Cyfarwyddyd ar gyfer Marchnata Cynhwysol
Ystyriaethau Digidol a Chyfryngau Cymdeithasol
- Ystyriwch ddefnyddio delweddau, darluniau, fideo, sain a symbolau i helpu i egluro ystyr - Defnyddiwch dagiau alt i ychwanegu disgrifiad at unrhyw ddelweddau
- Peidiwch â gorddefnyddio Hashnodau (uchafswm o 3), gwnewch yn siŵr bod pob hashnod yn dechrau gyda phrif lythyren fel bod y darllenydd sgrin yn ei adnabod
- Sicrhau bod hyperddolenni'n ddisgrifiadol ac yn glir
- Defnyddio capsiynau ac isdeitlau ar gyfer fideos - mae hyn yn agor y cynnwys i bawb ac nid dim ond y rhai sydd â nam ar eu clyw
- Dim ond os yw'n ychwanegu gwerth at y cynnwys ddylid defnyddio GIF
-
Ymhelaethwch ar unrhyw acronymau wrth eu defnyddio am y tro cyntaf. Er enghraifft, Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau (WCAG).
-
Defnyddiwch benawdau yn gywir i drefnu strwythur eich cynnwys
-
Gwnewch yn siŵr bod yr holl gynnwys ar gael mewn ffordd resymegol
-
Gwnewch yn siŵr bod y gwrthgyferbyniad lliw yn ddigonol ar bob dolen / botwm
-
Rhowch brif lythyren i lythyren gyntaf pob gair mewn hashnod, (sef ysgrifen cefn camel; y gwahaniaeth rhwng #cyfryngaucymdeithasolchac a #CyfryngauCymdeithasolChAC)
-
Osgowch ddefnyddio acronymau yn eich negeseuon
-
Os oes gennych chi hyperddolen yn eich neges, nodwch pa fath o adnodd mae’n arwain ato drwy nodi [LLUN], [FIDEO] neu [SAIN]
-
Defnyddiwch fyrhawr URL (Tiny URL neu arall) i leihau nifer y llythrennau yn yr hyperddolen
- Gosodwch grybwylliadau a hashnodau ar ddiwedd eich neges
- Defnyddiwch dagiau ALT ar gyfer delweddau.
- Ychwanegu ffeil capsiynau, neu ddefnyddio gwasanaeth capsiwn YouTube ar gyfer fideos Facebook:
- Cliciwch ar Edit ar ôl uwchlwytho fideo ac ychwanegu ffeil SubRip Subtitle (SRT)], sydd hefyd yn fformat ffeil capsiynau fideo. neu
- Uwchlwythwch eich fideo i YouTube i ddechrau ac ychwanegu capsiynau yno.
-
Mae Facebook yn ychwanegu testun alt wedi’i gynhyrchu gan beiriant yn awtomatig.
Mae'r nodwedd hon yn rhoi gwybodaeth gyffredinol: a oes ceir, coed, dŵr neu bobl ynddynt. Er bod y nodwedd hon yn ddefnyddiol, nid yw'n darparu cymaint o gyd-destun â thestun alt a gynhyrchir gan bobl.
I newid testun alt y llun ar ôl ei bostio-
Cliciwch ar y llun i’w agor.
-
Cliciwch ... yn y top ar y dde a dewis Change Alt Text.
-
Cliciwch ar Override generated alt text neu newid y testun alt yn y bocs testun. Gallwch hefyd glicio ar Clear i newid eich testun alt wedi’i olygu yn ôl i’r testun a gynhyrchwyd yn awtomatig.
-
Cliciwch ar Save.
-
-
Dylech osgoi defnyddio acronymau yn eich negeseuon
-
Hoffwch dudalen Hygyrchedd Facebook am ddiweddariadau am nodweddion hygyrchedd newydd