan a mynychu digwyddiad fel yr Ŵyl Para Chwaraeon newid bywyd rhywun.
“Fe es i o fynychu digwyddiad Cyfres insport Chwaraeon Anabledd Cymru yng Ngogledd Cymru am y tro cyntaf i gael fy nghyflwyno i taekwondo a mynd ymlaen i ennill medal arian yn y Gemau Paralympaidd yn Tokyo – i gyd o fewn dwy flynedd!
“Mae breuddwydion yn dod yn wir, a does dim byd yn amhosibl. Ac mae gen i'r fedal i brofi hynny!”
“Rydw i’n falch iawn ein bod ni’n gallu cefnogi Chwaraeon Anabledd Cymru i ddod â’r digwyddiad yma yn ôl i Abertawe ac y bydd y ddinas, unwaith eto, yn cael cyfle i ddangos ei harbenigedd wrth gynnal digwyddiad para chwaraeon yn llwyddiannus - yn dilyn y digwyddiad llwyddiannus y llynedd,” meddai Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon yn Llywodraeth Cymru
“Mae hyn yn ailgadarnhau ein hymrwymiad ni i ddatblygu chwaraeon anabledd a darparu llwyfan pellach i hyrwyddo cyfleoedd chwaraeon i bobl anabl. Mae’r digwyddiad hefyd yn gwneud y gorau o leoliad gwych y ddinas ar lan y dŵr – ac rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu’r athletwyr i Abertawe a Chymru yn ystod yr haf.”
“Rydyn ni’n falch iawn o groesawu’r digwyddiad rhagorol yma yn ôl fel rhan o wythnos chwaraeon o safon byd yn Abertawe,” meddai Robert Francis-Davies, aelod o gabinet Cyngor Abertawe, yn llawn brwdfrydedd.
“Mae’n argoeli i fod yn ychydig ddyddiau cofiadwy a chyffrous iawn i athletwyr, gwylwyr, timau cefnogi, ein cymunedau lleol ni a’r rhai sy’n rhoi cynnig ar rai o’r gweithgareddau am y tro cyntaf erioed.
“Bydd Gŵyl Para Chwaraeon 2023 – a hefyd Cyfres Para Triathlon y Byd Abertawe a DYN HAEARN 70.3 – yn cadarnhau enw da’r ddinas fel dinas chwaraeon groesawgar ac amrywiol, sy’n gallu cynnal digwyddiadau mawr.
“Fe fyddwn ni’n parhau i weithio gyda threfnwyr y digwyddiad i sicrhau bod pobl a busnesau lleol yn cael pob cyfle i gynllunio ar gyfer y digwyddiadau eithriadol yma a’u mwynhau.
“Rydyn ni eisiau ysbrydoli pobl leol i gystadlu mewn chwaraeon a’u mwynhau mewn ffyrdd eraill hefyd.”
“O’r dechrau un, mae’r dyheadau ar gyfer yr Ŵyl Para Chwaraeon yma’n canolbwyntio ar ddatblygu gwaddol gwirioneddol o gyfleoedd cymryd rhan a chystadlu i bobl anabl yn Abertawe a thu hwnt,” eglurodd Robyn Wilkins, Uwch Swyddog Gŵyl Para Chwaraeon Chwaraeon Anabledd Cymru.
“Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad cyntaf yr haf diwethaf, rydyn ni’n falch iawn o weld y digwyddiad yn dychwelyd ym mis Gorffennaf 2023 gydag amserlen fwy o ddigwyddiadau para chwaraeon cystadleuol. Rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu rhai yn ôl o'r llynedd ac rydyn ni'n gyffrous am dyfu enw da Abertawe a Chymru fel lleoliad gwych ar gyfer digwyddiadau para chwaraeon elitaidd wrth i ni groesawu nifer o ddigwyddiadau ychwanegol at yr amserlen gynyddol.
Bydd y cyfle i dynnu sylw at yr ystod eang o bosibiliadau ar gyfer pobl anabl yng Nghymru yn cael ei gefnogi drwy docynnau am ddim i wylwyr i’r holl ddigwyddiadau cystadleuol ac opsiynau ffrwd fyw, ond nid yw’n bosibl drwy’r digwyddiadau hyn yn unig i ysbrydoli plant, pobl ifanc ac oedolion anabl i gymryd rhan mewn chwaraeon cynhwysol neu bara chwaraeon. Mae’n bleser gennym ni gyhoeddi felly y bydd rhaglen digwyddiadau’r Ŵyl Para Chwaraeon hefyd yn cynnwys digwyddiad Cyfres insport SPAR a fydd yn dychwelyd i dynnu sylw at yr ystod o gyfleoedd cynhwysol ar lawr gwlad i gynulleidfa fwy. Gyda mwy nag ugain o chwaraeon ar gael, yn cael eu cyflwyno gan rwydwaith o Gyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol Cymru a Phrydain, a Chlybiau insport lleol gwych, bydd y digwyddiad yn darparu llwyfan perffaith i unigolion ddod o hyd i’w siwrnai eu hunain o fewn gweithgarwch corfforol cynhwysol.
“Mae’r Ŵyl Para Chwaraeon yn ei chyfanrwydd yn gyfle gwych i arddangos y cyfleoedd o’r safon uchaf sydd ar gael yn Abertawe i gynulleidfa fwy, ac i roi llwyfan gwych i ni barhau i adeiladu dros y cyfnod cychwynnol o dair blynedd.”
Gŵyl Para Chwaraeon 2023 – amserlen dros dro o ddigwyddiadau
I gofrestru i gystadlu a/neu wirfoddoli yn yr Ŵyl Para Chwaraeon, ewch i: parasportfestival.co.uk
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Paul Evans, Swyddog Cyfathrebu ChAC, ar: paul@lloydbell.co.uk / 07710 743167