Saethyddiaeth
Nod Saethyddiaeth yw saethu saethau'n gywir at darged sydd â diamedr o 122cm wedi'i farcio â 10 cylch consentrig.
Yn y Gemau Paralympaidd mae saethwyr yn saethu at dargedau sydd wedi'u gosod ar bellter safonol o 70m, yr un pellter â'r Gemau Olympaidd. Cafodd Para Saethyddiaeth ei gynnwys yn y Gemau Paralympaidd cyntaf yn Rhufain yn 1960 ac mae wedi parhau ar y rhaglen ers hynny.
Cymerwch Ran
Gallwch gymryd rhan mewn Saethyddiaeth yn y rhan fwyaf o ardaloedd ledled Cymru gyda llawer o glybiau cyswllt presennol yng Nghymru yn cynnig cyfleoedd hygyrch. Gallwch gyfeirio at gwefannauSaethyddiaeth Cymru neu Saethyddiaeth GB a'r canfyddwr clwb DSW i ddarganfod sut i gymryd rhan.
Corff Llywodraethu Cenedlaethol ar gyfer saethyddiaeth yng Nghymru:
Gwefan: welsharcheryassociation.com
Am ragor o wybodaeth am hyfforddi a gwirfoddoli, Cysylltwch â Ni.
Llwybrau Cystadleuol
Mae yna lwybrau sy’n arwain at:
I ddarganfod beth yw eich potensial ac i gael arweiniad ar lwybrau cystadleuol, llenwch ffurflen #ysbrydoli Chwaraeon Anabledd Cymru.
Cymhwyster
I gystadlu mewn para-saethyddiaeth yn gemau Paralympaidd, rhaid bod gan berson nam cymwys. Y mathau o namau cymwys ar gyfer para-saethyddiaeth gystadleuol yw:
- Pŵer cyhyrau diffygiol
- Athetosis
- Amrediad goddefol symudiad
- Hyptonia
- Diffyg rhan o'r corff
- Ataxia