Polisi Recriwtio Chwaraeon Anabledd Cymru
Cynnwys
- Ymrwymiad i Amrywiaeth
- Pwrpas y Polisi
- Cwmpas
- Egwyddorion Craidd
4.1. Anabledd - Y Weithdrefn Dewis a Recriwtio
5.1. Cynllunio
5.2. Swydd-ddisgrifiad a Manylebau Personol
5.3. Hysbysebu - Prosesu ceisiadau
6.1. Llunio rhestr fer
6.2. Dewis ar gyfer cyfweliad - Prosesau dewis
7.1. Y Broses Gyfweld
7.2. Cysylltu â Chanolwyr
7.3. Penodi - Cyfnod ymsefydlu
8.1. Rhaglen ymsefydlu
8.2. Cyfnod prawf - Cadw yn y rôl ar ôl y cyfnod prawf
9.1. Ymrwymiad i Gadw - Terfynu cyflogaeth
- Monitro
- Cyfrifoldeb
1. Ymrwymiad i Amrywiaeth
Mae Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru yn ystyried bod amrywiaeth yn ymwneud â chydnabod, parchu a gwerthfawrogi gwahanol brofiadau, canfyddiadau, diwylliannau, ffyrdd o fyw ac agweddau yn seiliedig ar aelodaeth o grwpiau sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig (gan gynnwys hil; ethnigrwydd; crefydd, ffydd neu gred; rhyw; hunaniaeth rhywedd; cyfeiriadedd rhywiol; nam; statws priodasol; statws rhiant; oedran; ymlyniad gwleidyddol; a mamiaith).
Mae Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth gan ei bod yn galluogi trafodaeth, cynllunio, datblygiad ac arfer o ansawdd uchel; ac mae wedi ymrwymo i greu amrywiaeth yn y gweithle, y tîm arwain (gan gynnwys y Bwrdd) a’r aelodaeth er mwyn meithrin ei lwyddiannau fel sefydliad creadigol, arloesol, deinamig a chynhwysol.
Mae rhyngweithiad Polisïau ChAC i’w weld yn Atodiad 1: Diagram Llif Polisïau ChAC, ac mae’n amlygu dull ChAC o weithredu mewn perthynas ag amrywiaeth, tegwch a chydraddoldeb drwy ei bolisïau ac felly ei brosesau.
2. Pwrpas y Polisi
Pwrpas y Polisi Recriwtio hwn yw sicrhau bod Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru bob amser yn ymgysylltu ag arfer recriwtio sydd:
-
yn diogelu ac yn amddiffyn lles unigolion sy’n ymwneud â rhaglen ChAC
- yn sicrhau amrywiaeth yn y gweithle
- yn rhoi proses ar waith sy’n cadw ac yn gwerthfawrogi staff drwy ddull proffesiynol o weithredu
- yn gyfiawn, yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn deg o ran proses
3. Cwmpas
Mae’r Polisi hwn yn ymestyn i gynnwys pob agwedd ar bolisi, gweithdrefn ac arfer sy’n gysylltiedig â dewis a recriwtio. Dylai holl staff Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru sy’n ymwneud â hysbysebu swyddi, dewis darpar gyflogeion a’u recriwtio fod yn ymwybodol o’r Polisi, a sicrhau eu bod yn dilyn y prosesau a nodir ynddo. Y Cyfarwyddwr Gweithredol sydd â chyfrifoldeb am hyn yn y pen draw.
4. Egwyddorion Craidd
-
Ymrwymiad i sicrhau mynediad at wybodaeth yn ymwneud â swyddi newydd yn y sefydliad, prosesau dewis a recriwtio, ac mae penodi i’r swyddi hyn yn agored i bawb, ac yn darparu profiad teg, cyfiawn ac effeithlon i bob ymgeisydd, beth bynnag yw canlyniad y penodiad.
-
Bydd ymarferion recriwtio, llunio rhestr fer a dyrchafiad, ac ymarferion dewis eraill fel dewis ar gyfer diswyddo, yn cael eu gwneud ar sail teilyngdod, yn unol â meini prawf gwrthrychol sy’n osgoi gwahaniaethu. Bydd yr holl weithdrefnau o’r fath yn amodol ar Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb cychwynnol Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru.
-
Mae Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru yn credu bod gan bawb yr hawl i wneud cais am gyflogaeth, a chael swydd mewn sefydliad sy’n mynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, ac yn darparu diwylliant heb unrhyw wahaniaethu, aflonyddu ac erlid.
-
Bod amrywiaeth a thegwch yn cael eu gwerthfawrogi a’u dathlu’n glir yn Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru.
-
Bydd penodiadau’n cael eu gwneud ar sail sgiliau a chymwyseddau unigol a bydd yr unigolyn mwyaf priodol ar gyfer y rôl yn cael ei benodi heb ragfarn. Bydd Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru bob amser yn rhoi cyfle i ymgeiswyr nodi arfer teg drwy gydol y broses dewis a recriwtio er mwyn sicrhau bod pawb yn cael yr un cyfleoedd o ran dewis, cyfweld a phenodi.
-
Mae Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru yn gyflogwr Cadarn o Blaid Pobl Anabl, a bydd yn gweithredu’n gadarnhaol pan fydd angen i hyrwyddo cyfleoedd i bob cymuned.
-
Bydd staff Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru sy’n cymryd rhan yn y broses dewis a recriwtio yn sicrhau bod y broses yn cael ei chynnal mewn ffordd gynhwysol, teg, proffesiynol, amserol ac ymatebol, a thrwy gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth gysylltiedig yn ymwneud â chyflogaeth a thegwch.
-
Bydd yr holl wybodaeth a data personol sy’n cael eu caffael drwy’r broses dewis a recriwtio yn cael eu trin yn gyfrinachol, ac yn unol â’r ddeddfwriaeth Diogelu Data, a Phrotocolau Rhannu Gwybodaeth Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru.
-
Mae cynnal cyfrededd, gweithredoedd ac arferion gorau mewn arferion recriwtio yn hanfodol, a bydd Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru yn sicrhau bod polisïau a phrosesau’n cael eu diweddaru’n gyson, a bod syniadau a dulliau newydd yn cael eu hadlewyrchu.
-
Yr allwedd i sicrhau amgylchedd diogel ar gyfer gweithgarwch corfforol, gan gynnwys chwaraeon, mewn cyd-destun hamdden neu gystadleuol, yw gwarantu arferion dewis a recriwtio cadarn. Bydd arweiniad a deddfwriaeth sy’n gysylltiedig â diogelu a lles yn cael eu hadlewyrchu ym mhrosesau Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru.
-
Pan fydd angen, bydd staff Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru yn cael cyfle ar gyfer hyfforddiant cychwynnol a pharhaus sy’n berthnasol i ddewis a recriwtio.
-
Bydd yr holl ffurflenni, hysbysebion a gwybodaeth yn cael eu darparu yn y Gymraeg a’r Saesneg, a bydd yr holl ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i wneud eu ceisiadau naill ai yn y Gymraeg neu yn Saesneg.
-
Bydd yr holl fformatau amgen a hygyrch ar gyfer yr holl wybodaeth am recriwtio yn cael eu darparu pan fo angen.
4.1 Anabledd
-
Fel cyflogwr sydd wedi ymrwymo i Hyder ag Anabledd, bydd pob person anabl sy’n gwneud cais am swydd yn y sefydliad yn cael ei roi ar y rhestr fer, ar yr amod ei fod yn bodloni 80% o’r meini prawf hanfodol.
-
Os oes gennych chi nam neu os cewch nam tra byddwch yn gyflogedig gyda Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru, rydym yn eich annog i ddweud wrthym am hyn er mwyn i ni allu eich cefnogi fel sy’n briodol.
-
Os byddwch yn profi heriau yn y gwaith oherwydd nam, efallai yr hoffech gysylltu â’ch rheolwr llinell i drafod unrhyw addasiadau rhesymol a fyddai’n helpu i oresgyn neu leihau’r heriau hyn. Efallai y bydd eich rheolwr llinell eisiau ymgynghori â chi a’ch ymgynghorydd/ymgynghorwyr meddygol ynghylch addasiadau posib.
-
Ni fyddwn fyth, yn fwriadol, yn defnyddio cyfleusterau neu adeiladau sy’n rhoi unrhyw un â nam dan anfantais o ran mynediad a rhyddid i symud yn y gofod hwnnw.
5. Y Weithdrefn Dewis a Recriwtio
Mae nifer o gamau allweddol yn gysylltiedig â dewis a recriwtio staff i swyddi newydd mewn ffyrdd diogel, amrywiol, teg a phroffesiynol. Mae’r Polisi hwn yn nodi’r prosesau sylfaenol; mae’r manylion sy’n sail i bob cam wedi’u cynnwys ym Mhrosesau Recriwtio Chwaraeon Anabledd Cymru.
5.1 Cynllunio
-
Bydd y rôl newydd yn cael ei chyfiawnhau’n ffurfiol i Fwrdd Cyfarwyddwyr/Ymddiriedolwyr Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru, ac yn gysylltiedig â chyfeiriad strategol craidd y Ffederasiwn gan bennu’r costau yn llawn.
-
Bydd recriwtio staff newydd yn seiliedig ar anghenion Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru am sgiliau, gwybodaeth a chymwyseddau penodol, a bydd, yn ychwanegol, yn adlewyrchu ymrwymiad Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru i gynrychioli gweithlu amrywiol er mwyn darparu chwaraeon anabledd, a chwaraeon ar gyfer pobl anabl, yn y ffordd orau, ar gyfer pawb sy’n dymuno cymryd rhan.
-
Bydd cynllunio’r holl ddeunyddiau (swydd-ddisgrifiad, manylebau personol) sy’n gysylltiedig â recriwtio yn destun Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb cychwynnol, a bydd Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb llawn yn cael ei gynnal yn ôl yr angen, i sicrhau bod y rôl yn briodol ac yn hygyrch i unrhyw ddarpar gyflogai.
5.2 Swydd-ddisgrifiad a Manylebau Personol
-
Bydd Manyleb Bersonol ar gyfer y rôl yn cyd-fynd â phob Swydd-ddisgrifiad, a fydd yn cynnwys cyfeiriad penodol at y sgiliau, y cymwysterau, yr wybodaeth a’r profiad hanfodol a dymunol sy’n gysylltiedig â’r swydd.
-
Ni fydd nodi’r Manylebau Personol hyn yn gwahaniaethu’n anuniongyrchol yn erbyn grwpiau sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig.
5.3 Hysbysebu
- Bydd swyddi gwag yn cael eu hysbysebu i adran amrywiol o’r farchnad lafur, a bydd Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru yn gweithredu’n gadarnhaol i hysbysebu swyddi newydd yn y wasg, ar y cyfryngau neu mewn ffynonellau recriwtio eraill sy’n cael eu targedu at gymunedau y nodwyd eu bod yn rhannu nodwedd warchodedig (neu nifer o nodweddion gwarchodedig). Bydd pob swydd yn cael ei hysbysebu drwy bartneriaid (chwaraeon) sy’n canolbwyntio ar degwch, gan gynnwys:
Partneriaid Chwaraeon Sporting Equals: www.sportingequals.org.uk/about-us/contact-us.html
WCVA: www.recruit3.org.uk/
Cymdeithas Chwaraeon Cymru www.wsa.wales/vacancies/
Chwaraeon Cymru: www.sport.wales/careers/
UK Sport: https://jobs.uksport.gov.uk/
Women in Sport
LGBT+ Sport Cymru
Partneriaid di-chwaraeon Disabled Workers: www.disabledworkers.org.uk/careers/employers/default.asp
Charity Jobs: https://www.charityjob.co.uk/
Find a Job website: www.gov.uk/advertise-job
Diverse Cymru: https://diversecymru.org.uk/vacancies/
Evenbreak: www.evenbreak.co.uk/en
Disability Job Site: www.disabilityjobsite.co.uk/
-
Bydd pob rôl yn cael ei hysbysebu gan gynnwys datganiad ar amrywiaeth a thegwch a fydd yn tynnu sylw at y ffaith bod Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru yn gyflogwr sydd wedi ymrwymo i fod yn Gadarn o Blaid Pobl Anabl.
-
Bydd yr holl hysbysebu yn ddwyieithog a bydd ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i ofyn am ragor o wybodaeth am y rôl, a chyflwyno eu cais mewn iaith a fformat, sy’n gweddu orau i’w hangen.
-
Ni fydd hysbysebion yn stereoteipio nac yn defnyddio geiriad a allai atal grwpiau penodol rhag gwneud cais. Byddant yn cynnwys datganiad polisi byr ar gyfle cyfartal a bydd copi o’r polisi hwn ar gael yn y pecyn recriwtio.
- Os yw hynny’n berthnasol ac yn briodol, bydd staff Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru sy’n cael eu hadleoli yn cael mynediad at swyddi gwag cyn iddynt gael eu hysbysebu’n ehangach.
-
Bydd Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru yn cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth Adsefydlu Troseddwyr.
- Bydd angen i unrhyw staff sydd â swyddi dros dro yn Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru, sydd wedyn yn cael eu hysbysebu fel swyddi parhaol, wneud cais am y swydd pan gaiff ei hysbysebu.
- Mewn rhai sefyllfaoedd penodol, gall Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru ddefnyddio Asiantaeth Recriwtio i reoli’r broses dewis a recriwtio ar gyfer swyddi gwag. Bydd Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru yn sicrhau bod unrhyw Asiantaeth Recriwtio a ddefnyddir yn dangos arfer gorau mewn perthynas ag amrywiaeth a thegwch.
-
Bydd Ffurflen Monitro Tegwch yn cyd-fynd â phob ffurflen gais a bydd yn cael ei darparu ar wahân i’r brif ffurflen gais, gan ofyn am wybodaeth sy’n ymwneud ag aelodaeth o gymunedau sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig unigol neu luosog.
6. Prosesu ceisiadau
6.1 Llunio rhestr fer
-
Bydd yr holl ymgeiswyr yn cael eu hysbysu o fewn 48 awr, yn y fformat y gwnaethant gyflwyno eu cais, bod eu cais wedi ei dderbyn.
- Bydd rhestr fer yn cael ei llunio ar ôl y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais, a bydd yn cynnwys o leiaf 2 unigolyn sy’n gysylltiedig â Chwaraeon Anabledd Cymru sy’n meddu ar y sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad perthnasol i ymgymryd â’r dasg hon.
-
Bydd mwy nag un person yn llunio’r rhestr fer. Bydd ein gweithdrefnau recriwtio’n cael eu hadolygu bob dwy flynedd i sicrhau bod unigolion yn cael eu trin ar sail eu cyfatebiaeth yn erbyn gwerthoedd a nodwyd ymlaen llaw a meini prawf yn seiliedig ar gymhwysedd.
- Bydd y rhestr fer yn cael ei llunio drwy fesur yr wybodaeth a ddarperir yn y cais yn erbyn y meini prawf sydd wedi’u nodi ar gyfer y rôl ac yn y fanyleb bersonol.
-
Bydd y rhestr fer yn cael ei llunio o fewn 10 diwrnod i’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais.
6.2 Dewis ar gyfer cyfweliad
-
Bydd yr ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael 7 diwrnod gwaith o rybudd am ddyddiad y cyfweliad.
- Bydd yr holl ymgeiswyr sy’n cael eu gwahodd i gyfweliad yn cael eu hysbysu yn ysgrifenedig (neu mewn fformat arall fel y gofynnir), ac ar e-bost (os bydd cyfeiriadau e-bost ar gael), gyda gwybodaeth am ddyddiad, amser a lleoliad y cyfweliad, yn ogystal â manylion am unrhyw dasgau penodol y gallai fod angen iddynt eu paratoi, neu gyflwyniadau y gallai fod angen iddynt eu gwneud, fel rhan o’r broses gyfweld.
-
Gall Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru ddarparu dyddiadau cyfweld eraill o dan amgylchiadau eithriadol.
- Os bydd ymgeiswyr wedi nodi bod ganddynt unrhyw ofynion dysgu neu gyflwyno penodol, bydd Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru yn cysylltu â’r unigolyn i weld pa offer neu adnoddau penodol (os o gwbl) sydd eu hangen, ac os bydd angen amser estynedig i gwblhau’r broses gyfweld.
-
Bydd yr holl addasiadau i’r broses gyfweld yn cael eu gwneud yn unol â disgresiwn Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru, yn unol â Pholisi Tegwch y Ffederasiwn, cyfleoedd cyfartal, ac ar y cyd â’r ymgeisydd.
-
Os defnyddir technoleg ddigidol yn y broses recriwtio, byddwn bob amser yn sicrhau nad yw hyn yn peri unrhyw anfantais i’r ymgeisydd.
7. Prosesau Dewis
7.1 Y Broses Gyfweld
- Ni ddylid gofyn i ymgeiswyr am swydd am eu hiechyd neu nam/anabledd cyn cynnig swydd iddynt. Ceir eithriadau cyfyngedig y dylid eu defnyddio gyda chymeradwyaeth gan yr adran Adnoddau Dynol yn unig. Er enghraifft:
-
Cwestiynau angenrheidiol i benderfynu a all ymgeisydd gyflawni rhan hanfodol o’r swydd (yn amodol ar unrhyw addasiadau rhesymol).
- Cwestiynau i benderfynu a yw ymgeisydd yn addas i fynychu asesiad neu unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod angen eu gwneud mewn cyfweliad neu asesiad.
-
Gweithredu’n gadarnhaol i recriwtio pobl anabl.
-
Monitro cyfleoedd cyfartal (ni fydd hyn yn rhan o’r broses gwneud penderfyniadau).
-
-
Os oes angen, gellir gwneud cynigion swyddi yn amodol ar archwiliad meddygol boddhaol.
-
Bydd y broses gyfweld yn amrywio gan ddibynnu ar natur y rôl y mae’r unigolyn yn ymgeisio amdani, ond gallai gynnwys y canlynol:
-
Trafodaeth sy’n cynnwys cwestiynau sy’n cael eu gofyn gan banel o unigolion sy’n cynrychioli Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru
-
A Cyflwyniad gan yr ymgeisydd i’r panel (wyneb yn wyneb neu’n rhithwir)
-
Tasg neu gyfres o dasgau sy’n berthnasol i’r swydd ac sy’n cael eu gosod gan y panel, a’u cwblhau o fewn amserlen benodol. Gallai hyn gynnwys gweithgarwch technegol, technolegol neu ymarferol
-
Gweithgaredd grŵp, naill ai gydag ymgeiswyr eraill am yr un rôl, neu gydag unigolion a ddewiswyd i gwblhau’r gweithgaredd ar ran Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru
-
Cyflwyno portffolio o waith, ac ati
-
-
Ni fydd cwestiynau’n cael eu gofyn i ymgeiswyr am swydd a allai awgrymu bwriad i wahaniaethu ar sail Nodwedd Warchodedig. Er enghraifft, ni ofynnir i ymgeiswyr a ydynt yn feichiog neu’n bwriadu cael plant. Ni fydd ymgeiswyr yn cael eu holi am faterion yn ymwneud ag oedran, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, neu ailbennu rhywedd heb gymeradwyaeth gan yr adran Adnoddau Dynol (a ddylai ystyried i ddechrau a yw materion o’r fath yn berthnasol ac a oes modd eu hystyried yn gyfreithlon).
- Mae’n ofyniad cyfreithiol i Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru sicrhau bod gan bob cyflogai hawl i weithio yn y DU. Ni ddylid gwneud rhagdybiaethau am statws mewnfudo ar sail ymddangosiad neu genedligrwydd amlwg. Rhaid i’r holl ddarpar gyflogeion, beth bynnag fo’u cenedligrwydd, allu dangos dogfennau gwreiddiol (fel pasbort) cyn dechrau mewn swydd, i fodloni’r ddeddfwriaeth fewnfudo bresennol. Mae’r rhestr o ddogfennau derbyniol ar gael gan Adran Fisas a Mewnfudo y DU.
-
Bydd yr holl ymgeiswyr yn cael gwybod am faint fydd y broses gyfweld yn para yn fras, ac yn cael yr amserlen yn y llythyr cychwynnol sy’n eu gwahodd i gyfweliad.
-
Cysylltir ag ymgeiswyr a chynigir y swydd, neu rhoddir adborth yn amlinellu pam nad oeddent yn llwyddiannus, cyn gynted ag y bo modd ar ôl y broses gyfweld. Os bydd nifer o ddyddiadau ar gyfer y broses gyfweld, bydd yr ymgeiswyr yn cael gwybod am y dyddiadau amrywiol, a byddant yn cael gwybod am y canlyniad cyn gynted ag y bo modd ar ôl y cyfweliad olaf.
7.2 Cysylltu â Chanolwyr
-
Bydd unrhyw gynnig yn cael ei wneud yn amodol ar dderbyn geirdaon boddhaol, i gynnwys geirdaon cymeriad ynghylch gonestrwydd a didwylledd yn ogystal â geirdaon proffesiynol.
- Gofynnir am eirdaon cyn gynted ag y bydd Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru wedi derbyn cadarnhad ysgrifenedig gan yr ymgeisydd llwyddiannus ei fod yn derbyn y swydd.
Bydd Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru yn gofyn am o leiaf ddau eirda, ac mae’n RHAID i un o’r rhain fod gan y cyflogwr diweddaraf.
-
Bydd Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru yn defnyddio geirdaon bob amser, ac ni chaiff unrhyw gynnig o swydd ei gadarnhau’n derfynol nes derbynnir y geirdaon ac y gellir cadarnhau bod yr wybodaeth a roddodd yr ymgeisydd llwyddiannus yn y broses gyfweld yn gywir.
