Swyddi Chwaraeon Anabledd Cymru
Ar hyn o bryd mae dau (2) gyfle ar gael i weithio gyda Chwaraeon Anabledd Cymru.
Gyfra Cymru x Chwaraeon Anabledd Cymru
Mae Gyrfa Cymru/Gweithio Cymru a Chwaraeon Anabledd Cymru yn cydweithio i ddarparu cymorth cydgysylltiedig i bobl anabl ac heb anabledd sydd efallai â diddordeb mewn gweithio i sefydliad chwaraeon fel Chwaraeon Anabledd Cymru ond sydd angen cymorth pellach i lunio eu ffurflenni cais neu i wybod mwy am sut i ymddangos yn hyderus mewn cyfweliad:
I fynychu’r gweithdy Cymorth gyda Ffurflenni Cais am Swydd
Ynglŷn â’r sesiwn hon:
Ymunwch â David Alford yn y sesiwn ryngweithiol hon am sut i ysgrifennu cais gwych am swydd. Gan ddefnyddio enghreifftiau o Chwaraeon Anabledd Cymru, bydd David yn eich tywys drwy’r pethau i’w gwneud a’r pethau i’w hosgoi wrth lunio ffurflen gais, a’r elfennau pwysig i’w cynnwys i sicrhau eich bod yn cael cyfweliad hollbwysig.
Dyddiad: 14 Mai 2025
Amser: 14:00 – 15:00 (2yp – 3yp)
Fformat: Teams neu gallwch drefnu sesiwn wyneb yn wyneb gyda chynghorydd
I fynychu’r gweithdy Gwella’ch Techneg Gyfweld
Ynglŷn â’r sesiwn hon:
Ymunwch â David Alford yn y sesiwn ryngweithiol hon ar sut i fod mor hyderus â phosibl wrth fynychu cyfweliad am swydd. Bydd David yn trafod sut i strwythuro eich atebion i gwestiynau a ofynnir i chi, awgrymiadau gorau ar baratoi ar gyfer y cyfweliad, rhai o’r cwestiynau y gallech eu disgwyl, a pha gwestiynau y gallech chi eu gofyn i’r panel cyfweld.
Dyddiad: 4 Mehefin 2025
Amser: 14:00 – 15:30 (2yp – 3:30yp)
Fformat: Teams neu gallwch drefnu sesiwn wyneb yn wyneb gyda chynghorydd

Cyfleoedd gyda Phartneriaid Chwaraeon Anabledd Cymru
Mae’r cyfleoedd hyn ar gael i ymuno â sefydliadau sy’n cefnogi chwaraeon anabledd a chwaraeon para:
Gwybodaeth am weithio i Chwaraeon Anabledd Cymru

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd ac yn croesawu ceisiadau gan bawb sy’n ystyried eu hunain yn gymwys ar gyfer y rôl. Rydym yn cymryd rhan yn y cynllun ‘Cynnig cyfweliad’, os ydych yn nodi eich bod yn berson anabl ac yn bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd, ystyriwch ddewis yr opsiwn ‘Cynnig cyfweliad’ ar eich ffurflen gais.
Hafan Disability Confident (Saesneg): https://disabilityconfident.campaign.gov.uk/