Jim Roberts competing in wheelchair rugby for ParalympicsGB at the Tokyo 2020 Paralympic Games

Llun: Great Britain Wheelchair Rugby / Megumi Masuda

 

Mae Rygbi Cadair Olwyn Prydain Fawr, Chwaraeon Anabledd Cymru ac yr Undeb Rygbi Cymru yn gweithio ar y cyd i darganfod a datblygu’r genhedlaeth nesaf o sêr rygbi cadair olwyn Cymru. Rydym yn chwilio am ddynion a merched ag anabledd corfforol sy’n angerddol ac yn gyffrous am chwaraeon, sydd eisiau fod y gorau y gallant fod, ac sydd am archwilio eu potensial mewn rygbi cadair olwyn.

Nid oes angen i chi gael unrhyw brofiad o chwarae rygbi cadair olwyn – efallai eich bod yn chwarae camp wahanol ac yn teimlo y gallai rygbi cadair olwyn fod yn gamp yr ydych yn rhagori ynddi neu efallai eich bod wedi darganfod y gamp trwy Bencampwriaeth Ewrop, a hyn fydd eich tro cyntaf i roi cynnig ar gamp cadair olwyn.

 

 

Diwrnod Adnabod Talent

Ar hyn o bryd mae gennym ddigwyddiad adnabod talent ar y gweill

  • Dydd Sadwrn, 8 Gorffennaf ym Mhrifysgol Aberystwyth

Ond peidiwch â phoeni os na allwch wneud y diwrnod yma, dylech parhau i wneud cais a byddwn mewn cysylltiad â chyfleoedd eraill i gymryd rhan.

Bydd ein diwrnodau talent yn cael eu cyflwyno gan hyfforddwyr llwybr profiadol a fydd yn rhoi’r cyfle i chi roi cynnig ar rygbi cadair olwyn mewn amgylchedd hwyliog, gyda chefnogaeth. Bydd yr holl offer yn cael eu darparu, gan gynnwys cadeiriau a menig, a bydd ein staff yn eich cyflwyno i rygbi cadair olwyn mewn ffordd y byddwch yn gyfforddus efo.

Yn ystod y sesiwn byddwch yn cael y cyfle i ddysgu sgiliau sylfaenol y gamp a’u rhoi ar waith mewn gemau. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i roi cynnig ar rai o’n profion corfforol sy’n mesur eich cyflymder, cyflymiad a’ch gallu i symud. Bydd ein staff hyfforddi a chefnogi yn monitro eich perfformiad ac yn rhoi adborth i chi yn ystod ac ar ôl y sesiwn.

 


Beth yw rygbi cadair olwyn?

Fideo: Great Britain Wheelchair Rugby (GBWR) ar YouTube


Mae rygbi cadair olwyn wedi fy ngwneud yn berson cryfach, iachach a mwy annibynnol. Rwyf hefyd wedi gwneud llawer o ffrindiau gwych, wedi dysgu sgiliau newydd, ac wedi cael y cyfle i hyfforddi a chystadlu ar lefel uchel trwy fod yn rhan o’r llwybr talent.”Pam rygbi cadair olwyn?

"Mae rygbi cadair olwyn wedi rhoi fy llawenydd ar gyfer chwaraeon yn ôl. Mae bod ar y llwybr talent wedi fy annog i anelu at chwaraeon elitaidd eto; mae cefnogaeth hyfforddwyr a chwaraewyr eraill yn caniatáu i mi wthio fy hun tra fy mod i’n mwynhau fy hun."

- Harri, 26

 “Mae bod ar y llwybr talent wedi bod yn hynod fuddiol i mi. Mae wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau, tactegau a gwybodaeth. Mae’r llwybr hefyd wedi rhoi darlun cliriach i mi o’r hyn sydd ei angen i chwarae ar y lefel uchaf.”

- Gemma, 23

“Mae llwybr talent Prydain Fawr wedi rhoi cymaint i mi, ar y cwrt ac oddi arno. Yn ystod fy amser yn y garfan rwyf wedi tyfu fel chwaraewr, wedi dod yn ddechreuwr i fy nhîm ac yn gyffredinol wedi magu llawer o hyder yn fy set sgiliau trwy lefel arbenigol yr hyfforddiant a rheolaeth a ddarperir gan y staff talentog – hebddynt ni fyddwn i’r chwaraewr ydw i heddiw. Oddi ar y cwrt rydw i wedi gwneud llawer o ffrindiau sydd wedi helpu i hybu fy sgiliau cymdeithasol, fel siarad o flaen grwpiau mawr. Mae’r profiad ar y llwybr talent yn ei gyfanrwydd yn gwbl amhrisiadwy i adeiladu’r sylfeini ar gyfer unrhyw un sydd â’r egni, yr uchelgais a’r ymrwymiad i ddod yn un o athletwyr gorau’r wlad, neu’r byd​​​​​.”

- Luke, 24

“Wheelchair rugby has made me a stronger, healthier, and more independent person. I've also made many great friends, learned new skills, and gained the opportunity to train and compete at a high level through being involved in the talent pathway.”

- Sam, 29


Pynciau yn yr erthygl hon:
Chwaraeon ElitaiddLlwybr PerfformiadUndeb Rygbi Cymru (URC)Rygbi Cadair Olwyn Prydain Fawr (GBWR)Rygbi Cadair Olwyn

Opsiynau Hygyrchedd

Maint testun

Dewiswch eich opsiwn gorau:



 

Lliw

Dewiswch eich opsiwn gorau:


 

Mae'r modd lliw Golau wedi'i ddylunio gan ddefnyddio lliwiau brand Chwaraeon Anabledd Cymru, i gwrdd â Lefel AA Canllaw Hygyrchedd Cynnwys Gwe. Dylai hyn ddarparu cyferbyniad da i'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr.

Mae'r modd lliw Tywyll hefyd yn defnyddio lliwiau brand Chwaraeon Anabledd Cymru, ond yn gwrthdroi golau a thywyllwch i greu fersiwn "modd nos". Fe'i bwriedir ar gyfer pobl nad ydynt yn hoffi sgriniau llachar, neu sy'n dymuno defnyddio eu harddangosfa mewn ffordd fwy ynni-effeithlon. Nid yw'r opsiwn hwn yn bodloni Lefel AA Canllaw Hygyrchedd Cynnwys Gwe, felly efallai na fydd yn addas ar gyfer defnyddwyr â nam ar eu golwg.

Mae'r modd lliw Tawel yn defnyddio lliwiau a allai fod yn fwy addas ar gyfer defnyddwyr sy'n sensitif i liwiau llachar, neu sy'n ffafrio cyferbyniad is. Nid yw'r opsiwn hwn yn bodloni Lefel AA Canllaw Hygyrchedd Cynnwys Gwe, felly efallai na fydd yn addas ar gyfer defnyddwyr â nam ar eu golwg.

Mae’r opsiwn Cyferbynnedd Uchel wedi’i deilwra i gyrraedd Lefel AAA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, a’i fwriad yw gwneud y wefan hon mor hygyrch â phosibl i ddefnyddwyr sydd â’r craffter gweledol isaf. Byddai defnydd delfrydol o'r gosodiad hwn yn cael ei gyfuno â maint testun Testun Canolig neu Testun Mawr.


Botymau

Mae ein steil botwm rhagosodedig yn defnyddio cefndiroedd lliw bloc sy'n cyferbynnu â chefndir y dudalen.

Gallwch newid hwn yn ddewisol i ddefnyddio botymau sy'n cynnal yr un lliw cefndir a lliw testun â phrif gynnwys y wefan, ac sy'n dynodi mai botwm gydag amlinelliad yw hwnnw. Gall hyn fod yn well gan ddefnyddwyr sy'n gallu darllen golau-ar-tywyll neu dywyll-ar-golau gyda mwy o gysur.

Dewiswch eich opsiwn gorau:



Priflythrennau

Gallwch ddewis lleihau'r defnydd o briflythrennau ar gyfer penawdau ac is-benawdau os ydych chi'n ei chael hi'n haws eu darllen mewn Achos Frawddeg. Gellir rhywfaint o destun, gan gynnwys acronymau, dangos mewn priflythrennau o hyd.

Dewiswch eich opsiwn gorau:



Opsiynau Cynnig

Mae'r wefan hon weithiau'n defnyddio animeiddio i ddod â'r cynnwys i fyw. Os hoffech chi analluogi hyn, gallwch chi wneud.

Dewiswch eich opsiwn gorau: