Lansiwyd yr Ŵyl Para Chwaraeon fwyaf erioed (8-14 Gorffennaf, 2024) yn Abertawe heddiw, gan ddatgelu nifer digynsail o dwrnameintiau lefel uchaf a diwrnod hynod boblogaidd Cyfres insport SPAR sy’n cael ei gynnal yr haf yma.

Wedi'i chynllunio i ysbrydoli ac annog pobl o bob oed a gallu i gymryd rhan mewn chwaraeon, mae Llywodraeth Cymru, Cyngor Abertawe, Cyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol, Prifysgol Abertawe, SPAR a Chwaraeon Anabledd Cymru wedi dod at ei gilydd i gyd am y drydedd flwyddyn yn olynol i gyflwyno Gŵyl wythnos o hyd, aml-chwaraeon, aml-leoliad yn rhanbarth Bae Abertawe.

Gan adeiladu ar lwyddiant anhygoel y ddwy flynedd ddiwethaf, bydd Gŵyl Para Chwaraeon 2024 yn fwy fyth ac yn well, gyda mwy o dwrnameintiau o statws cenedlaethol, mwy o gystadleuwyr o dramor a mwy o gyfleoedd i gymryd rhan - fel cyfranogwr, gwirfoddolwr neu wyliwr.
 

Mae Gŵyl Para Chwaraeon eleni’n dechrau ar ddydd Llun 8 Gorffennaf gydag un o’r dyddiau cymryd rhan am ddim mwyaf ar galendr Chwaraeon Anabledd Cymru, pan fydd digwyddiad Cyfres insport SPAR yn cael ei gynnal yng nghyfleuster chwaraeon godidog Campws Parc Singleton Prifysgol Abertawe. Bydd ymhell dros 20 o wahanol chwaraeon – pob un yn cael eu cynnig gan Glybiau insport lleol a Chyrff Rheoli Cenedlaethol, ac yn cael eu cyflwyno dan arweiniad hyfforddwyr cymwys – ar gael i bobl o bob oed a gallu ddod i roi cynnig am ddim ar y Trac Athletau Dan Do a’r tu allan ar y trac rhedeg a'r cae hoci. Bydd ysgolion lleol yn cael eu gwahodd i fynychu, a gall unigolion a theuluoedd gofrestru ar-lein hefyd.
 

Bydd Pencampwriaethau Tîm Boccia y DU yn hawlio’r sylw pan fyddant yn dychwelyd am yr ail flwyddyn. Yn cael ei gynnal dros ddau ddiwrnod (dydd Mercher 10 a dydd Iau 11 Gorffennaf) bydd y twrnamaint yn cynnwys llu o gystadlaethau gan gynnwys senglau, parau a thimau. Ac wrth gwrs, mae Boccia yn gamp arbennig iawn i’r ardal – gan fod Bae Abertawe yn gartref i’r Paralympiad sydd wedi ennill tair medal aur ac sy’n rhif un y byd, David Smith OBE.
 

Mae saethu wedi bod yn rhan bwysig o’r Gwyliau Para Chwaraeon blaenorol, ac mae Saethu Cymru – Pencampwriaethau Agored Prydain yn dychwelyd yn 2024. Gyda nifer enfawr o gystadleuwyr yn cystadlu mewn amrywiaeth eang o wahanol gategorïau, bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal dros dri diwrnod (rhwng dydd Gwener 12 a dydd Sul 14 Gorffennaf) yng Nghanolfan Tennis Abertawe. Mae sŵn cefndir yn orfodol, felly bydd digwyddiadau eraill yn cael eu cynnal yn y lleoliad ar yr un pryd.
 

Daw Jiwdo i’r Ŵyl Para Chwaraeon am y tro cyntaf yn 2024, a bydd Taith Dod At Ein Gilydd yr EJU ddydd Sadwrn 13 Gorffennaf yn un o’r twrnameintiau mwyaf y mae’r Ŵyl wedi’i gynnal. Yn cael ei gyflwyno yn Abertawe gan Jiwdo Cymru a Jiwdo Prydain, bydd y digwyddiad yn denu rhai o’r athletwyr para-Jiwdo gorau o bob rhan o’r DU ac Ewrop.
 

