Bydd y twrnamaint cymhwyster yn cael ei gynnal yn Largs yng Nghanolfan Hyfforddi Chwaraeon Genedlaethol Inverclyde Sport Scotland.
Dyma’r tro cyntaf i Bêl-fasged Cadair Olwyn 3x3 gael ei chynnwys yn Rhaglen Gemau’r Gymanwlad felly bydd yn wych gweld tîm Merched a Dynion Cymru yn cystadlu i ennill eu lle yn y gemau, sydd i’w cynnal yn Birmingham haf eleni.
Dywedodd Mike Hayes Prif Hyfforddwr y Merched:
“Mae’n mynd i fod yn foment falch iawn i’r merched a’r ffaith ein bod yn gallu cystadlu ar lwyfan mor fawr â Chymru. Hefyd i fod yn rhan o Bêl-fasged Cadair Olwyn sydd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y Gemau, mae hyn yn ddatblygiad enfawr yn y gêm.”
Dywedodd Caroline Mathews sy’n brif hyfforddwr carfan y Dynion:
“Rwy’n gyffrous iawn i fod yn mynd i dwrnamaint cymhwyster Gemau’r Gymanwlad gyda charfan 3x3 dynion Cymru. Mae’r gystadleuaeth am le ar y tîm wedi bod yn frwd a hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bob aelod o’r garfan – mae eu holl ymdrech a gwaith caled wedi dod â ni i’r lle hwn – ac i dîm Cymreig gallwn ni gyd fod yn falch iawn o. Mae hi wedi bod yn fraint cael hyfforddi’r garfan trwy ein paratoadau ar gyfer Gemau’r Gymanwlad a dwi’n edrych ymlaen at weld y dynion yn cystadlu yn yr Alban yr wythnos hon! Yr haf yma fydd y tro cyntaf i bêl-fasged cadair olwyn gael ei chynnwys yng Ngemau’r Gymanwlad – ac mae hynny, ynghyd ag esblygiad y fformat 3x3, yn gwneud hyn yn gyfnod hynod gyffrous i ymwneud â’r gamp anhygoel hon. Rwy’n gyffrous iawn i weld sut mae’r gamp yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf”.
Byddwch yn gallu gwylio’r gemau drwy BBC iPlayer ar-lein.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Chwaraeon Anabledd Cymru.