Cyfres insport: Tri Active
I ddathlu Gŵyl Para Chwaraeon a Chyfres Para Triathlon y Byd (Linc: Saesneg) yn dychwelyd i Abertawe yr haf hwn, mae Triathlon Cymru, Chwaraeon Anabledd Cymru a Chyngor Abertawe yn gwahodd pobl ifanc 9-16 oed i roi cynnig ar driathlon yn Cyfres insport: Tri Active.
Ydych chi’n gweithio gyda phlentyn 9 oed neu hŷn sydd ag angerdd am chwaraeon a gweithgaredd corfforol, sydd â nam corfforol neu nam ar y golwg? Ydych chi erioed wedi meddwl beth allai eu potensial fod mewn chwaraeon cystadleuol? Gweler namau cymwys.
Mae para triathlon yn cynnwys cyfleoedd cystadleuol i bobl â namau corfforol neu synhwyraidd (gweledol). Bydd Triathlon Cymru a Thîm Llwybr Perfformiad Chwaraeon Anabledd Cymru yn bresennol i gynnig cyngor ar symud ymlaen yn y Para Triathlon ac i godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd cystadleuol eraill mewn chwaraeon.
Os hoffech gofrestru cyfranogwyr ar gyfer y digwyddiad hwn, llenwch y ffurflen ganlynol:
Namau cymwys ar gyfer Llwybrau Para Triathlon Elitaidd
Mathau o namau:
- Nam pŵer cyhyrau
- Amhariad ar Amrediad Goddefol o Symudiad
- Diffyg aelodau o’r corff
- Gwahaniaeth Hyd Coes
- Hypertonia
- Ataxia
- Athetosis
- Nam ar y Golwg
PTWC 1-2
Athletwyr â chyfyngiadau yn y coesau (PTWC2) a’r aelodau uchaf (PTWC1), gan ddefnyddio beic llaw ar gyfer y rhan beicio a chadair rasio ar gyfer y rhan rhedeg.
PT 2-5
Athletwyr sydd â chyfyngiadau yn aelodau isaf a/neu uchaf (mae nifer dosbarth is yn golygu bod mwy o gyfyngiadau) sy’n cystadlu mewn beicio a rhedeg (rheolaidd). Mae dyfeisiau cynorthwyol fel coesau prosthetig a/neu addasiadau beic yn cael eu rheoleiddio gan Driathlon y Byd.
PTVI 1-3
Athletwyr â nam ar eu golwg, wedi’u rhannu’n dri dosbarth yn ôl difrifoldeb y golled golwg (craffter gweledol a/neu faes gweledol).