Mae Pencampwriaeth Agored Rygbi Cadair Olwyn Cymru yn dychwelyd, ac eleni bydd yn fwy nag erioed o’r blaen gyda thri thîm o Gymru – Y Gweilch, Dreigiau Casnewydd ac RGC – yn cystadlu yn erbyn timau o Loegr. Yn gamp gorfforol iawn i’w chwarae ac yn olygfa daranllyd i’w gwylio, bydd y twrnamaint effaith uchel a llawn sgiliau yma’n cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn 13 Gorffennaf.
 

Daw Tennis Bwrdd i’r Ŵyl Para Chwaraeon am y tro cyntaf, gyda Chystadleuaeth Agored BPTT Abertawe yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn 13 Gorffennaf. Yn cael ei gyflwyno gan Tennis Bwrdd Para Prydain, bydd y twrnamaint yn cynnwys Dosbarth Senglau, Dosbarth Dyblau Cymysg a Senglau Cymysg Iau a bydd yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Tennis Abertawe.
 

Cyn wythnos y brif Ŵyl Para Chwaraeon, bydd gêm rhwng Rygbi’r Gynghrair Anabledd Corfforol Cymru a Sêr Rygbi’r Gynghrair Anabledd Corfforol ar ddydd Gwener 21 Mehefin – y diwrnod cyn digwyddiad Cyfres Para Triathlon y Byd. Bydd y gêm yn cynnwys tîm cartref Cymru yn chwarae yn erbyn tîm gwadd o’r gwledydd cartref ar gae Sain Helen.
 

Ac ar y diwrnod ar ôl y gêm rygbi’r gynghrair fydd Cyfres Para Triathlon y Byd 2024, sy’n dychwelyd am y trydydd tro i Lannau SA1 ar ddydd Sadwrn 22 Mehefin. Bydd y digwyddiad yn croesawu’r para-triathletwyr gorau o bob rhan o’r byd, gyda phara-triathletwyr gorau Prydain yn cystadlu am bwyntiau cymhwyso hanfodol ar gyfer Gemau Paralympaidd Paris 2024 o flaen torf gartref. Mae cynlluniau hefyd ar gyfer digwyddiad i blant a phobl ifanc, gan eu cyflwyno i’r gamp a rhoi cyfle iddynt fod yn rhan o’r digwyddiad ysbrydoledig yma.
 


Gŵyl Para Chwaraeon 2024 – amserlen dros dro o ddigwyddiadau

Dydd Gwener 21 Mehefin 
Rygbi’r Gynghrair Anabledd Corfforol Cymru vs Sêr Rygbi’r Gynghrair Anabledd Corfforol 
location: Sain Helen

Dydd Sadwrn 22 Mehefin 
2024 World Triathlon Para Series Swansea
location: Swansea SA Waterfront

Dydd Llun 8 Gorffennaf 
Cyfres insport: Abertawe
location: Parc Chwaraeon Bae Abertawe, Prifysgol Abertawe

Dydd Mercher 10 - Dydd Iau 11 Gorffennaf 
Pencampwriaethau Tîm Boccia y DU
location: LC Swansea

Dydd Gwener 12 - Dydd Sul 14 Gorffennaf
Saethu Cymru - Pencampwriaethau Agored Prydain
location: Canolfan Tenis Abertawe

Dydd Sadwrn 13 Gorffennaf 
Twrnamaint Dod At Ein Gilydd EJU 2024, Abertawe
location: Abertawe

Dydd Sadwrn 13 Gorffennaf 
Pencampwriaeth Agored Cymru Rygbi Cadair Olwyn 
location: Abertawe

Dydd Sadwrn 13 Gorffennaf 
Tennis Bwrdd - BPTT Agored Abertawe 
location: Canolfan Tenis Abertawe


Digwyddiad Lansio Gŵyl Para Chwaraeon 2024

Cafodd y calendr uchod o ddigwyddiadau ei ddatgelu yn lansiad yr Ŵyl Para Chwaraeon heddiw (dydd Iau 14 Mawrth) – a fynychwyd gan gynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Cyngor Abertawe, Cyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol, SPAR, Chwaraeon Anabledd Cymru ac athletwyr gan gynnwys Aled Sion Davies OBE (pencampwr y Gemau Paralympaidd, y Byd, y Gymanwlad ac Ewrop yn y taflu maen ar hyn o bryd), Michael Jenkins (taflwr maen para hynod addawol), Kyron Bishop (chwaraewr Rygbi Cadair Olwyn gyda’r Gweilch), Kirsty Taylor (para syrffiwr) a Sienna Allen-Chaplin, ‘roced poced’ 10 oed anhygoel.
 

Roedd disgyblion o Ysgol Gyfun Treforys, Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan, Ysgol Gyfun Gellifedw, Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt, Ysgol Gymunedol Dylan Thomas, Ysgol Pen y Bryn ac Ysgol Heol Goffa yn y lansiad hefyd, gan roi cynnig ar amrywiaeth o chwaraeon a oedd yn cynnwys golff, pêl fasged cadair olwyn, pêl droed, rygbi a thennis bwrdd.

 

 

Dywedodd Aled Sion Davies OBE: “Pan enillodd Llundain y cais i gynnal Gemau Paralympaidd 2012, roedd hi’n freuddwyd wedi’i thanio i mi ac roeddwn i’n gwybod bod rhaid i mi fod yno a chystadlu yn y Gemau hynny – ond roeddwn i’n gwybod nad oedd hynny’n mynd i fod mewn nofio. Roeddwn i wedi cynrychioli Cymru mewn nofio pan oeddwn i’n iau ac roeddwn i’n gwybod y byddwn i wedi cyrraedd yno yn y pen draw gyda gwaith caled, ond roeddwn i hefyd yn gwybod nad dyna lle roedd fy nhalent gudd i. Ac rydw i’n gredwr cryf bod gan bawb dalent gudd yn rhywle.

“Fe gefais i gyfle i fynd i ddigwyddiad gan Chwaraeon Anabledd Cymru, tebyg iawn i’r Ŵyl Para Chwaraeon, yn 2005 i roi cynnig ar athletau gyda grŵp o Baralympiaid elitaidd. Dyna lle wnes i gydio mewn maen a disgen am y tro cyntaf ac fe wnaeth hynny fy ngalluogi i i ddarganfod talent doeddwn i ddim yn gwybod oedd gen i – dawn gudd i daflu. Ar yr un pryd, fe agorodd gyfleoedd i mi archwilio para-chwaraeon a chwrdd â llawer o bara-athletwyr gwahanol - ac mae hynny'n hollbwysig oherwydd ei fod yn datblygu cymaint o wahanol sgiliau ac, yn y pen draw, rydych chi'n rhan o gymuned sydd wir yn rhywbeth arbennig.

“Felly manteisiwch ar yr Ŵyl Para Chwaraeon, yn enwedig diwrnod Cyfres insport ar ddydd Llun 8 Gorffennaf, a dewch i roi cynnig ar yr holl chwaraeon gwahanol fydd ar gael. Efallai y byddwch chi'n dod o hyd i’ch talent gudd, yn union fel y gwnes i."
 

Dywedodd Kirsty Taylor: “Mae creu amgylchedd hwyliog lle gall pobl ifanc anabl roi cynnig ar wahanol weithgareddau, cyfarfod â phobl newydd a mwynhau cymryd rhan mewn chwaraeon mor bwysig – ac mae’r Ŵyl Para Chwaraeon yn rhoi cyfle i bobl ifanc weld eraill sydd ag anableddau tebyg iddyn nhw ac yn dangos bod lle i bawb mewn chwaraeon a bod posib i unrhyw un allu cystadlu ar y lefel uchaf. Mae'r ŵyl mor gyffrous. Mae’n llawn dop o gyfleoedd i bobl ifanc roi cynnig ar bara-chwaraeon yn ogystal â gweld llawer o bara-athletwyr elitaidd yn serennu! 

“Fe wnes i sylweddoli y gallwn i gystadlu mewn chwaraeon anabledd mewn digwyddiad fel yr un yma, ac wedyn fe wnes i hyfforddi gyda Chwaraeon Anabledd Cymru am flynyddoedd lawer a nawr mae fy nghamp i wedi mynd â fi i bedwar ban byd. Rydw i wrth fy modd yn sgwrsio â phobl newydd mewn cystadlaethau, yn gweld gwahanol ddiwylliannau ac yn gwthio fy hun i fod y gorau y galla i fod. Mae cystadlu mewn chwaraeon anabledd yn dod â chymaint o lawenydd i mi ac mae hwn yn gyfle gwych i bawb.”
 

Dywedodd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet yng Nghyngor Abertawe: “Rydyn ni’n falch iawn o groesawu’r digwyddiad rhagorol yma yn ôl fel rhan o haf o safon fyd-eang o chwaraeon a digwyddiadau yn Abertawe. Mae’n argoeli i fod yn ychydig ddyddiau cofiadwy a chyffrous i athletwyr, gwylwyr, timau cefnogi, ein cymunedau lleol ni a’r rhai sy’n rhoi cynnig ar rai gweithgareddau am y tro cyntaf. Bydd Gŵyl Para Chwaraeon 2024 – ynghyd â Chyfres Para Triathlon y Byd Abertawe ac IRONMAN 70.3 – yn cadarnhau enw da’r ddinas fel dinas chwaraeon groesawgar ac amrywiol, dinas sy’n gallu cynnal digwyddiadau mawr. Byddwn yn parhau i weithio gyda threfnwyr y digwyddiad i sicrhau bod pobl a busnesau lleol yn cael pob cyfle i gynllunio ar gyfer ac i fwynhau’r digwyddiadau eithriadol hyn. Rydyn ni eisiau ysbrydoli pobl leol i gystadlu mewn chwaraeon a’u mwynhau mewn ffyrdd eraill hefyd.”

Dywedodd Robyn Wilkins, Uwch Swyddog yr Ŵyl Para Chwaraeon gyda Chwaraeon Anabledd Cymru: “Ddwy flynedd yn ôl, fe ddaeth Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Anabledd Cymru a Chyngor Abertawe i gyd at ei gilydd i nodi eu dyheadau i ddatblygu cyfleoedd cymryd rhan a chystadleuol i bobl anabl yn Abertawe.”  

“Wrth i ni gyrraedd ein trydedd flwyddyn, rydyn ni’n falch iawn o weld twf pellach yn ein hamserlen gystadleuol a hefyd gweld wynebau’n dychwelyd, sy’n dangos pa mor llwyddiannus fu’r blynyddoedd blaenorol i’r Ŵyl Para Chwaraeon ac yn dyst i enw da cynyddol Abertawe a Chymru fel dinas a gwlad wych ar gyfer cynnal digwyddiadau para chwaraeon elitaidd. Unwaith eto ar gyfer 2024, bydd cyfleoedd i gael tocynnau gwylwyr am ddim i bob digwyddiad cystadleuol ac opsiynau llif byw.

“Rydyn ni hefyd yn falch o gyhoeddi y bydd rhaglen ddigwyddiadau’r Ŵyl Para Chwaraeon yn cynnwys digwyddiad Cyfres insport SPAR yn dychwelyd, i dynnu sylw at yr ystod o gyfleoedd cynhwysol ar lawr gwlad i gynulleidfa fwy. Bydd Cyfres insport SPAR yn cael ei chynnal ar 8 Gorffennaf ac yn cychwyn wythnos o ddigwyddiadau’r Ŵyl Para Chwaraeon. Gyda mwy nag ugain o chwaraeon yn cael eu cynnig, yn cael eu cyflwyno gan rwydwaith o Gyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol Cymru a Phrydain a Chlybiau insport lleol gwych, bydd y digwyddiad yn darparu llwyfan perffaith i unigolion ddod o hyd i’w siwrnai eu hunain o fewn y byd gweithgarwch corfforol cynhwysol a hefyd yn creu bwrlwm yn Abertawe am weddill yr wythnos.

