Y prif amcan yw nodi a mynd i'r afael â meysydd allweddol a fydd yn diogelu dyfodol chwaraeon i bobl anabl, gan sicrhau ei fod yn parhau i gynnig cyfleoedd i athletwyr anabl ddatblygu a symud ymlaen at ddigwyddiadau ar lefel y Gemau Paralympaidd a Gemau'r Gymanwlad; tra hefyd yn amlinellu'r hyn sydd angen newid er mwyn cefnogi llwybrau eraill ar gyfer athletwyr byddar ac anabl.


Mae Chwaraeon Cymru a Chwaraeon Anabledd Cymru yn comisiynu darn o waith ar y cyd i ‘ddiogelu dyfodol’ para-chwaraeon perfformiad yng Nghymru. Y nod yw nodi’r newidiadau system sydd eu hangen dros y 12 i 16 mlynedd nesaf i sicrhau bod amgylcheddau chwaraeon perfformiad yn gynhwysol i gymunedau croestoriadol o bobl anabl.

Bydd y gwaith hwn yn cyflawni’r canlynol:

  • Diffinio paramedrau presennol para-chwaraeon perfformiad yng Nghymru ac asesu aeddfedrwydd amgylcheddau perfformiad para ar draws Cyrff Rheoli Cenedlaethol (CRhC) Cymru, darpariaeth dan arweiniad ChAC (swyddogaeth a chyflenwi rhaglenni CRhC), a digwyddiadau datblygu perfformiad sydd ar hyn o bryd y tu allan i gwmpas cyllid perfformiad UK Sport a Chwaraeon Cymru.
  • Rhagweld trywydd gofynion o ran adnoddau i gynnal a thyfu para-chwaraeon perfformiad.
  • Gwneud argymhellion i gefnogi’r trawsnewid a / neu gadw cyfrifoldeb am lwybrau perfformiad para o ChAC i CRhC, gan sicrhau cynaliadwyedd a chynhwysiant hirdymor.

Gallai'r prosiect fod yn un cyflwyniad sengl neu gael ei rannu'n dair adran ar wahân. Disgwylir i'r tendrwr llwyddiannus gwblhau unrhyw un, neu bob un, o adrannau un, dau neu dri, yn seiliedig ar eu lefel o arbenigedd a chapasiti.

Byddai'r allbynnau ar draws pob adran fel a ganlyn:

Adran 1

Cynnal adolygiad cynhwysfawr o adnoddau, modelau cyflawni ac amgylcheddau perfformio cyfredol yng Nghymru, gan feincnodi Cymru yn erbyn gwledydd eraill sy'n arwain y byd mewn para-chwaraeon. Nodi a diffinio paramedrau cyfredol chwaraeon perfformiad para yng Nghymru ac asesu aeddfedrwydd yr holl amgylcheddau perfformiad para.

Adran 2

Ymgysylltu â rhanddeiliaid ar draws sector chwaraeon Cymru. Archwilio a dadansoddi sut mae para-athletwyr yng Nghymru yn cael eu hadnabod, eu datblygu a'u cefnogi a phwy sydd yn y sefyllfa orau i wneud hyn.

Adran 3

Datblygu cynllun gweithredu manwl gydag argymhellion ymarferol (tymor byr, canolig a hir). Gwneud argymhellion sy'n rhagweld trywydd y gofynion o ran adnoddau dros y 12 i 16 mlynedd nesaf a bydd yn parhau i sicrhau bod chwaraeon yng Nghymru yn cynhyrchu athletwyr perfformiad para o safon byd.

Gallwch ddod o hyd i'r dogfennau tendro yma:  

 

Hyd y contract arfaethedig yw 18 mis, gyda rhandaliadau’n cael eu talu'n gysylltiedig â cherrig milltir ac adrannau’r prosiect y cytunwyd arnynt gyda Chwaraeon Cymru a Chwaraeon Anabledd Cymru.

Y gwerth a amcangyfrifir ar gyfer cyfanswm y contract yw (hyd at) £50,000 (heb gynnwys TAW) dros y tymor posibl llawn (3 adran). Mae’r manylion fel a ganlyn:
Adran 1:  £10,000
Adran 2:  £20,000
Adran 3:  £20,000

Mae Chwaraeon Cymru a Chwaraeon Anabledd Cymru wedi cyhoeddi'r tendr hwn ar gyfer y gwaith cyfan.

Gall tendrwyr llwyddiannus gael eu penodi ar gyfer yr holl adrannau y gwnaethant gais ar eu cyfer, neu ar gyfer rhai ohonynt yn unig. Os bydd tendrwyr yn cael eu penodi ar gyfer un neu ddwy adran yn unig, a thendrwr llwyddiannus arall yn ennill yr adran(nau) sy'n weddill, rhoddir cyfle i'r holl bartïon llwyddiannus gyfarfod a thrafod trefniadau gwaith a materion ymarferol y prosiect, er mwyn sicrhau bod pob parti'n gallu cwblhau'r gwaith.

