Wedi’i gynnal yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd Caerdydd, mae’r fformat yn annog ysbrydoliaeth a chysylltiad trwy gynnwys:
-
cinio rhwydweithio anffurfiol
-
arddangosfa cyfleoedd (tebyg i ffair gyrfaoedd)
-
recordiad byw o bodlediad Chwaraeon Anabledd Cymru, yn cynnwys panel o bobl ifanc anabl mewn chwaraeon, ochr yn ochr â chynghreiriaid nad ydynt yn anabl.
-
gweithdy ymgeisio a chyfweld mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru
Mae wedi’i gynllunio fel digwyddiad hamddenol, cynhwysol sy’n hyrwyddo Arweinwyr Ifanc a sefydliadau sy’n eu cefnogi.
Dyma ail randaliad y digwyddiad ar ôl lansiad llwyddiannus yn 2023. Thema digwyddiad y llynedd oedd #JustAsk; diwylliant o gael ei annog i ofyn cwestiynau didwyll am anabledd a chynhwysiant. Mae thema eleni yn cael ei datblygu ar hyn o bryd gan Fwrdd Ieuenctid Cenedlaethol ChAC a James Ledger— troellwr T11 a gwesteiwr Podlediad Chwaraeon Anabledd Cymru. Cadwch olwg am fwy o wybodaeth ar thema eleni!
Podlediad byw / Panel Vodcast
Nod Podlediad Chwaraeon Anabledd Cymru yw ysbrydoli gwrandawyr gyda straeon gwirioneddol ysbrydoledig gydag enwogion y byd chwaraeon sydd wedi goresgyn rhwystrau sylweddol i fyw bywydau anhygoel.
Bydd Diwrnod Ysbrydoli Cysylltiadau yn cynnwys recordiad byw o'r podlediad, wedi'i rannu'n dair sesiwn yn trafod tri phwnc.
Bydd trafodaethau panel a chyflwyniadau gan siaradwyr gwadd yn ystod y digwyddiad yn hyrwyddo cyfranogiad ac ymgysylltiad pobl ifanc yn y sector mewn amgylchedd hamddenol a chynhwysol.
Arddangosfa Cyfleoedd
Bydd hefyd sesiwn rwydweithio ar ôl cinio gydag ardal ar gyfer stondinau lle gall sefydliadau arddangos eu cyfleoedd i'r arweinwyr ifanc sy'n mynychu. Gallai’r rhain gynnwys cyfleoedd gwaith, mynediad at gymorth neu wasanaethau gan y sefydliad, prentisiaethau, cymwysterau, cyfleoedd gwirfoddol ac ati.
Tocynnau
Mae tocynnau i bobl ifanc wedi cael eu noddi gan ein partneriaid digwyddiad hael, felly maent ar gael AM DDIM i unrhyw berson anabl 24 oed neu iau:

Gwrandewch ar Bodlediad Chwaraeon Anabledd Cymru
PodBean: https://thedswpodcast.podbean.com
Spotify: https://open.spotify.com/show/2M0YpaZpJPzhoWWGRjmAgt
Apple Podcasts: https://podcasts.apple.com/gb/podcast/just-ask-disability-sport-wales-nyb-podcast/id1524929605
Gwyliwch y Podlediad ar YouTube
YouTube: https://youtube.com/playlist?list=PLJ-i1MUdoAcIsvKoFYtD6meMh9JsaxaVN