“Gyda’r Ŵyl Para Chwaraeon wedi’i sefydlu am gyfnod cychwynnol o dair blynedd, mae 2024 yn gyfle gwych i arddangos y twf y mae’r Ŵyl Para Chwaraeon wedi’i weld dros y tair blynedd diwethaf.”
 


I gofrestru i gystadlu a / neu wirfoddoli yn yr Ŵyl Para Chwaraeon, ewch i: parasportfestival.co.uk.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Paul Evans, Swyddog Cyfathrebu ChAC, ar: paul@lloydbell.co.uk / 07710 743167


Pynciau yn yr erthygl hon:
CyffredinolChwaraeon CymunedolChwaraeon ElitaiddGŵyl Para ChwaraeonAbertaweSPAR UK (AF Blakemore Ltd)


Opsiynau Hygyrchedd

Maint testun

Dewiswch eich opsiwn gorau:



 

Lliw

Dewiswch eich opsiwn gorau:


 

Mae'r modd lliw Golau wedi'i ddylunio gan ddefnyddio lliwiau brand Chwaraeon Anabledd Cymru, i gwrdd â Lefel AA Canllaw Hygyrchedd Cynnwys Gwe. Dylai hyn ddarparu cyferbyniad da i'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr.

Mae'r modd lliw Tywyll hefyd yn defnyddio lliwiau brand Chwaraeon Anabledd Cymru, ond yn gwrthdroi golau a thywyllwch i greu fersiwn "modd nos". Fe'i bwriedir ar gyfer pobl nad ydynt yn hoffi sgriniau llachar, neu sy'n dymuno defnyddio eu harddangosfa mewn ffordd fwy ynni-effeithlon. Nid yw'r opsiwn hwn yn bodloni Lefel AA Canllaw Hygyrchedd Cynnwys Gwe, felly efallai na fydd yn addas ar gyfer defnyddwyr â nam ar eu golwg.

Mae'r modd lliw Tawel yn defnyddio lliwiau a allai fod yn fwy addas ar gyfer defnyddwyr sy'n sensitif i liwiau llachar, neu sy'n ffafrio cyferbyniad is. Nid yw'r opsiwn hwn yn bodloni Lefel AA Canllaw Hygyrchedd Cynnwys Gwe, felly efallai na fydd yn addas ar gyfer defnyddwyr â nam ar eu golwg.

Mae’r opsiwn Cyferbynnedd Uchel wedi’i deilwra i gyrraedd Lefel AAA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, a’i fwriad yw gwneud y wefan hon mor hygyrch â phosibl i ddefnyddwyr sydd â’r craffter gweledol isaf. Byddai defnydd delfrydol o'r gosodiad hwn yn cael ei gyfuno â maint testun Testun Canolig neu Testun Mawr.


Botymau

Mae ein steil botwm rhagosodedig yn defnyddio cefndiroedd lliw bloc sy'n cyferbynnu â chefndir y dudalen.

Gallwch newid hwn yn ddewisol i ddefnyddio botymau sy'n cynnal yr un lliw cefndir a lliw testun â phrif gynnwys y wefan, ac sy'n dynodi mai botwm gydag amlinelliad yw hwnnw. Gall hyn fod yn well gan ddefnyddwyr sy'n gallu darllen golau-ar-tywyll neu dywyll-ar-golau gyda mwy o gysur.

Dewiswch eich opsiwn gorau:



Priflythrennau

Gallwch ddewis lleihau'r defnydd o briflythrennau ar gyfer penawdau ac is-benawdau os ydych chi'n ei chael hi'n haws eu darllen mewn Achos Frawddeg. Gellir rhywfaint o destun, gan gynnwys acronymau, dangos mewn priflythrennau o hyd.

Dewiswch eich opsiwn gorau:



Opsiynau Cynnig

Mae'r wefan hon weithiau'n defnyddio animeiddio i ddod â'r cynnwys i fyw. Os hoffech chi analluogi hyn, gallwch chi wneud.

Dewiswch eich opsiwn gorau: