Mae Gemma wedi bod yn rhan annatod o dîm craidd ChAC ers 2017, pan symudodd o’i rôl Swyddog Datblygu ChAC (DSWDO) yng Nghyngor Sir Ceredigion i ymgymryd â swydd Uwch Swyddog Llwybr Perfformiad ar gyfer ChAC. Fe’i penodwyd yn ddiweddar i rôl Pennaeth Llwybrau Actif o fewn ChAC, ond ni allai anwybyddu’r cyfle gwych i arwain Partneriaeth Chwaraeon Canolbarth Cymru.
Dywedodd Fiona Reid, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Anabledd Cymru “Mae Gemma bob amser wedi bod yn eiriolwr angerddol dros weithgarwch corfforol cynhwysol (gan gynnwys chwaraeon) yng Nghanolbarth Cymru. Mae hi wedi bod yn allweddol wrth greu newid sefydliadol cynhwysol yng Nghyngor Sir Ceredigion a arweiniodd at ddarpariaeth wych, llawer o athletwyr ifanc anabl dawnus, ac enw da fel rhywun sy'n gwneud gwahaniaeth.
"Mae Gemma yn mynd â llawer iawn o wybodaeth a phrofiad gyda hi, ond yn fwy na hynny mae’n ymgorffori angerdd ac ymrwymiad i ddod â chyfleoedd ar gyfer gweithgaredd corfforol i fywydau pobl. Mae hi wedi gadael ei hôl ar ChAC, a phawb y mae hi wedi cysylltu â nhw trwy gydol ei hamser gyda ni; ac er ein bod yn hynod o drist i’w gweld hi’n fynd, rydym yn fwy cyffrous am ei dyfodol a’r partneriaethau y bydd yn eu cyflwyno er budd cymunedau Canolbarth Cymru.”
Bydd Gemma yn dechrau ar ei rôl newydd gyda Phartneriaeth Chwaraeon Canolbarth Cymru ym mis Ionawr 2025 ac yn dod yn arweinydd y drydedd bartneriaeth chwaraeon yng Nghymru i’w sefydlu. Ar ran holl dîm a bwrdd ChAC, dymunwn y gorau i Gemma llongyfarchiadau ar ei swydd newydd.
Cyhoeddiad gan Bartneriaeth Chwaraeon Canolbarth Cymru:
Heddiw, mae Partneriaeth Chwaraeon Canolbarth Cymru wedi cyhoeddi ei bod wedi penodi Cyfarwyddwr Rhanbarthol am y tro cyntaf erioed. Bydd Gemma Cutter yn ymgymryd â'r rôl ym mis Ionawr, ar ôl treulio'r 20 mlynedd diwethaf yn gweithio yn y sector chwaraeon yng Nghymru.
Bydd Gemma, sy'n byw yn Nhregaron, yn arwain y sefydliad newydd sy'n cwmpasu Ceredigion a Phowys a bydd yn ymgysylltu â rhanddeiliaid a phartneriaid presennol a newydd, gan ysgogi partneriaethau arloesol a chydweithredol.
"Rwy'n falch iawn o gael fy mhenodi'n Gyfarwyddwr Rhanbarthol cyntaf Partneriaeth Canolbarth Cymru. Mae'n gyfle anhygoel i helpu i ysgogi newid cadarnhaol a gwneud gwahaniaeth parhaol ar draws ein rhanbarth arbennig.”
“Mae gweithgarwch corfforol yn chwarae rhan bwerus o ran gwella lles, a thrwy'r bartneriaeth hon, byddwn yn cryfhau’r broses gydweithio ranbarthol gydag unigolion a sefydliadau sy'n rhannu ein gweledigaeth. Wrth wraidd ein gwaith bydd cynhwysiant a ffocws ar alluoedd pobl, ac rwy'n hyderus y gallwn, gyda'n gilydd, greu newid ystyrlon, parhaol."
Dywed Gemma fod y cam yn golygu ei bod yn "dychwelyd i'w gwreiddiau" ar ôl dechrau ei gyrfa yng Nghyngor Sir Ceredigion cyn ymuno â Chwaraeon Anabledd Cymru yn 2017 fel Uwch Swyddog Llwybr Perfformiad ac, yn ddiweddarach, fel Pennaeth Llwybrau Gweithredol.
Daw'r newyddion hyn yn dilyn penodi Sherrie Woolf o Aberhonddu yn gadeirydd Partneriaeth Chwaraeon Canolbarth Cymru nôl ym mis Gorffennaf.
"Mae Gemma yn dod â chyfoeth anhygoel o wybodaeth ranbarthol a mwy nag 20 mlynedd o arbenigedd yn y sector chwaraeon, gyda phwyslais cryf ar gynhwysiant. Bydd ei harweinyddiaeth yn allweddol wrth i ni weithio i hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol ym Mhowys a Cheredigion, gyda chynhwysiant wrth wraidd popeth a wnawn," meddai Sherrie.
Mae'r ffordd y mae cyfleoedd chwaraeon cymunedol a gweithgarwch corfforol yn cael eu cynllunio, eu darparu a'u hariannu ledled Cymru yn cael eu trawsnewid drwy greu pum Partneriaeth Chwaraeon.
Wedi'u cynllunio i oresgyn anghydraddoldebau parhaus ac ystyfnig wrth gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, bydd y partneriaethau - Canolbarth Cymru, Canol De Cymru, Gorllewin Cymru, Gogledd Cymru a Gwent - yn helpu i drawsnewid Cymru yn genedl actif lle gall pawb fwynhau chwaraeon am oes.