Cyfarwyddyd ar gyfer Marchnata Cynhwysol
Pam gwneud cyfathrebu yn hygyrch?
23% o’r boblogaeth oedran gweithio (16 i 64 oed) yng Nghymru yn ystyried eu hunain fel pobl â nam. Dyna 713,000 o bobl.
Ffynonellau: Stats Wales: Summary of economic activity in Wales by year and disabled status.
1 o bob 12 (8%) o ddynion, a 1 o bob 200 (0.5%) o merched yn y DU â diffyg golwg lliw (Dall i Liw). Mae hyn yn cynrychioli tua 133,000 o bobl yng Nghymru.
Ffynonellau: NHS.uk
1 o bob 8 (12%) o boblogaeth Cymru heb gyrraedd Lefel 1 mewn sgiliau llythrennedd sylfaenol. Dyna 380,000 o bobl.
Ffynonellau: Institute of Welsh Affairs 2015
63% o Oedolion Anabl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon lai nag unwaith yr wythnos.
Ffynonellau: Active Wales Survey 2018
Sut i gyrraedd eich cynulleidfa
-
Cyfeirio’n benodol at unrhyw gyfleoedd cynhwysol
-
Defnyddio amrywiaeth o sianelau cyfathrebu – Cyfryngau Cymdeithasol, Papurau Newydd, Radio, sefydliadau ac elusennau anabledd
-
Nodi’n glir sut gall unigolyn ofyn am fformatau adnoddau eraill (cysylltwch â sefydliadau anabledd am gefnogaeth os ydych chi’n ansicr am fformatau)
-
Po fwyaf cynhwysol yw’r adnodd marchnata, y lleiaf tebygol ydyw y bydd rhywun angen fersiwn amgen
Mae’r datrysiadau yn aml yn fychan ac am bris isel/dim cost. Datblygiadau lluosog a ddatblygir gyda’i gilydd sy’n cael yr effaith fwyaf yn aml o ran hygyrchedd.