Mae Insport yn gynllun chwaraeon a ddarperir gyda chefnogaeth Chwaraeon Cymru, sy'n ceisio cefnogi darpariaeth addas a chynhwysol ar gyfer y rheiny sydd ag anableddau yn y sector chwaraeon a hamdden.
Mae'r rhaglen Insport yn cynnig nifer o safonau gwahanol gan ddechrau gyda’r rhuban - hyd at Efydd, Arian ac Aur. Llwyddodd Undeb Rygbi Cymru i ennill statws Aur ym mis Mai 2022 ac yn dilyn cyfnod adolygu o 18 mis – mae’r safonau Aur wedi cael eu cynnal wrth barhau i weithio'n gynhwysol a gwella eu cynnig ar gyfer plant ac oedolion anabl. Mae'r broses hon yn cynnwys derbyn argymhellion a wnaed gan banel o unigolion sy'n cynrychioli Chwaraeon Anabledd Cymru a'r sector ehangach.
Mae cyflawni safon Aur Insport yn golygu bod agwedd, meddylfryd, strategaeth a gweithredoedd URC ac unrhyw sefydliad arall sy’n derbyn y safon Aur yn gynhwysol. Nid yw ennill y safon Aur yn ddiwedd y daith ond yn hytrach yn gydnabyddiaeth o’r gwaith sydd eisoes wedi ei wneud – gyda’r dealltwriaeth y bydd y ddarpariaeth, y safonau a’r lefelau ymrwymiad yn parhau, gyda meysydd ffocws wedi'u nodi i sicrhau cynnydd pellach.
Dywedodd Donna Bullivant-Evans, Uwch Swyddog Insport, Chwaraeon Anabledd Cymru:
"Mae URC wedi dangos cynnydd mewn meysydd a argymhellwyd ac a flaenoriaethwyd. ‘Roedd hynny’n cynnwys tyfu eu gweithlu sy'n canolbwyntio ar gynhwysiant a darparu cefnogaeth ac arweinyddiaeth - i sicrhau cysondeb o ran y ddarpariaeth rygbi sydd ar gael ledled Cymru. Mae’r cydweithio gyda’r partneriaid rhanbarthol, staff HWB, Clybiau Cymunedol Cynhwysol, ysgolion, a chlybiau cymunedol i’w ganmol. Mae'n wych gweld bod dros 100 o Swyddogion HWB bellach ar waith ledled Cymru a bod cynhwysiant yn rhan allweddol o'u gwaith."
"Trwy gryfhau y broses o gasglu data – mae’n cynnig arweiniad clir wrth lywio cyfeiriad a darpariaeth y dyfodol. Mae cadw’r Safon Aur yn cynnig cyfle gwych i URC hyrwyddo rygbi anabledd ymhellach a chodi’r proffil hwnnw ar draws pob rhan o'r sefydliad".
Darren Carew yw Rheolwr Cenedlaethol Cynhwysiant URC, ac mae wedi bod yn rhan allweddol o'r broses o gryfau’r ddarpariaeth yn y cyd-destun hwn. Enillodd URC y safon Rhuban yn wreiddiol a thrwy welliant cyson – mae’r Safon Aur wedi ei sicrhau unwaith eto. Dywedodd Darren Carew:
“Mae’r cynllun Insport wedi cynnig arweiniad amhrisiadwy i ni wrth i bawb gydweithio er mwyn gwneud ein camp yn fwy cynhwysol i bawb. ‘Roedd yr arweiniad hwnnw’n arbennig o werthfawr ar ddechrau’n taith sydd wedi’n harwain at sicrhau’r Safon Aur. Ar ôl derbyn y gydnabyddiaeth honno, rhoddodd yr adolygiad amserlen benodol i ni allu gweithredu’r argymhellion a ddaeth yn sgil hynny. Mae hynny wedi sicrhau nad ydym yn gorffwys ar ein rhwyfau, fel ein bod yn parhau i wella’n darpariaeth ac yn parhau hefyd i fod yn deilwng o’r Safon Aur.
"Wrth geisio dal ein gafael ar y Safon Aur, ‘roedd y profiad o gyflwyno i'r panel adolygu am ein gwaith yn wych. ‘Roedd ceisio cywasgu cymaint o’r gwaith sydd wedi ei wneud yn dipyn o her – a rhoddodd gyfle i ni ystyried y cynnydd pellach a wnaed gan Undeb Rygbi Cymru a'n partneriaid rhanbarthol gwych. ‘Rwy'n croesawu'r argymhellion ychwanegol ddaeth o'r adolygiad a byddaf yn gweithio gyda phawb o fewn ein sefydliad a'n partneriaid, i sicrhau ein bod unwaith eto yn eu gweithredu - ac yn rhagori arnynt - er mwyn gwella darpariaeth rygbi cynhwysol yng Nghymru".
Wrth ystyried ymrwymiad URC i’r cynllun Insport dros y chwe blynedd diwethaf, dywedodd Fiona Reid, Prif Weithredwr Chwaraeon Anabledd Cymru :
"Dechreuodd y gwaith gyda sawl aelod brwdfrydig ac angerddol o’r Undeb a Chyngor Anabledd Cymru ac mae bellach wedi tyfu i fod yn rhywbeth sy'n greiddiol yng ngwaith yr holl swyddogion HWB. Mae’r ffaith bod rygbi cynhwysol yn rhan allweddol o ddigwyddiadau amlwg fel ‘Y Ffordd i’r Principality’ yn hynod o bwysig a thrwy gydweithio gyda’n gilydd ar y cynllun Insport – mae hyn wedi arwain at feithrin partneriaethau cryf gyda sefydliadau fel Rygbi Cadair Olwyn Prydain Fawr hefyd."
“Gall URC wneud mwy i sicrhau bod cynhwysiant pobl anabl yn cael ei adlewyrchu a’i flaenoriaethu ym mhob maes o'u darpariaeth wrth gwrs. Dyna yw’r pwrpas o barhau i gyd-weithio gyda'n gilydd. Wedi dweud hynny, mae'n wych gweld y gwahaniaeth sydd eisoes wedi ei wneud – a’r cynlluniau newydd sydd ar fin eu cyflwyno hefyd. Mae’r argymhellion y mae’r panel wedi eu gwneud ar gyfer y 18 mis nesaf yn heriol ac yn canolbwyntio ar welliant parhaus, ac edrychwn ymlaen at barhau i gefnogi eu cynnydd."
Nodiadau:
Mae Insport yn gynllun Chwaraeon Anabledd Cymru sy'n ceisio cefnogi'r sectorau gweithgarwch corfforol, chwaraeon a hamdden sy'n cynnig darpariaeth gynhwysol i bobl anabl.
Mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi datblygu pecynnau cymorth i gefnogi clybiau, cyrff llywodraethu cenedlaethol ac Awdurdodau Lleol i ddarparu safonau rhagorol o gynhwysiant i bobl anabl mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae'r rhain wedi'u rhannu trwy gynlluniau: Clwb insport, insport NGB, a Phartneriaethau insport.
Mae pob Cynllun Insport yn cynnwys safon Rhuban, Efydd, Arian ac Aur.