Hyfforddiant Cynhwysiant Anabledd y DU
Mae prosiect Hyfforddiant Cynhwysiant Anabledd y DU wedi bod yn garreg filltir – y gyntaf o’i bath mewn chwaraeon anabledd ac mae’n dynodi newid mawr yn arferion gweithio Sefydliadau Chwaraeon Anabledd y Gwledydd Cartref (SChAGC), sef Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloeg.
Yn hanesyddol, mae hyfforddiant cynnwys anabledd wedi cael ei gyflwyno gan bob SChAGC a chan amrywiaeth o ddarparwyr allanol ym mhob un o’r pedair gwlad. Mae 5 fersiwn o weithdy HCA y DU yn awr ac mae’r fersiwn Hyfforddwyr a Gwirfoddolwyr yn un o’r rhain. Mae hyn yn golygu y byddwch yn cael profiad penodol sy’n adlewyrchu amrywiaeth eich anghenion chi, ac yn datgan ac yn cadarnhau arferion da yn eich maes chi yn y diwydiant gweithgarwch corfforol, chwaraeon a hamdden.
HCA y DU Lefel 1
Bwriad Dysgu: Mae'n rhoi cyflwyniad sylfaenol i ymarfer cynhwysol sydd wedi'i anelu at bawb sy'n awyddus i wneud sesiynau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn fwy cynhwysol.
- Modiwl Dysgu Ar-lein 60 munud
- Ar gael yn Gymraeg a Saesneg
- Gellir ei gwblhau ar unrhyw adeg gyfleus
- Wedi'i ddatblygu mewn partneriaeth â Chwaraeon Anabledd yr Alban
- Yn cynnwys fideos, cwisiau, a dyfernir tystysgrif ar y diwedd
- Yn rhad ac am ddim!
HCA y DU Lefel 2
Bwriad Dysgu: Mae'n rhoi cyflwyniad i ymarfer cynhwysol a dealltwriaeth o'r theori y tu ôl iddo. Mae'r cwrs hwn wedi'i anelu at hyfforddwyr lefel 1 a thu hwnt sy'n awyddus i wneud sesiynau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn fwy cynhwysol. Mae'n ymdrin ag archwilio'n fanwl ddylanwad canfyddiadau a phrofiadau, deddfwriaeth a dosbarthiadau.
Modiwl Dysgu Ar-lein 60 munud a Sesiwn Theori Ystafell Ddosbarth Ddigidol 1 awr drwy Zoom
- Ar gael yn Gymraeg, Saesneg, ac yn gwbl hygyrch
- Yn cynnwys trafodaeth, myfyrio, a thystysgrif
- Cost y pen yw £26.50
- Wedi'i anelu at hyfforddwyr, hyfforddwyr arweiniol, ac uwch wirfoddolwyr
HCA y DU Lefel 3
Bwriad Dysgu: Mae'n rhoi cyflwyniad i ymarfer cynhwysol sydd wedi'i anelu at hyfforddwyr arweiniol sy'n awyddus i wneud sesiynau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn fwy cynhwysol. Yn ymdrin â theori'r cwrs lefel 2, ynghyd â defnydd manwl o ymarfer cynhwysol gan ddefnyddio enghreifftiau ymarferol i ddangos sut y gall cynhwysiant fod yn rhan o'ch sesiynau.
Modiwl Dysgu Ar-lein 60 munud, Sesiwn Theori Ystafell Ddosbarth Ddigidol 2 awr drwy Zoom, a Sesiwn Ymarferol Wyneb yn Wyneb 2 awr
- Ar gael yn Gymraeg a Saesneg
- Yn cynnwys trafodaeth, myfyrio, chwaraeon ymarferol gweithgareddau, a thystysgrif
- Cost y pen yw £55
- Wedi'i anelu at hyfforddwyr arweiniol
Yn y gweithdy, byddwch yn rhoi sylw i’r canlynol:
- Canfyddiadau a Phrofiadau
- Arferion hyfforddi da a’r goblygiadau
- Heriau o ran cymryd rhan a datrysiadau
- Pwyntiau allweddol perthnasol i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â hyfforddi a gwirfoddoli mewn chwaraeon
- Llwybrau a dosbarthiad Chwaraeon Anabledd
- Lle mae cael rhagor o help a chyfarwyddyd
- Defnyddio’r rhain mewn amgylchedd ymarferol
Ewch i: store.disabilitysportwales.com
Mae’r Cyrff Rheoli Cenedlaethol yn gweithio mewn partneriaeth â SChAGC er mwyn creu gweithdai HCA y DU penodol i gampau ar gyfer eu hyfforddwyr – holwch eich Corff Rheoli i weld a oes HCA y DU (Penodol i Gamp) ar gyfer eich camp chi.