Opportunity
Administrator and Governance Officer (Chwaraeon Byddar Cymru)
Sefydliad:
Chwaraeon Byddar Cymru
Cyflog:
Mae hon yn swydd wirfoddol ddi-dâl fel rhan o Bwyllgor Chwaraeon Byddar Cymru. Bydd y rôl yn gofyn am lefelau amrywiol o ymrwymiad y mis (2-3 awr fel arfer ond mwy o bosibl cyn cyfarfodydd).
- Ochr yn ochr â’r Cadeirydd, bod yn gyfrifol am gydlynu a threfnu cyfarfodydd chwarterol Chwaraeon Byddar Cymru (gan gynnwys y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol).
- Sicrhau bod dehonglydd BSL (cofrestredig gyda’r NRCPD) yn cael ei archebu ar gyfer pob cyfarfod.
Bod yn gyfrifol am gymryd a dosbarthu cofnodion cyfarfodydd Chwaraeon Byddar Cymru i bob aelod.
Coladu a rhannu papurau ar gyfer cyfarfodydd ar ran y Cadeirydd. - Sicrhau bod Chwaraeon Byddar Cymru yn cydymffurfio â’r holl ofynion a osodwyd ar gyfer elusen gan y Comisiwn Elusennau.
- Sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau Chwaraeon Byddar Cymru gyfan yn gyfredol ac yn addas.
Sicrhau cydymffurfiaeth ar y lefel briodol â Fframwaith Gallu Chwaraeon Cymru a’r Fframwaith Llywodraethu ac Arwain ar gyfer Chwaraeon. - Cydgysylltu ag Uwch Swyddog Chwaraeon Byddar Chwaraeon Anabledd Cymru i gefnogi datblygiad llywodraethu parhaus a nodi ffrydiau ariannu ar gyfer Chwaraeon Byddar Cymru.
- Monitro a chynnal rhestr gyfredol o fanylion cyswllt aelodau.
- Sicrhau cyfathrebu rheolaidd rhwng Pwyllgor Chwaraeon Byddar Cymru, Aelodau Chwaraeon Byddar Cymru a sefydliadau cysylltiedig.
Sgiliau a Phrofiad Hanfodol:
- Trefnu a chofnodi cyfarfodydd (yn bersonol ac ar-lein).
- Profiad o ysgrifennu a gweithredu polisïau a gweithdrefnau.
- Dealltwriaeth o Fframweithiau Llywodraethu a disgwyliadau elusennau..
Sgiliau Dymunol:
- Cymhwysedd Iaith Arwyddion Prydain.
- Llythrennedd cyfrifiadurol cyffredinol a phrofiad o gynnal cyfarfodydd Zoom.s.
I wneud cais am y rôl hon, e-bostiwch eich CV a llythyr eglurhaol byr (croeso gyrru fideo BSL a Saesneg ysgrifenedig) i libby.steele@disabilitysportwales.com
