Ymuno
Dewch o hyd i'ch Clwb insport neu sesiwn agosaf:
Mae mwy na 170 o glybiau ar draws y wlad wedi cyrraedd Safon RhubanClwb insportneu uwch, gan ddarparu cyfleoedd cynhwysol ac anabledd-benodol ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Mwy na miliwn o gyfleoedd
Yn 2019 cefnogodd Chwaraeon Anabledd Cymru dros filiwn o gyfleoedd i bobl anabl gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Gyda dros 750 o glybiau a sesiynau ar draws Cymru, o Saethyddiaeth i Godi Pwysau rydym yn hyderus bod gennym ni gyfle sy’n iawn i chi.
Beth am roi cynnig ar ein hofferyn darganfod clwb i weld pa glybiau a sesiynau sydd ar garreg eich drws! Fel arall, cysylltwch â'ch Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru lleol sydd yno i'ch cyfeirio at y cyfeiriad cywir.
Mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi ymrwymo i gefnogi’r sector chwaraeon i ddod yn fwy cynhwysol, ac rydym bob amser yn chwilio am glybiau newydd, hyfforddwyr newydd a gwirfoddolwyr newydd a all ein helpu i gyflawni’r nod hwn.
Newyddion Cymunedol
Digwyddiadau Cyfres insport
Mae digwyddiadau Cyfres insport yn darparu cyfleoedd chwaraeon cynhwysol i oedolion a phobl ifanc anabl ledled Cymru.
Cynhwysiant + chwaraeon = insport
Mae insport yn brosiect gan Chwaraeon Anabledd Cymru a ddarperir gyda chefnogaeth Chwaraeon Cymru, sydd â’r nod o gefnogi’r sectorau gweithgaredd corfforol, chwaraeon a hamdden i ddarparu pobl anabl yn gynhwysol.
Mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi datblygu fframweithiau i gefnogi Clybiau, Cyrff Rheoli Cenedlaethol (CRhC) ac Awdurdodau Lleol i gyflawni safonau cynhwysiant rhagorol i bobl anabl mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol.