Ni Yw Chwaraeon Anabledd Cymru
Ymunwch â ni am Digwyddiad Gala Elusennol yn cefnogi ac yn dathlu Chwaraeon Anabledd Cymru
Bydd Chwaraeon Anabledd Cymru yn cynnal noson ysbrydoledig o ddathlu, yn rhannu straeon anhygoel am chwaraeon para a chynhwysol ledled Cymru ac yn tynnu sylw at gyflawniadau Chwaraeon Anabledd Cymru a’i bartneriaid.
Byddwn yn cydnabod pobl sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, yn arddangos talent Newydd, ac yn codi arian i gefnogi chwaraeon anabledd yng Nghymru.
Bydd y noson, a gynhelir yn y Vale Resort, Hensol yn cynnwys derbyniad diodydd, pryd tri chwrs, straeon ysbrydoledig gan bobl sy’n ymwneud â chwaraeon anabledd, ac arwerthiant er budd Cronfa Goffa Anthony Hughes.
Dewch i weld sut mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn dylanwadu, yn cynnwys ac yn ysbrydoli mewn chwaraeon, gyda llwyddiannau llawr gwlad a byd-eang, ein fframwaith cynhwysiant insport, a hyfforddiant cynhwysiant sy’n newid sector.
Byddwn yn cyflwyno ein Gwobr Athletwr Newydd y Flwyddyn (enwebiadau bellach ar agor) i athletwr a fydd hefyd yn derbyn Bwrsariaeth Gareth John, ac yn cydnabod cyfraniad eithriadol gyda Gwobr Cyflawniad Oes Jim Munkley
Cymerwch ran
Ydych chi am gynnal digwyddiad cymdeithasol i staff neu arddangos eich brand?
Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwybod mwy am Chwaraeon Anabledd Cymru a sut mae chwaraeon yn cael ei ddefnyddio fel cyfrwng i fod yn fwy cynhwysol?
Mae croeso i chi ein cefnogi i ddathlu llwyddiant mewn chwaraeon anabledd ac ymarfer cynhwysol trwy ddod yn Bartner Digwyddiad neu drwy archebu byrddau i ymuno â ni am noson wirioneddol ysbrydoledig.
Os hoffech ddod yn Bartner Digwyddiad neu archebu pecyn bwrdd, cysylltwch â:
Cyfeiriwch ataf fel: Hi
Os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi Chwaraeon Anabledd Cymru y tu hwnt i noson Ni yw Chwaraeon Anabledd Cymru, mae gennym nifer o gyfleoedd i ddod yn Bartner Chwaraeon Anabledd Cymru. Cysylltwch â Ffion (manylion uchod) i drafod sut y gallwn ddod yn dîm.