Dogfennau ymateb

Yn dibynnu ar y cyflwyniad, dylech gwblhau'r holl ddogfennau ymateb sy'n berthnasol i bob Adran:

Adran 1  
📃Templed Ymateb Masnachol A1 📃Templed Ymateb Ansawdd A1
Adran 2  
📃Templed Ymateb Masnachol A2 📃Templed Ymateb Ansawdd A2
Adran 3  
📃Templed Ymateb Masnachol A3 📃Templed Ymateb Ansawdd A3

 

Key Dates:

Dyddiad Cau ar gyfer Cyflwyno Cwestiynau Eglurhad Dydd Iau 7fed Ionawr 2027
Dyddiad Cau ar gyfer Cyflwyno Ymatebion Dydd Mawrth 12fed Ionawr 2027 (4pm)
Gwerthuso (gan gynnwys pob cymeradwyaeth fewnol) Dydd Mawrth 19eg Ionawr 2027
Anfon gwahoddiadau i gyfweliad Dydd Mercher 20eg Ionawr 2027
Cynnal cyfweliadau ar gyfer egluro ymatebion ysgrifenedig yn unig Dydd Mawrth 26 ain / Dydd Mercher 27fed Ionawr 2027
Dyfarnu'r Contract Chwefror 2027
Contract yn Dechrau Dydd Mawrth 2il Mawrth 2027

Pynciau yn yr erthygl hon:
Job OpportunityGovernanceChwaraeon ElitaiddLlwybr PerfformiadTender OpportunityInsightResearchDatainsportSport Wales


Opsiynau Hygyrchedd

Maint testun

Dewiswch eich opsiwn gorau:



 

Lliw

Dewiswch eich opsiwn gorau:


 

Mae'r modd lliw Golau wedi'i ddylunio gan ddefnyddio lliwiau brand Chwaraeon Anabledd Cymru, i gwrdd â Lefel AA Canllaw Hygyrchedd Cynnwys Gwe. Dylai hyn ddarparu cyferbyniad da i'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr.

Mae'r modd lliw Tywyll hefyd yn defnyddio lliwiau brand Chwaraeon Anabledd Cymru, ond yn gwrthdroi golau a thywyllwch i greu fersiwn "modd nos". Fe'i bwriedir ar gyfer pobl nad ydynt yn hoffi sgriniau llachar, neu sy'n dymuno defnyddio eu harddangosfa mewn ffordd fwy ynni-effeithlon. Nid yw'r opsiwn hwn yn bodloni Lefel AA Canllaw Hygyrchedd Cynnwys Gwe, felly efallai na fydd yn addas ar gyfer defnyddwyr â nam ar eu golwg.

Mae'r modd lliw Tawel yn defnyddio lliwiau a allai fod yn fwy addas ar gyfer defnyddwyr sy'n sensitif i liwiau llachar, neu sy'n ffafrio cyferbyniad is. Nid yw'r opsiwn hwn yn bodloni Lefel AA Canllaw Hygyrchedd Cynnwys Gwe, felly efallai na fydd yn addas ar gyfer defnyddwyr â nam ar eu golwg.

Mae’r opsiwn Cyferbynnedd Uchel wedi’i deilwra i gyrraedd Lefel AAA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, a’i fwriad yw gwneud y wefan hon mor hygyrch â phosibl i ddefnyddwyr sydd â’r craffter gweledol isaf. Byddai defnydd delfrydol o'r gosodiad hwn yn cael ei gyfuno â maint testun Testun Canolig neu Testun Mawr.


Botymau

Mae ein steil botwm rhagosodedig yn defnyddio cefndiroedd lliw bloc sy'n cyferbynnu â chefndir y dudalen.

Gallwch newid hwn yn ddewisol i ddefnyddio botymau sy'n cynnal yr un lliw cefndir a lliw testun â phrif gynnwys y wefan, ac sy'n dynodi mai botwm gydag amlinelliad yw hwnnw. Gall hyn fod yn well gan ddefnyddwyr sy'n gallu darllen golau-ar-tywyll neu dywyll-ar-golau gyda mwy o gysur.

Dewiswch eich opsiwn gorau:



Priflythrennau

Gallwch ddewis lleihau'r defnydd o briflythrennau ar gyfer penawdau ac is-benawdau os ydych chi'n ei chael hi'n haws eu darllen mewn Achos Frawddeg. Gellir rhywfaint o destun, gan gynnwys acronymau, dangos mewn priflythrennau o hyd.

Dewiswch eich opsiwn gorau:



Opsiynau Cynnig

Mae'r wefan hon weithiau'n defnyddio animeiddio i ddod â'r cynnwys i fyw. Os hoffech chi analluogi hyn, gallwch chi wneud.

Dewiswch eich opsiwn gorau: