Mae Chwaraeon Anabledd Cymru am nodi a recriwtio chwaraewyr yn y Categorïau Dan 14 a Dan 18 ar gyfer Pencampwriaethau Iau Cenedlaethol Pêl-fasged Cadair Olwyn Prydain eleni a gynhelir yn Worcester ar Awst 3ydd a 4ydd 2024.
-
Cystadleuaeth dan 14 – 14 oed neu iau ar 31 Awst 2024. Yr oedran ieuengaf y gall chwaraewr gofrestru yn y gystadleuaeth dan 14 yw 10 ar adeg y gystadleuaeth
-
Cystadleuaeth dan 18 – 17 oed neu iau ar 31ain Awst 2023. Yr oedran ieuengaf y gall chwaraewr gofrestru yn y gystadleuaeth dan 18 yw 14 am hanner nos ar 31ain Gorffennaf 2023
Bydd treialon ar gyfer timau Dan 14 a Dan 18 yn cael eu cynnal dydd Sul 23 Mehefin 2024 yn Y Cawell Chwaraeon, Canolfan Chwaraeon, Prifysgol Aberystwyth, Campws Penglais Aberystwyth, Ceredigion SY23 3AR. Bydd treialon yn cael eu cynnal rhwng 11yb a 2yp.
I fod yn gymwys i gystadlu dros Gymru rhaid i chi fodloni o leiaf un o’r canlynol:
-
Ganwyd yng Nghymru
-
Yn byw'n barhaol yng Nghymru
-
Mynychu ysgol / coleg / prifysgol sydd wedi'i lleoli yng Nghymru
-
Un neu fwy riant wedi'u geni yng Nghymru (gan gynnwys rhieni mabwysiadol)
-
Chwaraewr Cofrestredig mewn tîm sydd wedi’i leoli yng Nghymru (e.e. y Gynghrair Genedlaethol; Uwch Gynghrair y Merched, Cynghrair y Merched; Cynghrair Iau) yn ystod tymor 2023/24
I gofrestru eich diddordeb i fynychu llenwch y ffurflen trwy glicio ar y ddolen isod:
Ffurflen Treialon Pêl-fasged Cadair Olwyn
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch:

Cyfeiriwch ataf fel: E / Fe / Fo