-
Mae pob geirda yn gyfrinachol; fodd bynnag, gallai ymgeisydd ofyn am gael gweld y geirda a ddarparwyd gan ei ganolwr. Bydd Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru yn trefnu bod yr wybodaeth hon ar gael i ymgeiswyr bob amser.
-
Os yw’r rôl yn cynnwys gweithgarwch a reoleiddir sy’n gofyn am archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, bydd yr ymgeisydd yn cael gwybod bod Chwaraeon Anabledd Cymru yn cadw’r hawl i ddiddymu ei gynnig o swydd os caiff lefelau amhriodol o risg eu hamlygu drwy eu prosesau Lles, neu os caiff Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru ei atal yn gyfreithiol rhag defnyddio’r unigolyn mewn gweithgarwch a reoleiddir gan ei fod ar y rhestr waharddedig ar gyfer gweithio gydag Oedolion neu Blant.
7.3 Penodi
-
Ar ôl derbyn geirdaon priodol a chadarnhad gan yr unigolyn sydd wedi cael cynnig y rôl yn Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cynnig dyddiad dechrau/bydd dyddiad dechrau yn cael ei gytuno, a bydd contract yn cael ei anfon at yr unigolyn i’w lofnodi.
-
Os oes gofynion Mynediad at Waith, bydd Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru yn gweithio gyda’r ymgeisydd llwyddiannus i sicrhau bod adnoddau a chymorth priodol yn cael eu darparu o ddechrau ei benodiad.
-
Dylid trin staff rhan amser a staff cyfnod penodol yr un fath â staff llawn amser neu staff parhaol tebyg a dylent gael mwynhau telerau ac amodau yr un mor ffafriol (ar sail pro-rata os yw hynny’n briodol), oni bai fod cyfiawnhad dros eu trin yn wahanol.
7.4 Hsbysiad Preifatrwydd
-
Byddwn yn cadw’r holl ddata ymgeisio yn unol â’n Hatodlen Cadw Data. Bydd yr wybodaeth a ddarperir gan yr holl ymgeiswyr sydd heb gyrraedd y rhestr fer yn cael ei dileu’n ddiogel o fewn 5 diwrnod i gam cyntaf y cyfweliadau. Bydd hyn yn galluogi cysylltu â’r unigolion sydd ar y rhestr hir efallai os bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer wedi tynnu’n ôl cyn y cyfweliad.
-
Bydd data gan ymgeiswyr na chafodd eu penodi i swyddi’n cael eu dileu’n ddiogel o fewn 5 diwrnod i lofnodi a dychwelyd contract gan yr ymgeisydd a benodir. Bydd hyn yn galluogi (os yw hynny’n briodol) cynnig y swydd i ymgeisydd arall os gwrthodir cynnig o swydd gan ymgeisydd arall.
-
Dim ond ar gyfer y canlynol fydd Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru yn defnyddio eich gwybodaeth:
a) Cysylltu â chi gyda gwybodaeth am gam nesaf eich cais (rhoi gwybod i chi eich bod/nad ydych ar y rhestr fer, eich bod/nad ydych wedi cael cynnig y swydd, ac i lunio contract).
b) Monitro cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y broses ymgeisio a recriwtio. Bydd yr holl wybodaeth cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ddienw a chyfrinachol ac yn cael ei dinistrio’n ddiogel ar ôl penodi.
8. Cyfnod Ymsefydlu
8.1 Rhaglen ymsefydlu
Mae Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru yn darparu rhaglen ymsefydlu gynhwysfawr a fydd yn cael ei rheoli gan reolwr llinell yr aelod newydd o staff. Bydd hyn yn cynnwys y canlynol:
-
Ymgyfarwyddo â’r adeilad lle bydd yr aelod newydd o staff yn gweithio
- Gwybodaeth am allanfeydd tân ac argyfwng sy’n berthnasol i’r adeilad, a gofynion mynediad y cyflogai newydd
-
Ymgyfarwyddo â Llawlyfr Staff Chwaraeon Anabledd Cymru
- Ymgyfarwyddo â Pholisi Iechyd a Diogelwch Chwaraeon Anabledd Cymru
-
Hyfforddiant cynhwysiant anabledd
- Hyfforddiant Cydraddoldeb Cyffredinol (darperir drwy gysylltiadau allanol)
- Gwybodaeth ac ymgyfarwyddo sy’n benodol i’r swydd
- Rhaglen waith a datblygu rhaglen waith bersonol
- Hyfforddiant Diogelu a Lles ac ymgyfarwyddo â Pholisïau Lles a phecynnau adnoddau Chwaraeon Anabledd Cymru
- Ymgyfarwyddo â Pholisi Tegwch Chwaraeon Anabledd Cymru
- Rhaglen waith ac Adolygiadau Datblygu Perfformiad
8.2 Cyfnod Prawf
Mae Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru yn defnyddio cyfnod prawf o chwe mis ar gyfer pob penodiad newydd. Bydd cynnydd a pherfformiad yn erbyn nodweddion hanfodol y rôl (fel y nodwyd yn y manylebau personol) yn pennu a fydd y cyfnod prawf yn cael ei ymestyn, neu a yw’r cyfnod prawf yn cael ei gadarnhau a bod yr aelod staff yn cael swydd barhaol.
9. Cadw yn y rôl ar ôl y cyfnod prawf
- Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn cydnabod bod cadw staff o ansawdd da, effeithiol a gwerthfawr yn hanfodol; ac mae’n hyrwyddo cysondeb o ran gweithio mewn partneriaeth, sy’n rheswm i fuddsoddi mewn hyfforddiant a dysgu proffesiynol parhaus, ac felly gweithlu cynyddol arloesol, hynod fedrus sy’n cael ei barchu.
- Bydd anghenion hyfforddi’n cael eu datgan drwy gyfarfodydd rheolaidd gyda rheolwyr llinell. Bydd holl aelodau’r tîm yn cael mynediad priodol at hyfforddiant i’w galluogi i wneud cynnydd yn y sefydliad, a bydd yr holl benderfyniadau am ddyrchafiadau’n cael eu gwneud ar sail teilyngdod.
- Bydd cyfansoddiad y gweithlu a dyrchafiadau’n cael eu monitro’n rheolaidd i sicrhau cyfle cyfartal ar bob lefel yn y sefydliad.
- Caiff ein hamodau gwasanaeth, ein buddion a’n cyfleusterau eu hadolygu’n rheolaidd i sicrhau eu bod ar gael i bawb maent yn berthnasol iddynt ac nad oes unrhyw rwystrau’n atal mynediad atynt.
9.1 Ymrwymiad i Gadw
- Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn cydnabod y bydd heriau penodol i unigolion sy’n aelodau o grwpiau sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig mewn perthynas â’r amgylchedd gwaith. Yn ystod yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb cychwynnol yng nghyswllt y polisi hwn, nodwyd yr ymrwymiadau canlynol (yn gysylltiedig â heriau cyffredin a nodwyd) a pholisïau y cyfeirir atynt i amlygu sut gellir cefnogi cadw staff drwy fynd i’r afael â’r heriau cyffredin hyn yn rhagweithiol.
- Er mwyn sicrhau bod staff yn cael eu cadw, mae Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru yn ymrwymo i’r canlynol, ac mae ganddo bolisi ar waith i gefnogi’r ymrwymiadau hyn:
Dull hyblyg o weithredu gydag arferion gwaith er mwyn sicrhau cydbwysedd rhwng ymrwymiadau personol ac ymrwymiadau gwaith |
---|
ChAC yn cefnogi Polisi ac Arferion:
Polisi Gweithio Hyblyg: Llawlyfr Staff |
Cymorth a strwythurau gweithle i gefnogi gofynion newydd neu barhaus ar gydweithwyr yn eu bywyd personol neu broffesiynol |
---|
ChAC yn cefnogi Polisi ac Arferion:
Polisi Absenoldeb oherwydd Profedigaeth: Llawlyfr Staff |
Mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu sy’n cefnogi datblygiad sgiliau personol a phroffesiynol |
---|
ChAC yn cefnogi Polisi ac Arferion:
Polisi Amser o’r gwaith ar gyfer Hyfforddi: Llawlyfr Staff |
Darparu amgylchedd gweithio cynhwysol, teg a diogel heb unrhyw wahaniaethu |
---|
ChAC yn cefnogi Polisi ac Arferion:
Polisi Chwythu’r Chwiban: Llawlyfr Staff |
Lleoliadau gweithle hygyrch |
---|
ChAC yn cefnogi Polisi ac Arferion:
Polisi Gweithio Gartref: Llawlyfr Staff |
Ffyrdd o gyfathrebu’n agored |
---|
ChAC yn cefnogi Polisi ac Arferion:
Polisi Chwythu’r Chwiban: Llawlyfr Staff 2016 |
Mynediad at gefnogaeth yn y gwaith |
---|
ChAC yn cefnogi Polisi ac Arferion:
Polisi Iechyd a Diogelwch: Llawlyfr Staff |
-
Mae Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru yn gweithredu’n llym mewn perthynas ag achosion o fynd yn groes i’r polisi hwn, ac ymdrinnir ag achosion o’r fath yn unol â’n Gweithdrefn Ddisgyblu. Bydd achosion difrifol o wahaniaethu bwriadol yr un fath â chamymddwyn difrifol a byddant yn arwain at ddiswyddo.
-
Os ydych yn credu eich bod wedi profi gwahaniaethu, gallwch godi’r mater drwy ein Gweithdrefn Gwyno neu drwy ein Polisi Gwrth-Aflonyddu a Gwrth-Fwlio, fel sy’n briodol. Os ydych yn ansicr ynghylch pa un sy’n berthnasol neu fod angen cyngor arnoch ar sut i fwrw ymlaen, dylech siarad â’ch rheolwr llinell, neu, os nad yw hyn yn bosib, y Prif Weithredwr. Bydd cwynion yn cael eu trin yn gyfrinachol ac ymchwilir iddynt.
-
Ni ddylid erlid na dial ar unrhyw aelod o staff sy’n cwyno am wahaniaethu. Ond, bydd gwneud honiad ffug yn fwriadol yn cael ei drin fel camymddwyn ac yn cael sylw o dan ein Gweithdrefn Ddisgyblu.
10. Terfynu cyflogaeth
-
Byddwn yn sicrhau bod meini prawf a gweithdrefnau diswyddo yn deg a gwrthrychol ac nad ydynt yn gwahaniaethu yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol.
-
Byddwn hefyd yn sicrhau bod gweithdrefnau disgyblu a chosbau yn cael eu rhoi ar waith heb wahaniaethu, os ydynt yn arwain at rybuddion disgyblu, diswyddo neu gamau disgyblu eraill.
11. Monitro
I sicrhau bod y polisi hwn yn gweithredu’n effeithiol, ac er mwyn nodi’r grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli neu o dan anfantais yn ein sefydliad, rydym yn monitro grŵp ethnig, rhywedd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd ac oedran ymgeiswyr fel rhan o’r weithdrefn recriwtio. Darperir y wybodaeth hon yn wirfoddol ac ni fydd yn cael effaith niweidiol ar siawns unigolyn i gael ei recriwtio nac ar unrhyw benderfyniad arall sy’n gysylltiedig â’i gyflogaeth. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei thynnu o geisiadau cyn llunio rhestr fer, a’i chadw mewn fformat dienw at y dibenion a nodir yn y polisi hwn yn unig. Mae dadansoddi’r data hyn yn ein helpu i gymryd camau priodol i osgoi gwahaniaethu a gwella cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Bydd yr holl brosesau recriwtio yn cael eu monitro trwy’r prosesau canlynol:
-
Holiadur dilynol gydag unigolion a benodir am y broses, y gefnogaeth a’r arferion cysylltiedig â’r profiad recriwtio gyda Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru
-
Cymharu prosesau, arferion a pholisïau Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru yn erbyn rhai sefydliadau eraill tebyg yn y DU, a chyrff rheoli cenedlaethol yn y byd chwaraeon yng Nghymru
-
Gwirio pa mor gyfredol yw’r polisi a’r weithdrefn yn unol â deddfwriaeth ac arweiniad mewn perthynas ag arferion recriwtio da a theg
-
Cymeradwyo’r polisi drwy ymgynghorwyr cyfreithiol Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru, Dolmans
-
Ardystio a chymeradwyo’r Polisi Recriwtio bob blwyddyn gan Fwrdd Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymr
-
Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb Cychwynnol wedi’i gwblhau (Ebrill 2022). Dyddiad yr adolygiad nesaf: Ebrill 2024.
12. Cyfrifoldeb
Mae’n gyfrifoldeb i bob aelod o’r tîm sy’n ymwneud â’r prosesau recriwtio sicrhau bod arfer gorau’n cael ei weithredu bob amser wrth hysbysebu, penodi ac ymsefydlu aelod newydd o staff yn Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru; a sicrhau eu bod wedi’u paratoi’n briodol ac yn fedrus mewn meysydd arferion recriwtio a chyfle cyfartal. Prif Weithredwr Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru sydd â chyfrifoldeb yn y pen draw am ba mor gyfredol a phriodol yw Polisi Recriwtio Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru, a’r defnydd ohono.