Prif Noddwr Heno
Tai Wales & West yw un o’r darparwyr cartrefi fforddiadwy mwyaf yng Nghymru, gan reoli 12,400 o gartrefi ar draws 14 awdurdod lleol gan gynnwys nifer sylweddol sydd wedi’u haddasu’n arbennig ar gyfer pobl ag ystod o anghenion penodol.
Rydym yn angerddol am werth cael cartref diogel, sicr a fforddiadwy i fyw ynddo a’r cyfleoedd y mae hyn yn eu cyflwyno i bawb fwynhau ansawdd bywyd da, waeth beth fo’u cefndir.
Ein nod o ddydd i ddydd yw gwneud llawer mwy nag adeiladu lleoedd i fyw ynddynt, ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau pobl.
Mae hyn yn golygu gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl yn ein cymunedau a chefnogi sefydliadau sy'n rhannu ein gwerthoedd. Fel landlord cymdeithasol cofrestredig, gallwn wneud gwahaniaeth – ond mewn partneriaeth â sefydliadau eraill gallwn wneud gwahaniaeth hyd yn oed yn fwy.
Mae gan chwaraeon botensial aruthrol i ysbrydoli a newid bywydau fel y bydd unrhyw un a wyliodd neu a fynychodd y Gemau Paralympaidd ac Olympaidd ym Mharis eleni eisoes yn gwybod.
Rydym yn falch o noddi’r Cinio Dathlu Paris hwn wrth i Chwaraeon Anabledd Cymru nodi dychweliad ein para-athletwyr Cymreig.
Llongyfarchiadau i’r holl athletwyr ac i Chwaraeon Anabledd Cymru am yr holl waith gwych y mae’n ei wneud i hybu cynhwysiant.
Rydych chi i gyd yn bencampwyr yn eich maes.
