Ffurflen #Ysbrydoli
Mae ymgyrch #ysbrydoli Chwaraeon Anabledd Cymru (ChAC) yn ffordd i chi, neu rywun rydych yn ei adnabod, roi gwybod i ni bod gennych chi botensial i gyflawni mwy mewn para chwaraeon a / neu chwaraeon anabledd.
I’n gwneud yn ymwybodol o hyn, mae gwybodaeth benodol y mae’n rhaid i ni ei chasglu gennych chi nawr (yr wybodaeth ar y ffurflen hon) ac mae ChAC yn casglu hon fel rhan o lunio contract i’ch cefnogi chi. Efallai bod gwybodaeth y bydd arnom ei hangen gennych chi yn y dyfodol, ac efallai y bydd rhaid i ni gael eich caniatâd ar gyfer rhywfaint o’r wybodaeth hon – ond byddwn yn gofyn i chi am hynny pan fydd arnom ei hangen. Os bydd rhaid i ni ofyn am fwy o wybodaeth, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth rydym ei angen, pam rydym ei angen, beth fyddwn yn ei wneud gyda’r wybodaeth, a sut byddwn yn ei chadw wedyn.
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth ar y ffurflen hon ar gyfer y canlynol:
- Ein helpu i ddeall eich potensial a pha chwaraeon sydd gennych chi brofiad ohonynt eisoes.
- Cysylltu â chi i siarad gyda chi am beth fyddech yn hoffi gallu ei gyflawni mewn chwaraeon
Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda phobl eraill yn ChAC (Swyddog Datblygu ChAC efallai, y Prif Weithredwr a’r Swyddog Gweinyddol, ac ati) neu â CRhC (Corff Rheoli Cenedlaethol) ar gyfer camp y gallech ymwneud â hi. Os ydym yn rhannu gwybodaeth, byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud hynny’n ddiogel a bod y bobl sy’n ei derbyn yn gofalu amdani a hefyd yn ei chadw’n ddiogel.
Gallwch ddweud wrthym am stopio defnyddio neu rannu eich gwybodaeth ar unrhyw adeg, ond gall hyn ein hatal ni rhag gallu eich cefnogi chi hyd eithaf ein gallu. Os ydych chi eisiau i ni stopio defnyddio eich gwybodaeth, cysylltwch ag: inspire@disabilitysportwales.com
Bydd ChAC yn cadw eich gwybodaeth am y cyfnod tra rydych yn ymwneud â ni, ac am 12 mis ar ôl hynny. Os ydych chi eisiau cael mwy o wybodaeth am beth mae hyn i gyd yn ei olygu, cysylltwch â Tîm Llwybr Perfformio ChAC.