Mae’r wraig ifanc 25 mlwydd oed, sy’n cystadlu i Dîm Cymru, eisoes gyda rhestr neilltuol o gyflawniadau ar ben ei medalau Para Olympaidd, wedi iddi ennill medalau aur ac efydd yn y naid hir a’r ras 100m, yn drefn honno, yng Ngemau Olympaidd 2018 ar Arfordir Aur, Awstralia. 

Mae degawd anhygoel Breen o lwyddiant wedi gweld cyn athletwraig rhif dau’r byd yn y ras 100m T38 yn ennill dwy fedal aur ym Mhencampwriaeth Athletau Para Olympaidd y Byd. Yr haf hwn, bydd Tîm Cymru, a gefnogir gan arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, yn cynnwys dros 200 o athletwyr, ac wedi sicrhau ei lle ar y sgwad, mae Breen yn edrych i orffen ar y podiwm. 

Ac wedi cyfnod o lwyddiant, ynghyd â chael ei dethol ar gyfer Birmingham, mae’r seren a aned yn Guilford yn cyfaddef ei bod yn teimlo’n fwy hyderus cyn y Gemau nag y mae wedi teimlo erioed o’r blaen cyn cystadleuaeth o bwys.

Olivia Breen competing in the T38 100m heats at the Paralympic Games in Tokyo 2020

"Ydw, ‘dwi’n meddwl mai dyma’r fwyaf hyderus rwyf wedi bod cyn cymryd rhan mewn cystadleuaeth o bwys,” dywedodd Breen, oedd yn siarad yn ystod sesiwn ffotograffig y pedair cenedl, a welodd athletwyr o bob un o’r gwledydd cartref yn dod ynghyd am y tro cyntaf un i ddathlu’r cyfnod terfynol yn arwain at y Gemau. 

"Llynedd, roedd gennyf anaf yn arwain at fynd i Tokyo, anaf ysgwydd, a chael a chael oedd hi arnaf i.
 
"Rwyf bob tro yn hyfforddi’n drwyadl, ond rwyf wedi hyfforddi’n arbennig o drwyadl eleni, ac mae fy nghorff mewn cyflwr gwirioneddol dda yn gorfforol ynghyd â’m meddwl yn feddyliol.  

"Felly ydw, rwyf yn teimlo’n wirioneddol dda, ac yn gyffrous iawn cyn gemau Birmingham.
 
"Roedd y cystadlaethau cynnar yn brofiad lle cafwyd ychydig o nerfusrwydd, ond da oedd ailafael mewn pethau, a ‘dech chi’n gwybod, rwyf yn neidio ac yn rhedeg yn wirioneddol dda, felly rwy’n gobeithio yr aiff yn foddhaol ar y dydd. 

"Rwyf yn bendant fod y canlyniad gorau yn bosibl i mi, felly croesi bysedd.” 

Breen yw un o dros 1,100 o athletwyr elît ar Raglen Safon Fyd-eang Chwaraeon DU y Loteri Genedlaethol, sy’n caniatáu iddynt hyfforddi’n llawn amser, i gael mynediad at hyfforddwyr gorau’r byd ac elwa o dechnoleg, gwyddoniaeth, a chefnogaeth feddygol arloesol. 

Fe fydd hi’n gobeithio ennill yr aur yn y ras 100m T38, er na fydd yn cystadlu yn y naid hir yn nigwyddiad eleni. Enillodd Breen ei medalau Para Olympaidd gartref yn Llundain 2012 wedi helpu Tîm Merched Prydain Fawr yn ras gyfnewid 4x100 merched Prydain Fawr T35-T38 hyd at safle terfynol o drydydd.  

Er gwaethaf anaf ysgwydd, llwyddoddd wedi hynny i ennill safle efydd wyth mlynedd yn ddiweddarach yn Tokyo wedi ennill y trydydd safle yn y naid hir T38. Gyda Gemau’r Gymanwlad Birmimgham 2022 ar drywydd i ysbrydoli pobl a chymunedau led led y wlad yr haf hwn, mae Breem yn gobeithio y bydd rhannu ei stori yn rhoi cymhelliad i eraill i gymryd rhan mewn chwaraeon a throi eu breuddwydion yn realiti. 

A chyn iddi ddychwleyd ar gyfer cyfnod Gemau’r Gymanwlad, pwysleisiodd Breen yr hyn yr oedd derbyn dwy fedal ar Arfordir Aur Awstralia yn ei olygu. 

Olivia Breen celebrating winning a medal at the Commonwealth Games 2018

"Mae’n anodd paratoi i amddiffyn y medalau a enillwyd,” ychwanegodd Breen, a aned gyda salwch yn debyg i Lid yr Ymennydd (Meningitis) gan ei gadael gyda Pharlys yr Ymennydd. 

"Rhaid i chi fod yn hunanol mewn ffordd oherwydd rhaid i chi feddwl yn amdanoch eich hunan i bob diben gan mai dyma eich unig gyfle. 

"Ond ydw, rwy’n gyffrous. Roedd 2018 yn anhygoel, felly rwyf yn wirioneddol gyffrous am y gemau hyn.”
 
Mae Breen yn credu fod cefnogaeth y Loteri Genedlaethol wedi bod yn hanfodol i’w chynnydd fel athletwraig Para Olympaidd. 

Ychwanegodd: “Mae’r Loteri Genedlaethol wedi bod yn anhygoel,” 

"Rwyf wedi cael fy ariannu ganddynt am bron deng mlyneddd yn awr, ac maen nhw wirioneddol wedi helpu fy ngyrfa. 

