Pêl-droed pan-anabledd - CPD Dreigiau Llechryd
Ysgrifennwyd gan Stefano Antoniazzi • September 2025
Cefndir
Ym mis Hydref 2023, yn ystod digwyddiad Cyfres insport yn Aberteifi, cynhaliodd staff Ceredigion Actif holiaduron gyda rhieni a phlant i asesu'r galw am weithgareddau chwaraeon a chwarae sy'n cynnwys pobl anabl. Er bod clwb aml-chwaraeon yn bodoli yn Aberteifi, amlygodd yr adborth awydd cryf ymhlith pobl ifanc am glwb penodol i chwaraeon. Gan gydnabod y bwlch hwn, dechreuodd Ceredigion Actif ddatblygu sesiwn Pêl-droed Pan-Anabledd bwrpasol yn yr ardal.
Mae Ceredigion Actif wedi ymrwymo i gefnogi'r sesiynau'n llawn drwy gydol 2025. Y nod hirdymor yw trawsnewid y sesiynau yn dîm pêl-droed ffurfiol i bobl ag anableddau o dan Glwb Pêl-droed Llechryd. Byddai'r tîm hwn yn cystadlu mewn gemau yn erbyn timau pêl-droed eraill i bobl ag anableddau, gan ddarparu llwybr cystadleuol strwythuredig i gyfranogwyr.
Mae'r sesiynau wedi llwyddo i ddenu cyfartaledd o 10 cyfranogwr ifanc yr wythnos, gyda chymysgedd cytbwys o chwaraewyr gwrywaidd a benywaidd ag anableddau corfforol ac anableddau dysgu. Mae'r amgylchedd cynhwysol hwn wedi meithrin ymdeimlad o gymuned a brwdfrydedd dros bêl-droed ymhlith y mynychwyr.
Mae gwaith caled pawb a gymerodd ran wedi arwain at dîm Pêl-droed Pan-Anabledd Dreigiau Llechryd yn mynd i Aberystwyth i chwarae yn eu twrnamaint cyntaf gyda thimau o bob cwr o Gymru yn nhwrnamaint Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Mae'r sesiynau pêl-droed pan-anabledd yn Aberteifi yn gweithio'n dda oherwydd cydweithio effeithiol a datblygu chwaraeon cynhwysol. Drwy fynd i'r afael â'r angen a gweithio gyda'i gilydd, mae Ceredigion Actif wedi llwyddo i greu gweithgareddau pêl-droed deniadol a chynaliadwy i bobl ifanc ag anableddau. Mae gweledigaeth hirdymor y fenter o ffurfio tîm cystadleuol yn sicrhau y bydd cyfranogwyr yn parhau i elwa o brofiadau pêl-droed strwythuredig am flynyddoedd i ddod.
Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn derbyn cyllid gan y Loteri Genedlaethol i alluogi ei genhadaeth i ddylanwadu, cynnwys ac ysbrydoli mewn chwaraeon. Rydym yn gallu gweithio tuag at ein nodau a chyfrannu at brosiectau ysbrydoledig sy'n digwydd ledled y wlad diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Am ragor o wybodaeth am yr astudiaeth achos hon cysylltwch â:

Cyfeiriwch ataf fel: E / Fe / Fo
