Credyd llun: Reinhardt Hamman
Roedd Tomi yn un o dri phara-athletwr ifanc o Gymru a gafodd wahoddiad i’r gwersyll hyfforddi wythnos o hyd yn Stellenbosch, ochr yn ochr â Will Bishop (Dinbych), Ashton Fish (Caerffili) a’u hyfforddwr a Swyddog Llwybr Perfformiad Chwaraeon Anabledd Cymru, Morgan Jones.
Mae rhaglen GAPS yn cynnig cyfle datblygu i athletwyr o Affrica, Asia ac Ewrop i baratoi ar gyfer Gemau Ieuenctid y Gymanwlad, sy’n cael eu cynnal yn Nhrinidad a Thobago ym mis Awst.
I Tomi, 17 oed, sy’n mynychu chweched dosbarth Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf Caerdydd, roedd gwersyll hyfforddi GAPS nid yn unig yn gyfle gwych i brofi rhywfaint o hyfforddiant tywydd poeth, ond hefyd yn nod anhygoel i ganolbwyntio arno yn ystod ei gyfnod adfer yn dilyn niwrolawdriniaeth yn Ysbyty Great Ormond Street ddechrau'r flwyddyn.
O oedran ifanc iawn, mae chwaraeon wedi bod yn hynod bwysig i Tomi, ac mae wedi cymryd rhan mewn pob math o gampau, o taekwondo i rygbi, nofio, beicio a llawer mwy.
Yn wir, mae chwaraeon bob amser wedi rhoi rhywbeth i Tomi siarad amdano ac wedi rhoi gwir ymdeimlad o bwrpas iddo mewn bywyd.
Fe ddarganfyddodd Tomi athletau pan fynychodd ddigwyddiad Cyfres insport a drefnwyd gan Chwaraeon Anabledd Cymru yn naw oed.
Gwahoddwyd Tomi i roi cynnig ar athletau gan Uwch Swyddog Llwybr Perfformiad ChAC, Nathan Stephens, ac nid yw wedi edrych yn ôl ers hynny.
“Roedd ymweld â De Affrica yn wych,” meddai Tomi.
“Fe wnes i fwynhau’r hyfforddiant tywydd cynnes ac mae cael y cyfle i gynrychioli Cymru ar lefel cystadleuaeth bob amser yn anhygoel.
“Mae chwaraeon wedi bod yn flociau adeiladu i fy mywyd i; dyna pwy ydw i heddiw. Mae wedi rhoi ffocws, hunan-gred a hunanbenderfyniad i mi.
“Fy nod i yw bod yn Baralympiad yn y dyfodol agos.”
“Mae’n anhygoel gweld digwyddiadau Para yn cael eu cynnwys yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad am y tro cyntaf eleni,” ychwanegodd Nathan.
“Rydyn ni wrth ein bodd bod tri Phara-athletwr o Gymru, a hyfforddwr, Morgan Jones, wedi cael y cyfle i fynychu rhaglen GAPS a roddodd brofiad anhygoel o gystadlu a datblygu iddyn nhw.
“Mae hwn yn gyfle enfawr i Bara-chwaraeon ieuenctid, i roi cyfle i athletwyr ifanc sy’n datblygu gystadlu ar lwyfan y byd a helpu gyda’r trawsnewid i gystadlaethau hŷn a gemau aml-chwaraeon yn y dyfodol.”
I gael rhagor o wybodaeth am Gemau Ieuenctid y Gymanwlad TRINBAGO cliciwch yma:Gemau Ieuenctid y Gymanwlad Trinbago 2023 (commonwealthsport.com)
I gael rhagor o wybodaeth am raglen Llwybr Perfformiad Chwaraeon Anabledd Cymru, cliciwch yma:https://www.disabilitysportwales.com/en-gb/performance/inspire-form#cookieConsent