Bydd chwaraewr Pêl Fasged Cadair Olwyn gydag Aberystwyth, Kai Frisby, yn rhan o’r Her Rickshaw eleni er budd Plant Mewn Angen.

Bydd y llanc 16 oed yn ymuno â chyflwynydd y BBC, Matt Baker MBE, pan fydd yr her yn cyrraedd Aberystwyth ddydd Mercher 19 Hydref.

Cafodd Kai ei eni gyda Pharlys yr Ymennydd ac mae wedi bod â symudedd cyfyngedig drwy gydol ei fywyd. Er gwaethaf llawdriniaeth yn saith oed i'w helpu i gerdded, mae Kai yn ddefnyddiwr cadair olwyn llawn amser.

Pan ddarganfu Kai ei glwb Pêl Fasged Cadair Olwyn lleol yn Aberystwyth, daeth o hyd i angerdd a phenderfyniad newydd, yn ogystal â ffrindiau newydd a'i hunaniaeth. Mae ei brif hyfforddwr yn dweud ei fod yn chwaraewr pêl fasged cadair olwyn naturiol.

Ers hynny mae Kai wedi cyrraedd gemau rhagbrofol Gemau'r Gymanwlad ac wedi cario'r baton yn y ras gyfnewid.

“Pêl Fasged Cadair Olwyn yw fy angerdd i, a gyda help a chefnogaeth Chwaraeon Anabledd Cymru mae wedi rhoi egni, penderfyniad a hyder i mi – ac mae’n parhau i alluogi i mi fyw fy mywyd i’r eithaf,” meddai Kai.

“Mae’r Her Rickshaw y tu hwnt i’r hyn sy’n gyfforddus i mi fel defnyddiwr cadair olwyn, ond mae’n gyfle gwych i roi yn ôl a helpu eraill i gymryd rhan gobeithio.”

“Fel ei rieni, mae’n wych gweld Kai yn ffynnu ar hyn o bryd,” meddai tad Kai, Danny Frisby.

“Mae ymarfer corff yn parhau i fod y peth sy’n ei yrru ymlaen ac mae’n wych ei weld mor hapus. Dwi'n falch!"

“Rydw i mor gyffrous am fynd yn ôl ar y ffordd eto,” meddai Matt Baker.

“Dyma uchafbwynt fy mlwyddyn i a dydw i ddim yn gallu aros i chi gwrdd â’r grŵp yma o feicwyr sydd â’u straeon ysbrydoledig eu hunain i’w hadrodd.

“Fe fydden ni wrth ein bodd yn cael eich cefnogaeth chi ar y ffordd eleni, ond os na allwch chi ddod i’r digwyddiad, cofiwch diwnio mewn a’n gwylio ni ar BBC Breakfast bob bore.

“Rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n flwyddyn heriol i bawb, ond os ydych chi’n gallu cyfrannu, byddai’n cael ei werthfawrogi’n fawr, a bydd yn gwneud byd o wahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc ledled y DU.”

Bydd yr Her Rickshaw yr wythnos hon, (17-21 Hydref) yn cael ei darlledu’n fyw ar BBC Breakfast bob bore o 06:00 ymlaen. Hefyd bydd rhaglen ddogfen arbennig o’r enw The Rickshaw Relay Rides Again yn cael ei darlledu ar BBC One nos Fawrth 15 Tachwedd. Bydd yn rhannu straeon rhyfeddol y tîm ac yn dathlu hanes yr Her Rickshaw, ac ar yr un pryd yn codi arian sy’n newid bywydau i’r elusen fel rhan o’i hapêl Plant mewn Angen 2022.

Gallwch ddilyn yr Her Rickshaw drwy'r traciwr yn: www.live.opentracking.co.uk/cin2022/​​​​​​​


Pynciau yn yr erthygl hon:
Codi ArianLlwybr Perfformiad


Opsiynau Hygyrchedd

Maint testun

Dewiswch eich opsiwn gorau:



 

Lliw

Dewiswch eich opsiwn gorau:


 

Mae'r modd lliw Golau wedi'i ddylunio gan ddefnyddio lliwiau brand Chwaraeon Anabledd Cymru, i gwrdd â Lefel AA Canllaw Hygyrchedd Cynnwys Gwe. Dylai hyn ddarparu cyferbyniad da i'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr.

Mae'r modd lliw Tywyll hefyd yn defnyddio lliwiau brand Chwaraeon Anabledd Cymru, ond yn gwrthdroi golau a thywyllwch i greu fersiwn "modd nos". Fe'i bwriedir ar gyfer pobl nad ydynt yn hoffi sgriniau llachar, neu sy'n dymuno defnyddio eu harddangosfa mewn ffordd fwy ynni-effeithlon. Nid yw'r opsiwn hwn yn bodloni Lefel AA Canllaw Hygyrchedd Cynnwys Gwe, felly efallai na fydd yn addas ar gyfer defnyddwyr â nam ar eu golwg.

Mae'r modd lliw Tawel yn defnyddio lliwiau a allai fod yn fwy addas ar gyfer defnyddwyr sy'n sensitif i liwiau llachar, neu sy'n ffafrio cyferbyniad is. Nid yw'r opsiwn hwn yn bodloni Lefel AA Canllaw Hygyrchedd Cynnwys Gwe, felly efallai na fydd yn addas ar gyfer defnyddwyr â nam ar eu golwg.

Mae’r opsiwn Cyferbynnedd Uchel wedi’i deilwra i gyrraedd Lefel AAA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, a’i fwriad yw gwneud y wefan hon mor hygyrch â phosibl i ddefnyddwyr sydd â’r craffter gweledol isaf. Byddai defnydd delfrydol o'r gosodiad hwn yn cael ei gyfuno â maint testun Testun Canolig neu Testun Mawr.


Botymau

Mae ein steil botwm rhagosodedig yn defnyddio cefndiroedd lliw bloc sy'n cyferbynnu â chefndir y dudalen.

Gallwch newid hwn yn ddewisol i ddefnyddio botymau sy'n cynnal yr un lliw cefndir a lliw testun â phrif gynnwys y wefan, ac sy'n dynodi mai botwm gydag amlinelliad yw hwnnw. Gall hyn fod yn well gan ddefnyddwyr sy'n gallu darllen golau-ar-tywyll neu dywyll-ar-golau gyda mwy o gysur.

Dewiswch eich opsiwn gorau:



Priflythrennau

Gallwch ddewis lleihau'r defnydd o briflythrennau ar gyfer penawdau ac is-benawdau os ydych chi'n ei chael hi'n haws eu darllen mewn Achos Frawddeg. Gellir rhywfaint o destun, gan gynnwys acronymau, dangos mewn priflythrennau o hyd.

Dewiswch eich opsiwn gorau:



Opsiynau Cynnig

Mae'r wefan hon weithiau'n defnyddio animeiddio i ddod â'r cynnwys i fyw. Os hoffech chi analluogi hyn, gallwch chi wneud.

Dewiswch eich opsiwn gorau: