Ein Cynnig Cymraeg
Cydnabyddiaeth swyddogol y Comisiynydd yw’r Cynnig Cymraeg a chaiff ei rhoi i sefydliadau sydd wedi cydweithio â swyddogion y Comisiynydd i gynllunio darpariaeth Gymraeg uchelgeisiol. Mae’n cefnogi cynllun tymor hir y Comisiynydd i sicrhau y gall pobl ddefnyddio’r iaith Gymraeg ymhob agwedd o’u bywydau, ac ar draws Cymru.
Rydym wedi gweithio gyda Comisiynydd y Gymraeg i ddatblygu darpariaeth Gymraeg ein sefydliad. Derbyniodd gydnabyddiaeth y Comisiynydd ar 3ydd Mehefin 2024.
Fel sefydliad mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn falch o'r ystod o'r Cynnig Cymraeg rydym yn gallu ei ddarparu ar draws nifer o feysydd. Gan weithio ar draws timau’r sefydliad, rydym wedi amlygu meysydd gwasanaeth allweddol sydd ar gael o fewn ein prif Cynnig Cymraeg.
Addysg a Dysgu
Hyfforddiant ag adnoddau cynhwysiant ar gyfer hyfforddwyr, gwirfoddolwyr, a staff addysg ar-lein ac yn bersonol ar gael yn ddwyieithog.
Adnoddau Clybiau a Phartneriaid
Darperir cynlluniau gwersi addysg, thempledi, a chanllawiau ar gyfer clybiau yn Cymraeg a Saesneg.
Tîm Cymraeg
Mae gan Chwaraeon Anabledd Cymru aelodau tîm ar draws pob rhan o'r sefydliad sy'n gallu darparu gwasanaethau a chymorth yn llawn yn Gymraeg.
Gwefan
Mae gennym wefan a gwefannau ehangach; www.insportseries.co.uk, a www.parasportfestival.co.uk) sydd yn cynnig opsiwn Cymraeg i alluogi cyrchu pob elfen o’r wefan yn Gymraeg.
Cyfathrebu
Mae cyfryngau cymdeithasol a phob cyfathrebiad uniongyrchol bob amser yn cael eu rhannu'n ddwyieithog gyda'r Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu darparu gyda statws cyfartal.
Cyfeiriwch ataf fel: Hi