Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Chwaraeon Anabledd Cymru wedi ymuno â Thai Wales & West fel eu partner elusennol. Mae’r cydweithio cyffrous hwn yn garreg filltir arwyddocaol yn ein pwrpas i sicrhau bod pobl anabl yr un mor debygol o gael mwynhad gydol oes o weithgarwch corfforol gan gynnwys chwaraeon â phobl nad ydynt yn anabl. Gydag ymrwymiad hael o £10,000 y flwyddyn am y tair blynedd nesaf, bydd y bartneriaeth hon yn gwella ein gallu i hyrwyddo a datblygu cyfleoedd chwaraeon cynhwysol ledled Cymru yn sylweddol.
Effaith ar Gymunedau
Bydd y bartneriaeth yn canolbwyntio ar gynyddu ymwybyddiaeth o gyfleoedd gweithgaredd corfforol ar gyfer pobl anabl sy'n byw mewn cymunedau a wasanaethir gan Tai Wales & West a gweithio gyda thîm tai Wales & West i gyfeirio preswylwyr at y cyfleoedd lleol gorau.
Meddai Nia Jones, Rheolwr Prosiectau Chwaraeon Anabledd Cymru “Mae’r cydweithrediad hwn rhwng DSW a Chymdeithas Tai Wales & West yn gyffrous iawn, mae’n rhoi’r cyfle i’r ddau sefydliad gydweithio i sicrhau y bydd gan breswylwyr fwy o wybodaeth gysylltiedig am chwaraeon a gweithgaredd yn lleol iddynt a all arwain at ganlyniadau iechyd gwell, mwy o gymdeithasu, cynhwysiant, a gwell ysbryd cymunedol. Gyda’n gilydd gallwn greu amgylchedd mwy cynhwysol lle mae gan bawb y cyfle i ffynnu.”
Adeiladu Cymunedau Cryfach
Nid yw’r bartneriaeth hon yn ymwneud â chwaraeon yn unig; mae'n ymwneud ag adeiladu cymunedau cryfach, mwy cynhwysol. Trwy annog cyfranogiad mewn gweithgareddau corfforol, ein nod yw gwella lles cyffredinol unigolion a meithrin ymdeimlad o berthyn ac ysbryd cymunedol. Gall chwaraeon fod yn arf pwerus ar gyfer newid cymdeithasol, gan helpu i chwalu rhwystrau a hybu dealltwriaeth a derbyniad.
Dywedodd Prif Weithredwr Chwaraeon Anabledd Cymru, Fiona Reid “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael ein dewis fel un o bartneriaid elusennol Grŵp Tai Wales and West eleni. Mae’r bartneriaeth hon yn adlewyrchu gwerthoedd a nodau a rennir a chyfle cyffrous i gydweithio â phartner arwyddocaol y tu allan i chwaraeon i godi ymwybyddiaeth o ddewis ar gyfer gweithgaredd corfforol, chwaraeon a hyrwyddo cymunedau iach, cynhwysol ledled Cymru”.
Dywedodd Alex Ashton, Cadeirydd Bwrdd Grŵp Tai Wales & West: “Rydym yn falch iawn o gefnogi Chwaraeon Anabledd Cymru am y tair blynedd nesaf.” “Dros y blynyddoedd mae Grŵp Tai Wales & West wedi cefnogi llawer o elusennau sy’n delio â materion sy’n effeithio ar ein trigolion a’n cymunedau. Eleni roeddem yn awyddus i gefnogi elusennau sy'n hyrwyddo hawliau pobl anabl yng Nghymru. Roeddem yn teimlo bod y gwaith y mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn ei wneud i hyrwyddo cynhwysiant mor bwysig. Gobeithiwn y bydd ein cyfraniad yn caniatáu iddynt wneud gwahaniaeth a hybu eu gwaith i roi dewis gwirioneddol i bob person anabl o ran ble, pryd a pha mor aml y maent yn cymryd rhan mewn chwaraeon.”
Edrych Ymlaen
Dros y tair blynedd nesaf, byddwn yn gweithio ar y cyd i sicrhau bod ein hadnoddau cyfunol yn creu gwahaniaethau diriaethol i fywydau pobl anabl a'u rhwydweithiau. Edrychwn ymlaen at rannu straeon llwyddiant a diweddariadau ar ein cynnydd, ac mae ein diolch unwaith eto i dîm Cymdeithas Tai Wales and West am eu cyfranogiad a’u hymrwymiad i wneud gwahaniaeth.