Marchogaeth
Cafodd Para dressage ei gynnwys gyntaf mewn Gemau Paralympaidd yn Atlanta 1996 a dyma'r gystadleuaeth marchogaeth sy'n ymddangos mewn Gemau Paralympaidd.
Yn 2010, cafodd sylw yn fformat Gemau Marchogaeth y Byd am y tro cyntaf, ac mae'r ddisgyblaeth bellach yn rhedeg mewn cylch pedair blynedd o Bencampwriaethau gyda Phencampwriaethau Ewropeaidd yn y blynyddoedd rhwng Pencampwriaethau'r Byd a'r Gemau Paralympaidd.
Mae cyfleoedd hefyd i gymryd rhan mewn Para Neidio a Gyrru Para.
Cymerwch Ran
Gallwch gymryd rhan mewn marchogaeth drwy eich grwp RDA a Dressage Prydain mewn cystadlaethau cenedlaethol, hyd at lefelau elitaidd.
Gallwch defnyddio canfod clwb DSW i ddarganfod sut i gymryd rhan.
Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol ar gyfer para marchogaeth yng Nghymru:
Am ragor o wybodaeth am hyfforddi a gwirfoddoli, Cysylltwch â Ni.
Llwybrau Cystadleuol
Mae yna lwybrau sy’n arwain at:
I ddarganfod beth yw eich potensial ac i gael arweiniad ar lwybrau cystadleuol, llenwch ffurflen #ysbrydoli Chwaraeon Anabledd Cymru.
Cymhwyster
I gystadlu mewn para marchogaeth mewn Gemau Paralympaidd, rhaid i berson fod â math o nam cymwys. Y mathau o namau cymwys yw:
- Pŵer cyhyrau diffygiol
- Athetosis
- Amrediad goddefol symudiad
- Hyptonia
- Diffyg rhan o'r corff
- Ataxia
- Gwahaniaeth hyd y goes
- Cyflwr byr
- Nam ar y Golwg
Mae rhagor o wybodaeth am fathau o namau sy'n gymwys i bara-dressage ac esboniad o'r system ddosbarthu mewn para-marchogaeth ar gael yma: Dosbarthiad Para Marchogaeth (paralympic.org)