"Boed os yw hynny’n faeth, cryfder a chyflyru, a’m hyfforddwr, rwyf yn wirioneddol lwcus, ac ni fyddwn wedi cyrraedd lle’r wyf nawr na chyflawni’r hyn a wnes heb eu cefnogaeth.  

"Yr hyn rwyf yn ei olygu yw bod deng mlynedd, waw, yn amser eithaf hir. 

"Mae’n mynd heibio mor sydyn, ond rwyf yn wirioneddol ddiolchgar am bopeth maen nhw wedi’i wneud. 

"Rwyf eisiau dweud diolch aruthrol i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.” 

Four nations photoshoot with Jordan Houlden (Team England diving); Lynsey Speirs (Team Scotland wheelchair basketball); Caroline O’Hanlon (Team Northern Ireland netball); and Olivia Breen (Team Wales para sprint and long jump)

Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi mwy na £30 miliwn yr wythnos ar gyfer achosion da gan gynnwys arian hanfodol ar gyfer chwaraeon – o lawr gwlad hyd at lefel elît. Gallwch ganfod sut mae eich rhifau yn gwneud i bethau gwych ddigwydd ar: www.lotterygoodcauses.org.uk a chymryd rhan trwy ddefnyddio’r hashnod: #AthletwyrYLG.

Capsiynau lluniau (Cydnabyddiaeth: Achosion Da’r Loteri Genedlaethol):

  1. Mae Olivia Breen yn benderfynol o sicrhau llwyddiant podiwm i Dîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham
  2. Y paratoadau olaf: Jordan Houlden (Tîm Lloegr deifio); Lynsey Speirs (pêl-fasged cadair olwyn Tîm yr Alban); Caroline O’Hanlon (pêl-rwyd Tîm Gogledd Iwerddon); ac Olivia Breen (Tîm Cymru para sbrint a naid hir) yn tynnu llun y pedair gwlad yn sgwâr Canmlwyddiant Birmingham fel rhan o’r paratoadau ar gyfer Gemau’r Gymanwlad

Pynciau yn yr erthygl hon:
Chwaraeon ElitaiddGemau GymanwladBirmingham 2022Olivia BreenAthletau CymruAthletauTrackField


Opsiynau Hygyrchedd

Maint testun

Dewiswch eich opsiwn gorau:



 

Lliw

Dewiswch eich opsiwn gorau:


 

Mae'r modd lliw Golau wedi'i ddylunio gan ddefnyddio lliwiau brand Chwaraeon Anabledd Cymru, i gwrdd â Lefel AA Canllaw Hygyrchedd Cynnwys Gwe. Dylai hyn ddarparu cyferbyniad da i'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr.

Mae'r modd lliw Tywyll hefyd yn defnyddio lliwiau brand Chwaraeon Anabledd Cymru, ond yn gwrthdroi golau a thywyllwch i greu fersiwn "modd nos". Fe'i bwriedir ar gyfer pobl nad ydynt yn hoffi sgriniau llachar, neu sy'n dymuno defnyddio eu harddangosfa mewn ffordd fwy ynni-effeithlon. Nid yw'r opsiwn hwn yn bodloni Lefel AA Canllaw Hygyrchedd Cynnwys Gwe, felly efallai na fydd yn addas ar gyfer defnyddwyr â nam ar eu golwg.

Mae'r modd lliw Tawel yn defnyddio lliwiau a allai fod yn fwy addas ar gyfer defnyddwyr sy'n sensitif i liwiau llachar, neu sy'n ffafrio cyferbyniad is. Nid yw'r opsiwn hwn yn bodloni Lefel AA Canllaw Hygyrchedd Cynnwys Gwe, felly efallai na fydd yn addas ar gyfer defnyddwyr â nam ar eu golwg.

Mae’r opsiwn Cyferbynnedd Uchel wedi’i deilwra i gyrraedd Lefel AAA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, a’i fwriad yw gwneud y wefan hon mor hygyrch â phosibl i ddefnyddwyr sydd â’r craffter gweledol isaf. Byddai defnydd delfrydol o'r gosodiad hwn yn cael ei gyfuno â maint testun Testun Canolig neu Testun Mawr.


Botymau

Mae ein steil botwm rhagosodedig yn defnyddio cefndiroedd lliw bloc sy'n cyferbynnu â chefndir y dudalen.

Gallwch newid hwn yn ddewisol i ddefnyddio botymau sy'n cynnal yr un lliw cefndir a lliw testun â phrif gynnwys y wefan, ac sy'n dynodi mai botwm gydag amlinelliad yw hwnnw. Gall hyn fod yn well gan ddefnyddwyr sy'n gallu darllen golau-ar-tywyll neu dywyll-ar-golau gyda mwy o gysur.

Dewiswch eich opsiwn gorau:



Priflythrennau

Gallwch ddewis lleihau'r defnydd o briflythrennau ar gyfer penawdau ac is-benawdau os ydych chi'n ei chael hi'n haws eu darllen mewn Achos Frawddeg. Gellir rhywfaint o destun, gan gynnwys acronymau, dangos mewn priflythrennau o hyd.

Dewiswch eich opsiwn gorau:



Opsiynau Cynnig

Mae'r wefan hon weithiau'n defnyddio animeiddio i ddod â'r cynnwys i fyw. Os hoffech chi analluogi hyn, gallwch chi wneud.

Dewiswch eich opsiwn gorau: