Mewn partneriaeth, bydd CIMSPA a Chwaraeon Anabledd Cymru yn gwella’r cyfleoedd i bobl anabl fod yn rhan o weithlu’r sector gweithgaredd corfforol a chwaraeon. Rydym hefyd am weithio ar y cyd i sicrhau bod y sector yn gynhwysol drwy uwchsgilio a gwella hyder y gweithlu i ddarparu cyfleoedd cynhwysol.
Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yma yn ffurfioli'r ymrwymiad i weithio ar y cyd ar ddatblygu safonau proffesiynol, safonau defnyddio, grŵp mewnwelediad y gweithlu, a bod yn ddarparwr hyfforddiant cymeradwy.
Dywedodd Fiona Reid, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Anabledd Cymru:
“Rydym wedi gweithio’n agos gyda CIMSPA dros y blynyddoedd drwy grŵp Dysgu Chwaraeon Anabledd a Gweithgarwch Corfforol y DU, ac mae’n gyffrous iawn cael partneriaeth bellach ar waith. Bydd y bartneriaeth yn rhoi mwy o gyfle i ni gefnogi'r sector i adeiladu gweithlu anabl ac sy’n cynnwys pobl anabl. Rydyn ni'n gwybod bod angen i ni gydweithio i alluogi hyn, ac mae hwn yn gydweithrediad cryf a chynhyrchiol bydd yn gwneud gwahaniaeth."
Dywedodd Colin Huffen, Cyfarwyddwr Cyswllt Polisi yn CIMSPA:
“Gweledigaeth CIMSPA yw llunio sector chwaraeon a gweithgaredd corfforol cydnabyddedig, gwerthfawr a chynhwysol y gall pawb fod yn rhan ohono. Felly mae gallu ffurfioli ein perthynas â Chwaraeon Anabledd Cymru a chydweithio i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau ar gyfer pobl anabl sy’n gweithio neu’n cymryd rhan yn y sector yn bwysig iawn.
Mae ein dirnadaeth yn dweud wrthym, yn y gweithlu chwaraeon a gweithgaredd corfforol, fod gan ganran lai o bobl anabledd o gymharu â sectorau eraill. Mae gweithio gyda ChAC i gynyddu argaeledd ac ymwybyddiaeth o gyfleoedd dysgu a datblygu perthnasol o safon sy’n galluogi pawb i wireddu eu potensial llawn yn gam cadarnhaol arall ymlaen at gyflawni sector mwy amrywiol a phroffesiynol.”