Credyd llun: @livvy_breen | Instagram
Enwebwyd y pencampwr Paralympaidd a phencampwr dwbl Gemau’r Gymanwlad(gan ennill aur yn y Naid Hir T38 yn 2018 yn Awstralia ac aur yn y T37/38 100M yn2022 yn Birmingham) ar gyfer gwobr Chwaraeon gan y cyhoedd, ochr yn ochr â TîmPêl-droed Cenedlaethol Cymru a chwaraewr snwcer Liam Davies.
Yna dewiswyd rhestr fer o dri gan Bwyllgor Ymgynghorol Gwobrau Dewi Sant, gydagenillydd pob categori yn cael ei ddewis gan Brif Weinidog Cymru, Mr Mark Drakeford.
Roedd y chwaraewr pêl-fasged cadair olwyn Kai Hamilton Frisby – sy’n 16 oed, yndod o Aberystwyth ac yn gynharach eleni wedi cymryd rhan yn Her Rickshaw Plant Mewn Angen y BBC – hefyd ar restr fer Gwobr Person Ifanc Dewi Sant.
“Mae Olivia Breen wedi bod yn ffigwr amlwg ym myd chwaraeon Paralympaidd ersblynyddoedd lawer. Mae hi’n fodel rôl i gynifer o unigolion, nid yn unig i athletwyranabl ond i’r sector chwaraeon cyfan,” meddai Nathan Stephens, Uwch SwyddogLlwybr Perfformiad Chwaraeon Anabledd Cymru.
“Roedd ei llwyddiant anhygoel yng Ngemau’r Gymanwlad 2022 yn Birmingham yn un o eiliadau mwyaf nodedig Chwaraeon Anabledd Cymru yn y Gemau. Daeth hollwaith caled a phenderfyniad Olivia at ei gilydd wrth iddi groesi’r llinell, ac roedd y mynegiant ar ei hwyneb yn dweud y cyfan. Y diwrnod hwnnw rhannwyd ei chyffro a'illawenydd ar draws y genedl.
“Mae Chwaraeon Anabledd Cymru mor falch o’r hyn mae hi wedi’i gyflawni, ac ynhynod ddiolchgar am yr hyn y mae’n ei roi yn ôl i’r gymuned Gymraeg. Mae cael eihenwebu ar gyfer Gwobr Dewi Sant ar gyfer Chwaraeon yn glod anhygoel ac yn wiryn dangos yr effaith y mae’n ei chael ar y sector chwaraeon yng Nghymru a thuhwnt.
“Mae Livvy yn haeddu’r holl gydnabyddiaeth am ei brwdfrydedd parhaus a’rcyhoeddusrwydd cadarnhaol y mae’n ei roi i chwaraeon anabl a gweithgarwchcorfforol.”
So honoured to have won the St David’s award for Sport last night - wow! Was really sorry not to have been able to be there to collect the award but thank you so much @WelshGovernment for all the support and recognition - it means the world! ❤️🏴 https://t.co/T9btlqHPt9
— oliviabreen (@BreenOlivia) April 21, 2023