Bydd yr Ŵyl Para Chwaraeon aml-chwaraeon ac aml-leoliad wythnos o hyd yn cychwyn ddydd Llun (1 Awst) gyda’r digwyddiad Cyfres insport wyneb yn wyneb mwyaf ers 2019 – gyda dros 20 o chwaraeon i bobl o bob oed a phob gallu i ddod i roi cynnig arnynt, yn cael eu cyflwyno ym Mhrifysgol Abertawe (Campws Parc Singleton) gan Glybiau insport lleol a Chyrff Rheoli Cenedlaethol.
 
Bwriad y digwyddiad mawr yw cyflwyno pobl i chwaraeon fel athletau, boccia, bowls, criced, golff, carate, rhwyfo, rygbi, saethu targed, tennis, rygbi cadair olwyn (i enwi dim ond rhai) – a bydd yn ddiwrnod agoriadol teilwng iawn i’r Ŵyl Para Chwaraeon gyntaf, sy’n cynnig cyfle i ddarganfod hoff chwaraeon newydd neu ddoniau cudd, dod i wybod am Glybiau insport lleol, a bod yn actif mewn amgylchedd diogel, croesawgar, cynhwysol, sy’n agored i bobl anabl a phobl heb anabledd 5 oed a hŷn.
 
Mae chwaraeon wrth gwrs yn bwysig iawn ar gyfer lles meddyliol yn ogystal â chorfforol a gallai mynychu'r Ŵyl Para Chwaraeon newid eich bywyd.
 
Fel esiampl, does ond rhaid edrych ar Beth Munro. Mynychodd ddigwyddiad tebyg yng Ngogledd Cymru ac aeth oddi yno i roi cynnig ar taekwondo am y tro cyntaf a 18 mis yn ddiweddarach enillodd fedal arian yn y Gemau Paralympaidd yn Tokyo!

Beth Munro teaching children how to perform Taekwondo moves

“Rydw i’n falch iawn o gefnogi’r Ŵyl Para Chwaraeon fel model rôl,” meddai Beth.
 
“Rydw i eisiau i bobl ifanc gredu bod ganddyn nhw’r gallu, nid yr anabledd, i wneud yn dda yn y chwaraeon yma. Mae angen i unrhyw unigolyn anabl achub ar y cyfle a meddwl bod breuddwydion yn bosibl, oherwydd rydw i’n brawf byw eu bod nhw.”
 
Ac er mai hwyl, mwynhad a phrofi gwahanol chwaraeon am y tro cyntaf yw prif nod dydd Llun 1 Awst, bydd yr hyfforddwyr gorau o Chwaraeon Anabledd Cymru ac amrywiol Gyrff Rheoli Cenedlaethol wrth law i roi cyngor – yn ogystal â sgowtio ar gyfer y talentau i ennill y medalau Paralympaidd nesaf.  
 
I gymryd rhan yn niwrnod agoriadol yr Ŵyl Para Chwaraeon ddydd Llun 1 Awst, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw clicio ar parasportfestival.co.uk a chofrestru. Mae am ddim i gyd a bydd y rhai sy’n cymryd rhan ac yn rhoi cynnig arni yn derbyn bag nwyddau gan bartneriaid cyfres insport SPAR.

Dydd Llun 1 Awst yw'r cyntaf o saith diwrnod o ddigwyddiadau chwaraeon ar draws dinas a sir Abertawe.
 
Bydd dydd Mawrth 2 Awst yn cynnwys diwrnod Cyfres insport mawr arall ar gyfer y rhai sy'n mwynhau nofio, beicio a rhedeg - neu'n syml eisiau rhoi cynnig ar y tri. Yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â Thriathlon Cymru a Chyngor Abertawe, bydd y cyfranogwyr yn gallu cwblhau nofio byr yn y pwll yng Nghanolfan Hamdden Penlan, cyn beicio a rhedeg ar safle Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe gerllaw. Fel rhan o ddigwyddiad sydd wedi’i gynllunio i fod yn brofiad Triathlon cyntaf llawn hwyl, mae’n rhagflas o’r hyn sydd i ddod yn ddiweddarach yn ystod yr wythnos pan fydd yr athletwyr elitaidd yn cystadlu yng Nghyfres Para Triathlon y Byd Volvo 2022 Abertawe (dydd Sadwrn 6 Awst).
 
Ar ôl dechrau’r diwrnod cynt, mae dydd Mercher a dydd Iau (3-4 Awst) wedi’u neilltuo i’r gamp o saethu targed – rhywbeth y mae Cymru wastad wedi bod yn arbennig o dda am ei wneud – gyda’r cystadlaethau reiffl aer a phistol aer (yng Nghanolfan Tennis Abertawe) a saethu targedau (yng Nghlwb Reiffl Abertawe).
 
Dydd Gwener 5 Awst cynhelir cystadleuaeth Rygbi Saith Bob Ochr y Byddar: Cymru v Gwledydd Cartref ar Faes Rygbi a Chriced Sain Helen. Hwn fydd y twrnamaint cyntaf i garfan newydd Merched Cymru ac iddynt hwy a thîm Dynion Cymru bydd yn rhan o baratoadau URC ar gyfer Pencampwriaeth 7 Bob Ochr Byddar y Byd yn Cordoba (yr Ariannin, 5-9 Ebrill 2023) – wrth i’r dynion baratoi i amddiffyn y teitl a enillwyd ganddynt yn Sydney yn 2018.

Ospreys Wheelchair Rugby Team made up of 15 people with the Ospreys flag in the background

“Fe hoffwn i gofnodi fy niolch i Tom Rogers a phawb yn Chwaraeon Anabledd Cymru am roi’r cyfle i Rygbi Byddar Cymru arddangos ein carfanau yn yr Ŵyl Para Chwaraeon,” meddai rheolwr tîm Rygbi Byddar Cymru, James Savastano.
 
Mae dydd Sadwrn 6 Awst yn ddiwrnod gwych o chwaraeon, gyda Chystadleuaeth Rygbi Cadair Olwyn Agored gyntaf Cymru. Bydd pedwar clwb yn cystadlu yn nhwrnamaint WR5s – gyda Dreigiau Casnewydd a’r Gweilch yn cynrychioli De Cymru, RGC yn cynrychioli Gogledd Cymru ac o Loegr y Tiger Seals, a fydd yn cynnwys cyfuniad o chwaraewyr o Help 4 Heroes a Theigrod Caerlŷr. Cynhelir y twrnamaint yn y Brif Neuadd, LC Abertawe, ac un o’r cystadleuwyr fydd Kyran Bishop, Chwaraewr Rygbi Cadair Olwyn y Flwyddyn sydd gyda’r Gweilch ar hyn o bryd.
 
“Rydw i'n bwyta, cysgu ac anadlu rygbi cadair olwyn,” meddai Kyran.
 
“Mae wedi newid fy mywyd i mewn cymaint o ffyrdd ac mae gen i freuddwydion am fod yn Baralympiad un diwrnod.”

Hefyd yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn mae Aquathlon Anabledd GO TRI Abertawe. Mae hwn yn aquathlon anabledd-benodol ar gyfer newydd-ddyfodiaid sydd eisiau dod i gael hwyl, ac mae’n cynnwys nofio dŵr agored a rhedeg a gynhelir ar safle Cyfres Para Triathlon y Byd Abertawe oriau cyn i baratriathletwyr gorau’r byd ddechrau ar y cwrs.
 
I'r rhai sy’n ffafrio her anoddach, bydd cymal o Gyfres Uwch Paratri Triathlon Prydain yn cael ei gynnal ar yr un diwrnod, gan wahodd cystadleuwyr wedi a heb eu dosbarthu.
 
Hefyd bydd Cyfres Para Triathlon y Byd Volvo 2022 Abertawe yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn – lle bydd y paratriathletwyr gorau yn y byd yn brwydro yn erbyn ei gilydd yn ras baratriathlon annibynnol gyntaf Prydain ar y lefel hon.
 
Gan arddangos paratriathletwyr elitaidd o Brydain a ledled y byd, bydd y digwyddiad hwn sy’n addas i wylwyr yn cael ei gynnal ar lannau SA1 – lle bydd y man cychwyn, gorffen, trawsnewid a phentref y digwyddiad wedi eu lleoli.
 
Dydd Sul 7 Awst yw diwrnod olaf yr Ŵyl Para Chwaraeon, gyda Gornest Para Rwyfo Dan Do Agored Cymru yn cael ei chynnal yn y Brif Neuadd, LC Abertawe. Wedi’i chynllunio i roi cyfle i blant, pobl ifanc ac oedolion anabl gystadlu, boed am y tro cyntaf neu fel rhwyfwr dan do profiadol, mae llu o ddosbarthiadau i ddewis ohonynt – ac wrth i chi rwyfo ar beiriant rhwyfo, bydd lleoliad eich cwch yn cael ei arddangos ar sgriniau yn y neuadd.
 
A phwy a ŵyr, efallai y bydd yr Ŵyl Para Chwaraeon yn dod o hyd i’r seren ryngwladol nesaf i ddilyn yn ôl rhwyfau Ben Pritchard o’r Mwmbwls, a gystadlodd am y tro cyntaf yn y Gemau Paralympaidd yn Tokyo ac sy’n anelu am ennill medal ym Mharis yn 2024.
 
“’Allwch chi ddim diystyru sut gall chwaraeon newid bywyd rhywun, felly fe hoffwn i wahodd pawb i ddod draw i’r Ŵyl Para Chwaraeon a rhoi cynnig ar wahanol chwaraeon,” meddai Ben.

Ben Pritchard competing in the Rowing at the Tokyo 2020/21 Paralympic Games

Hefyd yn Abertawe y diwrnod hwnnw mae IRONMAN 70.3 Abertawe, gan gynnig slotiau cymhwyso ar gyfer Pencampwriaeth y Byd IRONMAN 70.3 2023 yn y Ffindir y flwyddyn nesaf.
 
Bydd Shockwave Digital yn ffrydio’n fyw y Rygbi Byddar Saith Bob Ochr: Cymru v Gwledydd Cartref, Cystadleuaeth Rygbi Cadair Olwyn Agored Cymru a Gornest Para Rwyfo Dan Do Agored Cymru – a fydd yn cael eu darlledu ar blatfformau YouTube a Facebook Chwaraeon Anabledd Cymru.
 
“Mae’r Ŵyl Para Chwaraeon yn cynnwys cymysgedd o ddigwyddiadau Cymryd Rhan a digwyddiadau Gwylio, ac rydyn ni’n falch iawn o fod wedi bod yn rhan o lunio amserlen anhygoel o bara-chwaraeon i’w mwynhau ar draws Abertawe,” meddai Tom Rogers, Rheolwr Partneriaethau yn Chwaraeon Anabledd Cymru.
 
“Gan weithio gyda nifer o bartneriaid hanfodol, bydd cyfleoedd i gymryd rhan, gwylio, a gwirfoddoli ar lawr gwlad i lefel para chwaraeon elitaidd ar gael yn ystod yr wythnos.
 
“Mae gweithgarwch corfforol, gan gynnwys chwaraeon, yn cael effaith gadarnhaol ar ein holl gymunedau ni ac mae’n bwysig ein bod ni’n sicrhau bod cyfleoedd yn bodoli i bawb gael mynediad at y buddion hyn. Ar draws yr Ŵyl Para Chwaraeon rydym yn gobeithio y gall pawb ddod o hyd i rywbeth ar eu cyfer a mwynhau amserlen anhygoel o bara chwaraeon.
 
“Diolch i’r holl bartneriaid, o Lywodraeth Cymru, Cyngor Dinas Abertawe, SPAR, Shockwave Digital a nifer fawr o Gyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol Cymru a Phrydain, sydd i gyd wedi gweithio gyda’i gilydd i greu wythnos brysur o weithgareddau o safon uchel fel rhan o gyfres insport a digwyddiadau para-chwaraeon cystadleuol ar draws y ddinas.” 


Dydd Llun 1 Awst

  • Cyfres insport Prifysgol Abertawe (Campws Singleton)

Mwy nag 20 o wahanol chwaraeon i roi cynnig arnynt, yn cael eu darparu gan Glybiau insport lleol a Chyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol – gan gynnwys: athletau, boccia, bowls, criced, golff, carate, rhwyfo, rygbi, saethu targed, tennis, rygbi cadair olwyn a llawer mwy.
 
Dydd Mawrth 2 Awst

  • Cyfres insport: Nofio, Beicio, Rhedeg, Canolfan Hamdden Penlan
  • Gŵyl Para Chwaraeon Saethu Targed: Reiffl Aer a Phistol Aer (Diwrnod 1), Canolfan Tennis Abertawe

 
Dydd Mercher 3 Awst

  • Gŵyl Para Chwaraeon Saethu Targed: Reiffl Aer a Phistol Aer (Diwrnod 2), Canolfan Tennis Abertawe

 
Dydd Iau 4 Awst

  • Gŵyl Para Chwaraeon Saethu Targed: Reiffl Bôr Bychan 50m, cystadleuaeth prôn, Clwb Reiffl Abertawe

 
Dydd Gwener 5 Awst

  • Rygbi Saith Bob Ochr Byddar: Cymru v Gwledydd Cartref, Cae Rygbi a Chriced Sain Helen, Abertawe

 
Dydd Sadwrn 6 Awst

  • Rygbi Cadair Olwyn Agored Cymru, Prif Neuadd, LC Abertawe
  • Aquathlon GO TRI Anabledd Abertawe
  • Uwch Gyfres Paratri Triathlon Prydain 2022 Abertawe
  • Cyfres Para Triathlon y Byd Volvo 2022 Abertawe, Glannau SA1

 
Dydd Sul 7 Awst

  • Para Rwyfo Dan Do Agored Cymru, Prif Neuadd, LC Abertawe
  • IRONMAN 70.3 Abertawe

 
I gofrestru i gystadlu a/neu wirfoddoli yn yr Ŵyl Para Chwaraeon, ewch i: parasportfestival.co.uk.
 
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Paul Evans, Swyddog Cyfathrebu ChAC, ar: paul@lloydbell.co.uk / 07710 743167


Pynciau yn yr erthygl hon:
insport SeriesinsportAbertaweSPAR UK (AF Blakemore Ltd)


Opsiynau Hygyrchedd

Maint testun

Dewiswch eich opsiwn gorau:



 

Lliw

Dewiswch eich opsiwn gorau:


 

Mae'r modd lliw Golau wedi'i ddylunio gan ddefnyddio lliwiau brand Chwaraeon Anabledd Cymru, i gwrdd â Lefel AA Canllaw Hygyrchedd Cynnwys Gwe. Dylai hyn ddarparu cyferbyniad da i'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr.

Mae'r modd lliw Tywyll hefyd yn defnyddio lliwiau brand Chwaraeon Anabledd Cymru, ond yn gwrthdroi golau a thywyllwch i greu fersiwn "modd nos". Fe'i bwriedir ar gyfer pobl nad ydynt yn hoffi sgriniau llachar, neu sy'n dymuno defnyddio eu harddangosfa mewn ffordd fwy ynni-effeithlon. Nid yw'r opsiwn hwn yn bodloni Lefel AA Canllaw Hygyrchedd Cynnwys Gwe, felly efallai na fydd yn addas ar gyfer defnyddwyr â nam ar eu golwg.

Mae'r modd lliw Tawel yn defnyddio lliwiau a allai fod yn fwy addas ar gyfer defnyddwyr sy'n sensitif i liwiau llachar, neu sy'n ffafrio cyferbyniad is. Nid yw'r opsiwn hwn yn bodloni Lefel AA Canllaw Hygyrchedd Cynnwys Gwe, felly efallai na fydd yn addas ar gyfer defnyddwyr â nam ar eu golwg.

Mae’r opsiwn Cyferbynnedd Uchel wedi’i deilwra i gyrraedd Lefel AAA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, a’i fwriad yw gwneud y wefan hon mor hygyrch â phosibl i ddefnyddwyr sydd â’r craffter gweledol isaf. Byddai defnydd delfrydol o'r gosodiad hwn yn cael ei gyfuno â maint testun Testun Canolig neu Testun Mawr.


Botymau

Mae ein steil botwm rhagosodedig yn defnyddio cefndiroedd lliw bloc sy'n cyferbynnu â chefndir y dudalen.

Gallwch newid hwn yn ddewisol i ddefnyddio botymau sy'n cynnal yr un lliw cefndir a lliw testun â phrif gynnwys y wefan, ac sy'n dynodi mai botwm gydag amlinelliad yw hwnnw. Gall hyn fod yn well gan ddefnyddwyr sy'n gallu darllen golau-ar-tywyll neu dywyll-ar-golau gyda mwy o gysur.

Dewiswch eich opsiwn gorau:



Priflythrennau

Gallwch ddewis lleihau'r defnydd o briflythrennau ar gyfer penawdau ac is-benawdau os ydych chi'n ei chael hi'n haws eu darllen mewn Achos Frawddeg. Gellir rhywfaint o destun, gan gynnwys acronymau, dangos mewn priflythrennau o hyd.

Dewiswch eich opsiwn gorau:



Opsiynau Cynnig

Mae'r wefan hon weithiau'n defnyddio animeiddio i ddod â'r cynnwys i fyw. Os hoffech chi analluogi hyn, gallwch chi wneud.

Dewiswch eich opsiwn gorau: