Wheelchair Sports Spectacular returns to Cardiff for the seventh year this month.
The two day event is run by Sport.Cardiff and Disability Sport Wales, and offers children, young people and adults the opportunity to take part in 22 different sports, all under one roof at the University of Wales Institute Cardiff’s National Indoor Athletics Centre (NIAC).
Cardiff Devils Ice Hockey and Cardiff City Football Club will also be proving support at the event.
Several local Paralympians will be in attendance including World Champion javelin thrower, Nathan Stephens. Channel Four Paralympic programme presenter Liam Holt, will also be providing a master class in wheelchair basketball.
The popular event is free and takes place on Friday, June 17 and Saturday, June 18 from 10am to 4pm.
Each day various sports will be showcased, all run by club coaches. They include badminton, table tennis, archery, wheelchair basketball, golf, handycycling and powerchair football and for the first time petanque will also be on offer.
It is primarily aimed at physically disabled adults and children but everyone is welcome to attend. Designed to spot those who might have a burgeoning talent or those who simply want to take part in sport and have fun - there are sports to suit everyone of all ages and ability levels.
As well as having the opportunity to try the sports, attendees can also find out about local club sports.
For the fourth year the event is sponsored by the Rotary Club of Cardiff Bay who is delighted to be supporting this venture. Additional support has also been given by Cardiff University, University of Wales Institute Cardiff (UWIC), Invacare and Design Circle.
Run by Disability Sport Wales and Sport.Cardiff, the event aims to get disabled people more active in sport and will see around 450 participants from across the South Wales region and beyond taking part. Members of the community, school and day centre groups are expected to take part.
Executive member for Sport, Leisure & Culture, Cllr Nigel Howells, said: "It is fantastic that this event grows from strength to strength every year with participation increasing across the city.
"Disability Sport Wales and Sport.Cardiff do a great job of organising the event which helps to make wheelchair sports more accessible to everyone.
"Cardiff will be hosting Paralympic training camps for teams from South Africa, New Zealand and Australia and they will reap the benefits of our sporting capital when they visit next year to train in the build up for 2012."
Jo Coates – McGrath, Sport Cardiff's Disability Sports Development Officer, said: "The event promises to create a hive of activity and we are keen to get the message across that wheelchair sport is not just for wheelchair users and is open to anyone who would use a wheelchair for sport. Some disability sports clubs in the area even have non-disabled members who are fully included in the club activities."
All are welcome. Groups can book on for either day and anyone who wants to turn up and have a go at wheelchair sport is encouraged to do so! Spectators are also welcome to attend - entry is free.
SIOE CHWARAEON CADAIR OLWYN 2011
Bydd y Sioe Chwaraeon Cadair Olwyn yn dychwelyd i Gaerdydd am y seithfed flwyddyn yn olynol y mis hwn.
Mae’r digwyddiad, a gynhelir dros ddeuddydd gan Chwaraeon.Caerdydd a Chwaraeon Anabledd Cymru, yn cynnig cyfleoedd i blant, pobl ifanc ac oedolion gymryd rhan mewn 22 o wahanol chwaraeon, i gyd o dan yr un to yng Nghanolfan Athletau Dan Do Genedlaethol Caerdydd.
Bydd Tîm Hoci Ia Cardiff Devils a Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn cynorthwyo yn y digwyddiad hefyd.
Bydd sawl Paralymiad yn bresennol yn y sioe ynghyd â chyflwynydd rhaglen Paralymaidd Sianel Pedwar, Liam Holt, a fydd yn arwain dosbarth meistr pêl-rwyd i bobl mewn cadair olwyn.
Cynhelir y digwyddiad poblogaidd hwn ddydd Gwener, 27 Mehefin a dydd Sadwrn, 18 Mehefin o 10am a 4pm, ac mae mynediad am ddim.
Bob dydd bydd amrywiaeth o chwaraeon gwahanol yn cael sylw, dan arweiniad hyfforddwyr clybiau. Mae’r rhain yn cynnwys badminton, tennis bwrdd, saethyddiaeth, pêl-rwyd i bobl mewn cadeiriau olwyn, golff, seiclo â llaw a phêl-droed cadeiriau â phŵer ac am y tro cyntaf un, petanque hefyd.
Mae’r sioe ar gyfer oedolion a phlant ag anableddau corfforol yn bennaf ond bydd croeso cynnes i bawb sy’n dymuno cymryd rhan. A hithau wedi'i chynllunio i chwilota am y rheiny ag egin dalent o bosibl neu'r rheiny sydd ddim ond eisiau cymryd rhan – bydd y sioe yn cynnig rhywbeth i bawb waeth beth fo'u hoedran na'u gallu.
Yn ogystal â rhoi cynnig ar y chwaraeon, bydd cyfle i gael gwybodaeth am glybiau chwaraeon lleol hefyd.
Am y bedwaredd flwyddyn noddir y sioe gan Glwb Rotari Bae Caerdydd sy'n falch o gael y cyfle hwn i gefnogi'r fenter. Cafwyd cefnogaeth ychwanegol gan Brifysgol Caerdydd, Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd (UWIC), Invacare a Design Circle hefyd.
Nod y sioe, a gynhelir gan Chwaraeon Anabledd Cymru a Chwaraeon.Caerdydd yw cael mwy o bobl ag anableddau i ymhél â chwaraeon a bydd rhyw 450 o gyfranogwyr o bob cwr o Dde Cymru a thu hwnt yn cymryd rhan. Disgwylir y bydd aelodau o'r gymuned, grwpiau ysgol a chanolfannau dydd yn cymryd rhan.
Dywedodd yr Aelod Gweithredol dros Hamdden, Diwylliant a Chwaraeon, y Cynghorydd Nigel Howells: "Mae’n wych fod y digwyddiad hwn yn parhau i fynd o nerth i nerth bob blwyddyn gyda chyfranogiad ledled y ddinas yn cynyddu".
"Mae Chwaraeon Anabledd Cymru a Chwaraeon.Caerdydd yn gwneud gwaith ardderchog yn trefnu’r digwyddiad sy’n helpu i wneud chwaraeon cadair olwyn yn fwy hygyrch i bawb."
"Bydd Caerdydd yn darparu gwersylloedd hyfforddi i dimau Paralympaidd o Dde Affrica, Seland Newydd ac Awstralia'r flwyddyn nesaf a fydd yn manteisio ar y cyfleusterau chwaraeon sydd gan ein prifddinas i'w cynnig pan fyddan nhw'n ymweld â’r ddinas i baratoi ar gyfer gemau 2012.
Dywedodd Jo Coates – McGrath, Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd, Chwaraeon Caerdydd, said: "Mae’r digwyddiad yn addo bod yn ferw o brysurdeb ac rydym yn awyddus i ledaenu'r neges bod chwaraeon cadair olwyn i bawb a fyddai'n defnyddio cadair olwyn ar gyfer chwaraeon ac nid yn unig rheiny sy’n defnyddio cadeiriau olwyn drwy’r adeg. Mae gan rai clybiau chwaraeon anabledd yn yr ardal aelodau sydd heb anableddau hyd yn oed sy'n cael eu cynnwys yn holl weithgareddau'r clwb."
Croeso i bawb. Gall grwpiau archebu ar gyfer y naill ddiwrnod neu'r llall ac anogir unrhyw un sydd eisiau galw heibio i roi cynnig ar chwaraeon cadair olwyn ddod draw i roi cynnig arni! Mae croeso i wylwyr fynychu'r digwyddiad hefyd. Mynediad am ddim.
(ends)
Cardiff Council Press Officer Danni Janssens Tel: 029 2087 2409
Email: djanssens@cardiff.gov.uk

