Sign Language Week  17—23 March 2025  Find out more.

Follow the link below for a full list of our current vacancies, for which the ability to speak Welsh and English is essential.

Rydym yn chwilio am bobl brwdfrydig i ymuno gyda ni. Dyma restr o swyddi gwag cyfredol yr Urdd.

Current Vacancies | Urdd Gobaith Cymru

 

Swyddogion Datblygu Chwaraeon (x9)

Teitl y Swydd: Swyddog Datblygu Chwaraeon (x9 swydd)

Math o gontract: Swydd barhaol, llawn amser (35 awr yr wythnos)

Graddfa: Graddfa 4: £24,477 (Pwynt 1) - £27,401 (Pwynt 4)

Lleoliad: Lleoliadau amrywiol ar draws Cymru

 

Amdanom ni

Mae’r Urdd wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.

Ar drothwy ein canmlwyddiant, dyma ddatgan ein huchelgais heriol i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc Cymru, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.

 

Y Swydd

Nod y swydd fydd cynyddu cyfranogaeth plant a phobl ifanc mewn gweithgaredd  chwaraeon cyson, drwy gyfrwng y Gymraeg.

Am fwy o fanylion cliciwch yma am ddisgrifiad swydd neu cysylltwch â Gary Lewis (Cyfarwyddwr Chwaraeon a Phrentisiaethau) ar gary@urdd.org  

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at swyddi@urdd.org

Dyddiad Cau – 30.05.21

 

Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.


Topics in this article:
Job Vacancy



 

Accessibility Options

These options options adjust the visual layout of disabilitysportwales.com. If you are using a screen reader, these options will not change your experience, and you may wish to close this Accessibility Options panel and continue browsing the site.


Text Size

Select an option:



Colour

Select an option:



Buttons

Please select your preference:



Paragraph Font

You may optionally select to view this website in Lato or Atkinson Hyperlegible.

Please select your preference:



Use of Capital Letters

You can choose to minimise the use of capital letters for headings and sub-headings if you find them easier to read in Sentence Case. Some text, including acronyms, may still be shown in capital letters.

Please select your preference:



Motion Options

This site sometimes uses animation to bring the content to life. If you'd like to disable this, you can do.

Please select your preference:



Accessibility Statement

Read our Accessibility Statement