Mae'r oedolion rhyfeddol yn Addysg a Gofal Orbis yn hoff iawn o chwaraeon ac roeddent eisiau gwneud rhywbeth i Chwaraeon Anabledd Cymru - felly aethon nhw ati i greu her chwaraeon codi arian i ddringo Pen y Fan!

A young man prepares to walk up Pen y Fan

Mae Orbis yn darparu addysg a gofal gydol oes ysbrydoledig i blant ac oedolion ag anghenion cymhleth sy'n gysylltiedig ag awtistiaeth. Penderfynodd oedolion o’i ganolfannau yn Nhŷ Seren, Rosendale a The Old Vicarage fynd ar antur fynyddig i gydnabod y gwaith a’r cyfleoedd anhygoel mae ChAC yn eu darparu i bobl ifanc ac oedolion ag anableddau.

Dringodd yr oedolion a ddringodd yn enw Addysg a Gofal Orbis i gopa Pen y Fan, 886 metr uwch ben lefel y môr, a thrwy dudalen codi arian a gafodd ei chreu ganddynt, fe wnaethant godi mwy na £500.

Roedd Pennaeth Bywyd Academi Orbis, Kris Davies, yn eithriadol falch o ymdrech y tîm, a dywedodd: “Rwy’n hynod falch o bawb a gymerodd ran yn y digwyddiad codi arian yma ar ran Addysg a Gofal Orbis.” 

“O'r rhai a helpodd i godi arian yn eu cymuned leol i'r rhai a gerddodd a choncro Pen y Fan, mae'r ymrwymiad a'r ymdrech maen nhw i gyd wedi'u dangos wedi bod yn wirioneddol wych,” ychwanegodd Kris. 

“Fe gafodd y prosiect yma ei gynnal drwy brosiect Bywyd Academi Orbis i helpu i godi ymwybyddiaeth ehangach o awtistiaeth ac o'r hyn y mae pawb rydym ni yma i'w cefnogi yn gallu ei gyflawni. Rwy'n gwybod eu bod i gyd yn falch iawn o'r hyn maen nhw wedi'i gyflawni a'u bod nhw'n helpu eraill, ac fe ddylen nhw fod yn falch.”

Mae Orbis wedi cael ei ysbrydoli ers amser maith gan ethos Chwaraeon Anabledd Cymru i wneud Cymru’n fwy cynhwysol ac ysbrydoledig. Gyda'u pobl ifanc a'u hoedolion yn mwynhau rhyw fath o weithgarwch corfforol, roedd yn benderfyniad hawdd felly dewis ChAC fel eu helusen ar gyfer eu taith gerdded i godi arian.

Fel sefydliad sy'n amlwg yn cydnabod y manteision lles a datblygiadol cyffredinol mae chwaraeon yn eu cynnig i unigolion, mae hefyd yn ymdrechu'n barhaus i ddarparu cyfleoedd gweithgarwch corfforol i'r rhai mae'n eu cefnogi, o gerdded Llwybr Taf i ymweld â'r pwll nofio.

Mae nofio yn arbennig yn hoff weithgaredd gan yr oedolion a'r plant sy'n defnyddio gwasanaethau Bywyd Academi Orbis, ac mae'r sefydliad felly wedi gofyn i'r arian sydd wedi cael ei godi gael ei fuddsoddi i ddatblygu'r rhaglen nofio yn ChAC ymhellach.

“Roedd hwn yn gyfle mor wych i’n criw ni, gan ddod at ei gilydd i gyrraedd eu nodau, codi arian at achos da a dringo’r mynydd mwyaf yn ne Cymru,” ychwanegodd Dean Thomas, Cydlynydd Gwaith a Sgiliau Orbis.

“Am ddiwrnod gwych. Roedd yn anodd, fe gawson ni hwyl ac er mwyn ein cymell ni i ddal ati, roeddem yn meddwl am y pethau cadarnhaol y gallai'r arian oedd yn cael ei godi fynd tuag atynt.”


Pynciau yn yr erthygl hon:
Codi ArianAutismOrbis Addysg a Gofal


Opsiynau Hygyrchedd

Maint testun

Dewiswch eich opsiwn gorau:



 

Lliw

Dewiswch eich opsiwn gorau:


 

Mae'r modd lliw Golau wedi'i ddylunio gan ddefnyddio lliwiau brand Chwaraeon Anabledd Cymru, i gwrdd â Lefel AA Canllaw Hygyrchedd Cynnwys Gwe. Dylai hyn ddarparu cyferbyniad da i'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr.

Mae'r modd lliw Tywyll hefyd yn defnyddio lliwiau brand Chwaraeon Anabledd Cymru, ond yn gwrthdroi golau a thywyllwch i greu fersiwn "modd nos". Fe'i bwriedir ar gyfer pobl nad ydynt yn hoffi sgriniau llachar, neu sy'n dymuno defnyddio eu harddangosfa mewn ffordd fwy ynni-effeithlon. Nid yw'r opsiwn hwn yn bodloni Lefel AA Canllaw Hygyrchedd Cynnwys Gwe, felly efallai na fydd yn addas ar gyfer defnyddwyr â nam ar eu golwg.

Mae'r modd lliw Tawel yn defnyddio lliwiau a allai fod yn fwy addas ar gyfer defnyddwyr sy'n sensitif i liwiau llachar, neu sy'n ffafrio cyferbyniad is. Nid yw'r opsiwn hwn yn bodloni Lefel AA Canllaw Hygyrchedd Cynnwys Gwe, felly efallai na fydd yn addas ar gyfer defnyddwyr â nam ar eu golwg.

Mae’r opsiwn Cyferbynnedd Uchel wedi’i deilwra i gyrraedd Lefel AAA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, a’i fwriad yw gwneud y wefan hon mor hygyrch â phosibl i ddefnyddwyr sydd â’r craffter gweledol isaf. Byddai defnydd delfrydol o'r gosodiad hwn yn cael ei gyfuno â maint testun Testun Canolig neu Testun Mawr.


Botymau

Mae ein steil botwm rhagosodedig yn defnyddio cefndiroedd lliw bloc sy'n cyferbynnu â chefndir y dudalen.

Gallwch newid hwn yn ddewisol i ddefnyddio botymau sy'n cynnal yr un lliw cefndir a lliw testun â phrif gynnwys y wefan, ac sy'n dynodi mai botwm gydag amlinelliad yw hwnnw. Gall hyn fod yn well gan ddefnyddwyr sy'n gallu darllen golau-ar-tywyll neu dywyll-ar-golau gyda mwy o gysur.

Dewiswch eich opsiwn gorau:



Priflythrennau

Gallwch ddewis lleihau'r defnydd o briflythrennau ar gyfer penawdau ac is-benawdau os ydych chi'n ei chael hi'n haws eu darllen mewn Achos Frawddeg. Gellir rhywfaint o destun, gan gynnwys acronymau, dangos mewn priflythrennau o hyd.

Dewiswch eich opsiwn gorau:



Opsiynau Cynnig

Mae'r wefan hon weithiau'n defnyddio animeiddio i ddod â'r cynnwys i fyw. Os hoffech chi analluogi hyn, gallwch chi wneud.

Dewiswch eich opsiwn gorau: