Cyfarwyddyd ar gyfer Marchnata Cynhwysol
Teipograffeg
Dewiswch ffurfdeip priodol (ffont)
Mae ffontiau San Serif fel Arial, Helvetica, neu Verdana yn cynnig mwy o eglurder na ffontiau serif fel Times New Roman, Garamond neu Georgia.
Defnyddio PRIF LYTHRENNAU i gyd, ac felly nid yw ffontiau nad ydynt yn cynnwys ffurfiau llythrennau bach fel Trajan neu Bebas Neue yn addas i’w defnyddio. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer testun a osodir dros sawl llinell.
Tracio ac Arwain
Dylid addasu’r tracio (y gofod rhwng llythrennau) a’r arwain (y gofod rhwng llinellau o destun) gan roi ystyriaeth ofalus. Mae tracio ac arwain sy’n rhy dynn neu’n rhy agored yn amharu’n ddifrifol ar eglurder.
Gall arwain sy’n rhy dynn achosi gwrthdrawiad (lle mae dwy linell o destun yn cyffwrdd ei gilydd neu’n gorgyffwrdd), a gall arwain sy’n rhy agored wneud i linellau edrych fel nad oes cysylltiad rhyngddynt, gan amharu ar lif y darllen.
Paragraffu
Pan mae testun yn cael ei osod dros ddwy linell neu fwy, er mwyn sicrhau’r hygyrchedd gorau, dylech wneud y canlynol:
- Alinio testun i’r chwith; mae hyn yn ei gwneud yn haws i ddarllenydd ddod o hyd i ddechrau llinell newydd. Mae alinio testun i’r dde neu’r canol yn gwneud hyn yn llawer mwy anodd. Gall alinio union achosi i ofod rhwng geiriau fod yn afreolaidd, gan effethio ar eglurder hefyd.
- Gosodwch destun mewn paragraffau sy’n 52 i 78 llythyren o led. Mae llinellau sy’n rhy fyr neu’n rhy hir yn llai cyfforddus i’w darllen.
Maint Testun
Dylai 12 pwynt fod yn isafswm ar gyfer paragraffau o destun. Mae 14 pwynt yn well, ac yn ddelfrydol os yw hyn yn bosib, a dylid ei ystyried fel isafswm ar gyfer dogfennau Darllen Hawdd.
Ewch ati i greu hierarchaeth glir drwy chwyddo penawdau ac is-benawdau yn hael.
Dewisiadau steil ar gyfer pwyslais
Mae defnyddio testun trwm, neu addasu’r raddfa yn cael ei ffafrio yn lle defnyddio italeg neu destun wedi’i danlinellu pan rydych chi eisiau creu pwyslais.
Mae testun trwm neu wedi’i chwyddo yn cynnal neu’n cynyddu eglurder, ac mae italeg neu danlinellu’n gallu amharu arno.