Rhoddodd Arolwg Ciplun Chwaraeon Cenedlaethol 2025 gyfle i bob ymatebydd gael ei gynnwys mewn raffl i ennill offer gwerth £500 a Hyfforddiant Cynhwysiant Anabledd y DU gwerth £250.
Y rhai a ddewiswyd ar hap oedd Mencap Môn! Llongyfarchiadau mawr i Mencap Môn ac isod mae manylion am sut mae Mencap Môn wedi elwa.
Sefydlwyd Mencap Môn 60 mlynedd yn ôl gan grŵp o rieni oedd yn benderfynol o wella bywydau pobl ag Anableddau Dysgu ar yr Ynys. Yn 2015 sefydlwyd Hwb Mencap Môn ac yn ddiweddarach cafodd ei adnewyddu'n llawn yn 2022 wrth iddynt lansio Ffiws gydag Argraffu 3D, Dylunio a Thechnoleg yn ogystal â chefnogi llwybrau i waith gwirfoddol a chyflogaeth i'w 98 o aelodau anabl.
Rhaglenni Mencap Môn
Mae eu rhaglenni’n canolbwyntio’n llawn ar iechyd a lles gyda rhaglen helaeth o weithgareddau, sy’n cynnwys:
-
Pêl-droed
- Beicio
- Nofio
- Pool
- Croquet
- Dawnsio neuadd (Ballroom)
- a nifer o weithgareddau lles pellach.
Effaith ar Gyfranogwyr / Gwasanaethu’r Gymuned Ehangach:
- Mae’r rhaglenni helaeth wedi darparu profiadau newydd a chyfleoedd ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol, gan alluogi pobl i wneud ffrindiau newydd yn lleol ac ar draws y rhanbarth
- Yn darparu amgylcheddau diogel a chynhwysol, gan ddatblygu sgiliau cyflogaeth a chyflawni nodau newydd
- Dawnsio ac ystod eang o chwaraeon wedi gwella gydbwysedd, ystum a symudedd trwy ymarfer corff
- Lleihad mewn gorbryder a chynnydd mewn hyder ymhlith aelodau
- Mae Croquet, Ffiws a Gwnïo hefyd ar agor i pobl heb anabledd, yn enwedig pobl sydd wedi’u hynysu, ac wedi cael eu croesawu i’r hwb, gan ddarparu allfa werthfawr yn yr ardal
Ychwanegodd Marcus Politis, Uwch Swyddog Partneriaeth Ranbarthol ChAC “Mae gwaith rhagorol Mencap Môn eisioes wedi arwain i Dot Gallagher ennill Wobr Cyflawniad Oes ChAC, ac eleni mae Mencap Môn ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Gofal Cymdeithasol Cymru yng Nghaerdydd ar 2 Gorffennaf 2026. Hoffwn ddymuno'r gorau iddynt a diolch am eu hymrwymiad diflino i bobl ag anableddau dysgu yn Ynys Môn a ledled Gogledd Cymru”.
Dywedodd Barry Edwards, Rheolwr Lleoliadau Egnïol a Datblygu Chwaraeon ar gyfer Môn Actif, “Mae Annibynwyr Môn a Mencap Môn yn chwarae rhan hanfodol wrth greu cyfleoedd croesawgar a chynhwysol i bobl ledled Ynys Môn, ac rydym yn falch o sefyll ochr yn ochr â nhw yn y gwaith hwn. Trwy Ynys Môn Actif, rydym yn cynnig ystod eang o weithgareddau sydd wedi’u cynllunio i gefnogi iechyd, hyder a chysylltiad cymunedol i bobl o bob gallu. Mae gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol os ydym am wneud Ynys Môn yn lle lle gall pawb gael mynediad at gyfleoedd ystyrlon a phleserus. Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn gael gwared ar rwystrau, cryfhau’r ddarpariaeth a sicrhau bod chwaraeon a gweithgarwch corfforol cynhwysol ar gael i bob aelod o’n cymuned. Mae’r gwaith anhygoel a wneir gan Annibynwyr Môn a Mencap Môn yn wych i’w weld ac mae’n wych gweld y tîm yn cael ei wobrwyo gan DSW gydag offer ac adnoddau a fydd yn ategu eu gweithgareddau yn y dyfodol ac yn ysbrydoli a chymell hyd yn oed mwy o bobl i fod yn iachach, yn hapusach ac yn fwy egnïol.”
Astudiaeth Achos: Mencap Môn
Mae rhagor o fanylion am sut mae Mencap Môn yn elwa o'u hoffer newydd gwerth £500 i'w gweld yn yr astudiaeth achos lawn.



