Bydd y bartneriaeth estynedig yn galluogi Chwaraeon Anabledd Cymru a SPAR i adeiladu ar lwyddiannau'r bartneriaeth 3 blynedd gychwynnol a pharhau i ddarparu cyfleoedd chwaraeon cynhwysol i oedolion a phobl ifanc anabl mewn cymunedau ledled Cymru. Er gwaethaf heriau'r pandemig, fe wnaeth y partneriaethau ffynnu a chyflwyno cyfleoedd ar draws Cymru i bobl anabl barhau yn actif mewn ffordd ddiogel a gwahanol.
Am y tair blynedd i ddod, prif ffocws y bartneriaeth fydd cefnogi Chwaraeon Anabledd Cymru i gynnal y digwyddiadau Cyfres insport, gyda'r bwriad o agor gweithgaredd corfforol a chwaraeon cynhwysol i blant, pobl ifanc ac oedolion anabl ar draws Cymru. Mae'r digwyddiadau ar ffurf ystod o gyfleoedd, o fewn amgylchedd lleol ac yn cael eu darparu gan glybiau insport lleol a Chyrff Rheoli Cenedlaethol sy'n sicrhau llwybr o'r digwyddiadau hynny i glybiau a sesiynau lleol cynhwysol o ansawdd da (Clybiau insport).
Gan arddangos pa gyfleoedd cynhwysol sydd ar gael yn lleol, mae'r fformat yn galluogi cyfranogwyr, hyfforddwyr, a rhwydwaith ehangach o wirfoddolwyr i ehangu eu profiadau, cael mynediad at chwaraeon nad ydynt efallai wedi ystyried eu bod ar gael neu'n hygyrch, a gwneud cysylltiadau â chlybiau lleol a chymuned ehangach; darparu cyfleoedd gwych, cynaliadwy o fewn amgylchedd cynhwysol. Yr elfen allweddol i gyfranogwyr, hyfforddwyr, a'r gwirfoddolwyr gwych yw cael hwyl ac mae darpariaeth i bawb waeth beth fo'u nam neu eu profiad o fod yn actif neu'n cymryd rhan mewn chwaraeon yn y gorffennol. Bydd cyfle addas i bawb.
Mae Awdurdodau Lleol, Cyrff Rheoli Cenedlaethol ar gyfer chwaraeon, a Chlybiau insport yn cefnogi'r digwyddiadau ledled Cymru, gyda phob digwyddiad yn amrywio o ran maint. Mae’r campau yn cynnwys saethyddiaeth, pêl-droed, criced, tennis bwrdd, pêl-fasged cadair olwyn, bowliau, beicio, tennis, rygbi cadair olwyn, carate, rasio cadair olwyn, boccia, golff, jiwdo, gymnasteg, dringo, a llawer mwy.
Dywedodd Fiona Reid, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Anabledd Cymru, "rydym yn falch iawn bod y bartneriaeth yn parhau am 3 blynedd arall. Mae tîm SPAR wedi bod yn hynod gefnogol ac yn angerddol dros gysylltu pobl anabl lleol â gweithgarwch cynhwysol lleol. Mae cymaint o gyfleoedd gwych yn cael eu darparu gan hyfforddwyr a gwirfoddolwyr yn eich cymuned leol, a chymaint o wahanol chwaraeon ar gael i ennyn eich diddordeb a chyflawni eich potensial. Rydym yn falch iawn o'r ffordd mae'r digwyddiadau yn cysylltu pobl, ac mae hwn yn gyfle cyffrous i adeiladu ar lwyddiant y tair blynedd gyntaf a pharhau i roi sylw i gyfleoedd cynhwysol ledled Cymru.”
Dywedodd Sarah Ellis, Cyfarwyddwr Marchnata Grŵp SPAR Wholesaler AF Blakemore, "Rydym yn hynod falch o'n perthynas â Chwaraeon Anabledd Cymru ac rydym yn falch iawn y gallwn barhau i gefnogi’r gwaith o gynnig chwaraeon cynhwysol i gymunedau Cymru. Mae ein siopau SPAR wedi'u gwreiddio yng nghanol cymunedau, yn cael eu rhedeg gan bobl leol ar gyfer pobl leol ac rydym wedi gweld yn uniongyrchol sut y gall gwaith Chwaraeon Anabledd Cymru sicrhau bod pob aelod o'r gymuned yn cael y cyfle i fwynhau manteision gydol oes gweithgarwch corfforol. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Fiona a'i thîm am dair blynedd arall.
Mae gwybodaeth am ddigwyddiadau Cyfres insport sydd ar y gweill i’w gweld yn https://www.insportseries.co.uk/, gan gynnwys cyfle i gofrestru i fynd i ddigwyddiadau mynediad rhad ac am ddim.
Diwedd
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Chwaraeon Anabledd Cymru ynoffice@disabilitysportwales.com
Nodiadau i’r Golygyddion:
A.F. Blakemore yw'r adran fwyaf o SPAR UK, sy'n berchen ar 280 o siopau SPAR ac yn gwasanaethu mwy na 960 ledled Cymru a Lloegr. Dyma ychydig mwy o wybodaeth am https://www.afblakemore.com/.

