Cardiff Council proudly awarded four talented young athletes with a special bursary to assist them on their route to potential Olympic or Paralympic success.
Over 50 hopefuls applied for the grant, administered by Sport Cardiff, which will be used to assist with equipment, competition and training costs.
Emily Haycox is a cyclist striving for a place in the GB Talent Team and the support will mean she can replace parts on her bike and attend more competitions.
Alexander Griffiths is a swimmer who trains for 13 hours a week and will now be able to attend additional training camps and galas.
Jordan Howe is a track athlete and member of the Disability Sport Wales Academy. He is currently ranked number one in Wales in his classification group and is striving for a place in the 2012 and/or 2016 Paralympic Team.
Tomas Martin is also a member of the Disability Sport Wales Academy and his talent is for the game of Boccia, a Paralympic sport for wheelchair users which is similar to bowls. Tomas is training hard with a goal of making the Paralympic team for 2016 and the bursary will enable him to travel to additional competitions to assist with his development as a player.
The bursaries were awarded by Executive Member for Sport, Leisure and Culture, Cllr Nigel Howells at an event held at Cardiff Castle.
The occasion ties in with the official One Year to Go countdown to the Paralympic Games which commences on Monday 29, August.
Cardiff is honoured to be a pre-games training camp and will host teams from the New Zealand, South African and Australian Parlaympic teams as they make their preparations in the lead up to London 2012. The city has been selected due to its excellent sporting facilities and infrastructure, professional approach of staff and the general friendliness of the people of Cardiff and Wales.
The city will also play an important role in celebrating International Paralympic Day on Thursday 8, September. For three action-packed days (Tuesday 6 until Thursday 8 September) the GB Cup Wheelchair Rugby Competition will take place at Sophia Gardens.
Team GB will come up alongside tough opposition as they compete against Paralaympic teams from Belgium, Sweden, Japan and Australia
Executive Member for Sport, Leisure and Culture, Cllr Nigel Howells said: "I am delighted to present these outstanding individuals with bursaries which will hopefully assist them in their quest for Olympic and Paralympic success.
"Sport.Cardiff will be following all four athletes on their sporting journey in the future and hope to se them all achieve their goals in the future.
"We are committed to providing disability provision in many different sports and as part of the London 2012 Games legacy hopes to inspire future Paralympians from the city.
"Pre-Games training camps ahead of London 2012 will not only provide economic, cultural, educational and sporting opportunities for the city, it will also cement Cardiff’s status on the international sporting map."
(ends)
Cardiff Council Press Officer Danni Janssens Tel: 029 2087 2409
Email: djanssens@cardiff.gov.uk
Notes to editor:
Photo: Three of the four athletes with their families and Cllr Nigel Howells, who presented the cheques. Emily Haycox was unable to attend the event due to competition.
CYFRI'R DYDDIAU TAN Y GEMAU OLYMPAIDD
Mae Cyngor Caerdydd wedi gwobrwyo pedwar athletwr gydag ysgoloriaeth arbennig i’w cynorthwyo yn eu taith at lwyddiant posibl yn y Gemau Olympaidd neu Baralympaidd.
Ymgeisiodd 50 am y grant, sy’n cael ei weinyddu gan Chwaraeon Caerdydd. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i helpu gyda chostau offer, cystadlu a hyfforddi.
Seiclydd yw Emily Haycox, sy’n gobeithio am le yn Nhîm Talent Prydain fawr. Mae’r gefnogaeth yn golygu y bydd yn gallu adnewyddu rhannau o’i beic a chystadlu mwy.
Mae Alexander Griffiths yn nofiwr. Mae’n hyfforddi am 13 awr yr wythnos. Bydd nawr yn gallu mynychu mwy o wersylloedd hyfforddi a digwyddiadau gala.
Athletwr trac yw Jordan Howe ac mae’n aelod o Academi Chwaraeon Anabl Cymru. Fe yw rhif un yn ei grŵp ac mae’n gobeithio am le yn Nhîm Paralympaidd yn 2012 a/neu 2016.
Mae Tomas Martin hefyd yn aelod o Academi Chwaraeon Anabl Cymru. Yn y gêm Boccia y mae’n serennu, gêm i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn sy’n debyg i fowlio. Mae Tomas wrthi’n hyfforddi yn ddygn, gyda’r gobaith o fod yn nhîm Paralympaidd 2016. Bydd y Bwrsariaeth yn ei alluogi o deithio i fwy o gystadlaethau i hybu ei ddatblygiad fel chwaraewr.
Cyflwynwyd y bwrsariaethau gan yr Aelod Gweithredol dros Chwaraeon, Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Nigel Howells, mewn digwyddiad yng Nghastell Caerdydd.
Mae’r ysgoloriaethau yn cyd-daro gyda digwyddiad Blwyddyn i Fynd, sy’n cychwyn Ddydd Llun 29 Awst.
Mae’n anrhydedd i Gaerdydd fod yn safle hyfforddi cyn y Gemau. Bydd timau Paralympaidd o Seland Newydd, De Affrica ac Awstralia yma yn hyfforddi cyn Gemau Llundain 2012. Dewiswyd y ddinas oherwydd ei chyfleusterau a seilwaith chwaraeon gwych, agwedd broffesiynol ei staff a chyfeillgarwch pobl Caerdydd a Chymru yn gyffredinol.
Bydd y ddinas hefyd yn rhan flaenllaw yn nathliadau’r Diwrnod Paralympaidd Rhyngwladol Ddydd Iau 8 Medi. Am dri diwrnod llawn cyffro (Dydd Mawrth 6 tan Ddydd Iau 8 Medi) bydd Cystadleuaeth Cwpan Rygbi Cadair Olwyn Prydain yn cael ei chynnal yng Ngerddi Sophia.
Bydd Tîm Prydain yn cystadlu yn erbyn timau Paralympaidd cryf o Wlad Belg, Sweden, Siapan ac Awstralia.
Dywedodd yr Aelod Gweithredol dros Chwaraeon, Hamdden a Diwylliant y Cyng Nigel Howells: "Rydw i wrth fy modd yn cyflwyno’r bwrsariaethau hyn i’r unigolion nodedig hyn. Gobeithio’n fawr y bydd yn eu helpu i wireddu eu huchelgeisiau Olympaidd a Pharalympaidd.
Bydd Chwaraeon.Caerdydd yn dilyn y pedwar athletwr ar eu taith ac yn gobeithio’n fawr y byddant yn llwyddo yn y dyfodol.
Rydyn ni’n benderfynol o ddarparu cyfleoedd i’r anabl mewn llawer o fathau o chwaraeon. Fel rhan o waddol Gemau Llundain 2012 gobeithiwn ysbrydoli Paralympiaid y dyfodol.
"Bydd y gwersylloedd hyfforddi cyn Gemau Llundain 2012 yn creu cyfleoedd economaidd, diwylliannol, addysgol a chwaraeon yn y ddinas. Bydd hefyd yn cadarnhau Caerdydd fel dinas chwaraeon ryngwladol o bwys."
(diwedd)
Swyddog y Wasg Danni Janssens Cyngor Caerdydd Ffôn: 029 2087 2409
E-bost: djanssens@cardiff.gov.uk
Nodiadau i Olygyddion:
Llun: Tri o’r pedwar athletwr gyda’u teuluoedd a’r Cynghorydd Nigel Howells a gyflwynodd y sieciau. Nid oedd Emily Haycox yn gallu mynychu’r digwyddiad am ei bod i ffwrdd yn cystadlu.

