Dywedodd yr athletwraig o Gaerdydd a enillodd aur 11 gwaith yn y Gemau Paralympaidd ei bod yn bwysig i sgwadiau Pêl Fasged Cadair Olwyn Cymru brofi awyrgylch Gemau’r Gymanwlad, wrth i dimau’r dynion a’r merched ifanc dargedu llwyddiant mewn twrnameintiau rhyngwladol mawr yn y dyfodol.

“Mae chwaraewyr Pêl Fasged Cadair Olwyn Cymru wedi gweithio mor galed i geisio cymhwyso ar gyfer Gemau’r Gymanwlad yn Birmingham ac mae’n bwysig wrth symud ymlaen iddyn nhw fod yma a phrofi’r awyrgylch a’r hyn mae Gemau’r Gymanwlad yn ei olygu,” meddai’r Farwnes Tanni Grey-Thompson.

“Roedd yn foment hyfryd, cyflwyno eu crysau iddyn nhw fel memento, ond yn bwysicach fyth iddyn nhw mae’n gyfle i ddeall beth yw’r cam nesaf, a’u hysbrydoli.

“Byddai’n anhygoel i Dîm Cymru gael sgwad pêl fasged cadair olwyn yng Ngemau nesaf y Gymanwlad, os bydd y gamp yn cael ei chynnwys yng Ngemau 2026, gan y byddai’n gosod naws hynod bwysig arall ar gyfer gweddill chwaraeon anabledd yng Nghymru.”

Cystadlodd sgwadiau Pêl Fasged Cadair Olwyn Cymru yn y digwyddiad cymhwyso yn Glasgow ar gyfer Gemau’r Gymanwlad 2022 – gan golli’r cyfle o drwch y blewyn am le yn Birmingham.

Birmingham oedd y tro cyntaf i bêl fasged cadair olwyn gael ei chynnwys fel camp yn rhan o Gemau’r Gymanwlad ac ymwelodd sgwadiau Pêl Fasged Cadair Olwyn Cymru â thŷ Tîm Cymru i ddathlu siwrnai’r sgwad hyd yma – yn ogystal â chydnabod llwyddiannau’r athletwyr, y staff hyfforddi a rheolwyr y tîm – ac i helpu i’w hysbrydoli ar gyfer llwyddiant rhyngwladol yn y gamp yn y dyfodol.

Welsh 3X3 WCBB Team

Dywedodd Gemma Cutter, Uwch Swyddog Llwybr Perfformiad Chwaraeon Anabledd Cymru: “Mae hyn i gyd yn ymwneud â dod â sgwadiau Pêl Fasged Cadair Olwyn hŷn merched a dynion Cymru at ei gilydd i fwynhau amgylchedd Tîm Cymru a’u hysbrydoli ar gyfer cylch nesaf Gemau’r Gymanwlad, yn y gobaith y bydd Pêl Fasged Cadair Olwyn yn cael ei chynnwys fel camp yng Ngemau 2026. Mae talent a photensial aruthrol yn y timau ifanc iawn, ac mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair iawn i Bêl Fasged Cadair Olwyn Cymru.”

Dywedodd Ana Blease, Capten Sgwad Pêl Fasged Cadair Olwyn Merched Cymru: “Rydw i’n hynod falch o gael fy ngwahodd gan Dîm Cymru i fwynhau awyrgylch Gemau’r Gymanwlad a chael ein festiau. Mae’n drueni na wnaethon ni gymhwyso ar gyfer Birmingham 2022, ond roedden ni’n gwybod am safon y timau roedden ni’n cystadlu yn eu herbyn ac rydyn ni’n sgwad ifanc iawn. Rydyn ni'n dysgu drwy'r amser; rydyn ni'n gwella po fwyaf o gemau cystadleuol rydyn ni'n eu chwarae ac mae'r dyfodol yn edrych yn ddisglair iawn. Roedd yn wych ymweld â thŷ Tîm Cymru ac mae wedi ysbrydoli llawer arnon ni. Rydw i wastad wedi bod yn Gymraes falch ac er ei bod hi’n grêt gwisgo crys Tîm Prydain Fawr, mae’n golygu mwy fyth gwisgo fest goch ein cenedl gartref ni – a dyna yw ein nod mawr ni ar gyfer twrnameintiau rhyngwladol mwy a’r Gemau Cymanwlad nesaf yn Victoria, Awstralia yn 2026 gobeithio.”

Meddai Dan May, Capten Sgwad Pêl Fasged Cadair Olwyn Dynion Cymru: “Roedd yr awyrgylch yn nhŷ Tîm Cymru yn anhygoel ac mae gallu ymlacio gyda’ch holl gyd-chwaraewyr oddi ar y cwrt, ond mewn amgylchedd pêl fasged dwys yr un fath, yn wych. Mae’n rhoi tanwydd yn y tanc ac yn rhoi’r dyhead i ni symud ymlaen a chymhwyso ar gyfer y twrnameintiau rhyngwladol mawr yma.”


Pynciau yn yr erthygl hon:
Chwaraeon ElitaiddGemau GymanwladBirmingham 2022Pêl-fasged Cadair Olwyn3X3

Opsiynau Hygyrchedd

Maint testun

Dewiswch eich opsiwn gorau:



 

Lliw

Dewiswch eich opsiwn gorau:


 

Mae'r modd lliw Golau wedi'i ddylunio gan ddefnyddio lliwiau brand Chwaraeon Anabledd Cymru, i gwrdd â Lefel AA Canllaw Hygyrchedd Cynnwys Gwe. Dylai hyn ddarparu cyferbyniad da i'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr.

Mae'r modd lliw Tywyll hefyd yn defnyddio lliwiau brand Chwaraeon Anabledd Cymru, ond yn gwrthdroi golau a thywyllwch i greu fersiwn "modd nos". Fe'i bwriedir ar gyfer pobl nad ydynt yn hoffi sgriniau llachar, neu sy'n dymuno defnyddio eu harddangosfa mewn ffordd fwy ynni-effeithlon. Nid yw'r opsiwn hwn yn bodloni Lefel AA Canllaw Hygyrchedd Cynnwys Gwe, felly efallai na fydd yn addas ar gyfer defnyddwyr â nam ar eu golwg.

Mae'r modd lliw Tawel yn defnyddio lliwiau a allai fod yn fwy addas ar gyfer defnyddwyr sy'n sensitif i liwiau llachar, neu sy'n ffafrio cyferbyniad is. Nid yw'r opsiwn hwn yn bodloni Lefel AA Canllaw Hygyrchedd Cynnwys Gwe, felly efallai na fydd yn addas ar gyfer defnyddwyr â nam ar eu golwg.

Mae’r opsiwn Cyferbynnedd Uchel wedi’i deilwra i gyrraedd Lefel AAA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, a’i fwriad yw gwneud y wefan hon mor hygyrch â phosibl i ddefnyddwyr sydd â’r craffter gweledol isaf. Byddai defnydd delfrydol o'r gosodiad hwn yn cael ei gyfuno â maint testun Testun Canolig neu Testun Mawr.


Botymau

Mae ein steil botwm rhagosodedig yn defnyddio cefndiroedd lliw bloc sy'n cyferbynnu â chefndir y dudalen.

Gallwch newid hwn yn ddewisol i ddefnyddio botymau sy'n cynnal yr un lliw cefndir a lliw testun â phrif gynnwys y wefan, ac sy'n dynodi mai botwm gydag amlinelliad yw hwnnw. Gall hyn fod yn well gan ddefnyddwyr sy'n gallu darllen golau-ar-tywyll neu dywyll-ar-golau gyda mwy o gysur.

Dewiswch eich opsiwn gorau:



Priflythrennau

Gallwch ddewis lleihau'r defnydd o briflythrennau ar gyfer penawdau ac is-benawdau os ydych chi'n ei chael hi'n haws eu darllen mewn Achos Frawddeg. Gellir rhywfaint o destun, gan gynnwys acronymau, dangos mewn priflythrennau o hyd.

Dewiswch eich opsiwn gorau:



Opsiynau Cynnig

Mae'r wefan hon weithiau'n defnyddio animeiddio i ddod â'r cynnwys i fyw. Os hoffech chi analluogi hyn, gallwch chi wneud.

Dewiswch eich opsiwn gorau: