LLWYDDIANT CYMRU YNG
Ngemau Olympaidd Arbennig y Byd 2023
Lleoliad: Berlin, Yr Almaen 🇩🇪
Pryd: 17 - 25 Mehefin 2023
Cyfrannodd athletwyr o Gymru 7 medal at gasgliad cyffredinol Gemau Olympaidd Arbennig Prydain Fawr. Llongyfarchiadau enfawr i’r holl athletwyr a gynrychiolodd Brydain Fawr a Chymru yn Berlin eleni!
AUR
- Bleddyn Gibbs - Codi Pŵer
- Ethan Orton - Cystadleuaeth Senglau Badminton
ARIAN
-
Ethan Orton - Cystadleuaeth Timau Badminton
-
Llinos Gilmore Jones - Cystadleuaeth Senglau Bocce
-
Llinos Gilmore Jones - Cystadleuaeth Timau Bocce
-
Michael Beynon - Cystadleuaeth Timau Bocce
EFYDD
- Joshua Longbottom - Taflu Maen
Dewch i gwrdd â’n chwe athletwr o Gymru sydd wedi’u dewis i gynrychioli Prydain Fawr yng Ngemau Haf y Byd y Gemau Olympaidd Arbennig 2023:
Llongyfarchiadau i athletwyr Gemau Olympaidd Arbennig Cymru (SOW) sydd wedi cael eu dewis i gynrychioli Prydain Fawr yng Ngemau Haf y Byd y Gemau Olympaidd Arbennig 2023 yn Berlin rhwng 17 a 25 Mehefin.
ATHLETWYR CYMRU A’U CHWARAEON CYSTADLEUOL:
- Bleddyn Gibbs, 18, o Aberdaugleddau, Sir Benfro | Codi Pŵer
- Ethan Thomas Orton, 22 | Badminton
- Joshua Longbottom, 28 | Llanfihangel Tal y lyn, Aberhonddu | 100m Ras Gyfnewid Gymysg a Thaflu Maen
- John Hayes, 30 | Abertawe | 100m, 200m a ras gyfnewid
- Llinos Gilmore Jones, 40 | Llanelli, Sir Gaerfyrddin | Boccia
- Michael Beynon, 27 | Y Waun, Sir Wrecsam | Boccia
Dymunodd y Prif Weinidog Mark Drakeford “bob llwyddiant” i’r chwe athletwr mewn digwyddiad a gynhaliwyd yn y Senedd ar 5ed Mehefin 2023.
Ychwanegodd Dr Stephen Walker, pennaeth y ddirprwyaeth ar gyfer tîm Prydain Fawr: "Dyma'r hufen yn wir. Mynd i Gemau'r Byd yw'r digwyddiad gorau y gallant fynd iddo yn y byd." (BBC Wales)
Gemau Olympaidd Arbennig Cymru yw’r darparwr mwyaf ar raglenni hyfforddi a chystadlu chwaraeon ar gyfer pobl ag anableddau deallusol (dysgu).
Mae mwy o wybodaeth am y Gemau Olympaidd Arbennig ar gael yma: https://www.specialolympics.org
Pob lwc!