Uwch Swyddog Llais Arweinyddiaeth Ieuenctid
Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn chwilio am Uwch Swyddog Llais ac Arweinyddiaeth Ieuenctid sy'n canolbwyntio ar dîm, yn drefnus ac yn rhagweithiol. Gyda sgiliau cyfathrebu eithriadol i gysylltu â Phobl Ifanc Anabl, clybiau, ysgolion a phartneriaid cymunedol, gan hwyluso cysylltiadau parhaol ar draws y rhwydwaith ehangach.
Yn gyfrifol i:
Rheolwr Projectau
Lleoliad:
Hyblyg, ond mynediad i Swyddfa DSW, neu swyddfeydd partner
Cyflog:
£31,668
Oriau:
Llawn- (35 awr/wythnos)
Contract:
Tymor Penodol (72 mis)
Teithio:
Mae rhywfaint o teithio oi’r rôl hon (lle bo angen).
Dyddiad Cau:
Dydd Mercher 12ain o Awst 2026 5yh
Manylion cyfweliad:
Cynhelir cyfweliadau ar 27ain o mis Awst 2026, a chadarnheir yr amseroedd gyda phob ymgeisydd ar y rhestr fer.
Pecyn Cais
Darllenwch os gwelwch yn dda:
- Disgrifiad Rôl
Cwblhewch a dychwelwch os gwelwch yn dda:
- Ffurflen gais
- Ffurflen Monitro Cydraddoldeb
- Cynnig Cynllun Cyfweld (os yn berthnasol)
Dylid cyflwyno ceisiadau i office@disabilitysportwales.com
Cefndir:
Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru (neu Chwaraeon Anabledd Cymru (ChAC)) yw'r sefydliad arweiniol yng Nghymru ar gyfer chwaraeon anabledd a chwaraeon i bobl anabl. Rydym yn gwmni cyfyngedig trwy warant ac yn elusen gofrestredig. Rydym yn rhannu’r weledigaeth ar gyfer chwaraeon yng Nghymru (cenedl egnïol lle gall pawb fwynhau chwaraeon gydol oes) a’n cenhadaeth yw:
dylanwadu, cwnnwys, ysbrydoli, insport
Rydym yn gwneud hyn trwy ddarparu rhaglenni penodol (rhaglen gymunedol DSWDO, insport, Hybiau Llwybrau Perfformiad) a gwasanaethau (Addysg a Hyfforddiant ar gyfer y rhai sy’n ymwneud â gweithgaredd corfforol (gan gynnwys chwaraeon)) y bwriedir iddynt gefnogi llwybr o ddewis o ymgysylltu cychwynnol i chwaraeon perfformiad ar y lefel uchaf. Rydyn ni'n dîm bach o unigolion hynod ymroddedig, angerddol, a'u pwrpas cyffredin yw eiriol dros ymagwedd gynhwysol o fewn y sector.
Datganiadau Gwerth ChAC
Byddwch bob amser yn gallu disgwyl I ChAC (fel sefydliad ac unigolion o fewn y tîm):
- Hyrwyddo Pawb - Rydym yn credu mewn cyfleoedd amrywiol ac ystyrlon gyda phobl yn ganolog i bopeth a wnawn.
- Gymreig Balch - Rydym yn ymgorffori ac yn dathlu beth yw bod yn Gymro.
- Gwerth Twf - Rydym wedi ymrwymo i ddatblygiad a newid cynhwysol a byddwn bob amser yn cefnogi hynny.
- Amlygu Posibiliadau - Rydym yn cysylltu cyfleoedd ac yn blaenoriaethu partneriaethau, fel bod pobl yn cael yr hyn sydd ei angen arnynt.
Y Cyfle:
Bydd y rôl hon yn gyrru llais ac arweinyddiaeth ieuenctid ar draws clybiau chwaraeon cymunedol, gan weithio'n uniongyrchol gyda Phobl Ifanc Anabl i ymgorffori eu safbwyntiau yn niwylliant y clwb, gwneud penderfyniadau a chynllunio sesiynau. Trwy ymweliadau rheolaidd â'r clwb. Bydd deiliad y swydd yn meithrin perthnasoedd dibynadwy â phobl ifanc ac yn eu cefnogi i lwybrau arweinyddiaeth fel gwirfoddoli, hyfforddi a rolau cefnogi cyfoedion, gan weithio ochr yn ochr â hyfforddwyr, gwirfoddolwyr a Chynghorwyr Ieuenctid i greu amgylcheddau gwirioneddol gynhwysol.
Mae'r swydd yn gofyn am sgiliau adeiladu perthnasoedd a sgiliau rhyngbersonol cryf i gysylltu â Phobl Ifanc Anabl, clybiau, ysgolion a phartneriaid cymunedol, gan hwyluso cysylltiadau parhaol ar draws y rhwydwaith ehangach. Mae profiad o gefnogi chwaraeon cymunedol ac angerdd gwirioneddol dros lais ieuenctid, cyd-gynhyrchu a grymuso grwpiau dan anfantais ac anabl yn hanfodol, yn ogystal â'r hyder i hwyluso gweithdai arweinyddiaeth a digwyddiadau arddangos sy'n gadael i bobl ifanc arwain. Bydd deiliad y swydd hefyd yn arwain ar Fwrdd Ieuenctid Cenedlaethol ChAC, gan gydlynu cyfarfodydd, cynrychiolaeth ar y bwrdd a chyfleoedd DPP gan sicrhau bod lleisiau a phrofiadau pobl ifanc anabl yng Nghymru yn cael eu clywed ar lefelau uchaf y sefydliad.
Manyleb Person:
| Hanfodol | Ffuflen Cais | Cyfweliad |
|---|---|---|
| Profiad o gefnogi, gwirfoddoli neu helpu mewn clybiau neu dimau chwaraeon cymunedol lleol. |
✓ |
✓ |
| Diddordeb cryf mewn llais ieuenctid, arweinyddiaeth ieuenctid a dulliau cyd-gynhyrchu. | ✓ | |
| Angerdd dros rymuso ac ysbrydoli grwpiau dan anfantais ac anabl i gyrraedd eu potensial llawn drwy chwaraeon. | ✓ | ✓ |
| Dealltwriaeth o'r rhwystrau a all effeithio ar gyfranogiad mewn chwaraeon cymunedol. | ✓ | |
| Deall pwysigrwydd diogelu ac amddiffyn plant (darperir hyfforddiant). | ✓ | |
| Sgiliau cyfathrebu da a hyder wrth ymgysylltu â Phobl Ifanc Anabl, hyfforddwyr a phartneriaid cymunedol. | ✓ | ✓ |
| Sgiliau trefnu cryf | ✓ | |
| TGAU neu gymhwyster cyfatebol, gan gynnwys gradd A-C mewn Mathemateg, Saesneg a/neu Gymraeg, a/neu brofiad gwaith cyfatebol | ✓ | ✓ |
| Profiad o fewn sefydliad chwaraeon neu sefydliad sy'n canolbwyntio ar gydraddoldeb ac amrywiaeth | ✓ | ✓ |
| Profiad o gefnogi cyfranogiad ieuenctid, rhaglenni arweinyddiaeth, cynghorau ieuenctid neu weithgaredd cyd-gynhyrchu. | ✓ | |
| Cymwysterau hyfforddwr hyfforddi neu brofiad o gyflwyno sesiynau chwaraeon i bobl ifanc anabl. | ✓ | |
| Dymunol | Ffuflen Cais | Cyfweliad |
|---|---|---|
| Awydd i ddysgu a thyfu, ac i addasu o fewn rôl sy'n datblygu | ✓ | ✓ |
| Cymwys yn y Gymraeg a/neu Iaith Arwyddion Prydain, neu barodrwydd i ddysgu | ✓ |
Pam gwneud cais am y rôl hon?
-
Gweithio i gyflogwr teg ac amrywiol fel rhan o dîm uchelgeisiol, creadigol, dyfeisgar, hynod ymroddedig
-
Cymryd rhan mewn gwaith partneriaeth rhanbarthol i gefnogi a dylanwadu ar arfer cynhwysol parhaus
-
Diwylliant wedi'i arwain gan ymddygiad, polisïau a gweithdrefnau cynhwysol
Manteision
-
Cyflog cystadleuol
-
Gwyliau blynyddol gwych (25 diwrnod (cynyddu 1 diwrnod y flwyddyn hyd at uchafswm o 30 diwrnod), ynghyd â gwyliau statudol yng Nghymru)
-
Pecyn cit tîm wedi'i frandio
Sut i wneud cais?
Gofynnir i chi lenwi Ffurflen Gais am Gyflogaeth sy'n amlinellu gwybodaeth sy'n berthnasol i'ch profiad a manylion y swydd a amlinellir yn y Disgrifiad Swydd.
Os hoffech gyflwyno'r Ffurflen Gais am Gyflogaeth trwy fideo BSL, gwnewch hynny, gan gynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen. Os hoffech dderbyn y Ffurflen Gais am Gyflogaeth mewn fformat hygyrch arall, rhowch wybod i ni drwy'r cyswllt isod.
Bydd angen i chi hefyd ddychwelyd y Ffurflen Monitro Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Bydd y wybodaeth hon yn ddienw ac yn gyfrinachol a bydd angen ei hanfon fel ffeil ar wahân ynghlwm wrth eich e-bost, o'r enw CYFRINACHOL. Yna bydd y wybodaeth hon yn cael ei gwahanu oddi wrth eich ffurflen gais a'i hystyried DIM OND ar gyfer monitro cydraddoldeb y prosesau DSW ac i wneud gwelliannau amrywiaeth lle bo angen.
Byddwn yn gweithio gyda phob ymgeisydd a gweithiwr i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi i berfformio i'w llawn botensial.
Dylid cyflwyno ceisiadau i office@disabilitysportwales.com
Am ragor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol, os gwelwch yn dda naill ai:
Ebostiwch: nia.jones@disabilitysportwales.com neu
Ffoniwch, tecstio, whatsapp neu anfon fideo i: Nia Jones 07716 110403
