Roedd wobrau rhithwir Chwaraeon Anabledd Cymru yn dathlu llwyddiannau ysbrydoledig eithriadol pobl ledled Cymru, ar ôl 12 mis rhyfeddol pan ddychwelodd twrnameintiau a phencampwriaethau, ac athletwyr, sefydliadau, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr yn ailgysylltu â chwaraeon, o’u cyfranogiad cychwynnol hyd at berfformiad ar y lefel uchaf un ar ôl dwy flynedd o gyfnodau clo a hyfforddiant cyfyngedig.
Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo ar-lein a’i darlledu ar wefan Chwaraeon Anabledd Cymru a sianeli Facebook ac YouTube ddydd Gwener (24 Mehefin) – sy’n golygu ei bod wedi cael ei gwylio ledled y byd a’i bod ar gael i nifer digyfyngiad o bobl. Yn cael ei chyflwyno gan Sam Lloyd a’r Paralympiad Aled Davies, fe’i darlledwyd yn y Gymraeg a’r Saesneg, gydag isdeitlau ac Iaith Arwyddion Prydain.
O straeon ysbrydoledig, goreuon personol, twf chwaraeon clwb, datblygiad parhaus rhaglen insport sy’n cyflwyno ac yn cysylltu mwy a mwy o bobl â chwaraeon, yr ehangu ar Ddigwyddiadau Cyfres insport a gefnogir gan SPAR, llwyddiant Rhaglen Hwb y Llwybr Perfformiad a'r buddugoliaethau a enillodd fedalau ar y llwyfan rhyngwladol, gan gynnwys Gemau Paralympaidd yr Haf a'r Gaeaf.
Gyda chymaint o gyfranogwyr, cystadleuwyr a gwirfoddolwyr teilwng a haeddiannol, roedd creu rhestr o enwebeion ar gyfer gwobrau blynyddol Chwaraeon Anabledd Cymru yn hynod anodd – ac roedd yn anoddach fyth dewis enillwyr y categorïau.
Dywedodd Fiona Reid, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Anabledd Cymru: “Mae hon wedi bod yn noson anhygoel o ddathlu, yn ogystal â chyfle i gofio am bobl sydd wedi bod yn rhan o’n siwrneiau ni ac adlewyrchu ar yr heriau yn ogystal â chyflawniadau cymaint o bobl.
“Mae eleni yn nodi deng mlynedd ers lansio insport, a gwelsom y CRhC cyntaf yng Nghymru yn ennill insport CRhC Aur eleni. Dylai pawb sy’n ymwneud â chwaraeon cynhwysol yng Nghymru fod yn falch o’r gwahaniaeth maen nhw’n ei wneud, beth bynnag yw’r rheiny. Mae’r noson wobrwyo yn gyfle i ni longyfarch eraill am y gwaith maen nhw’n ei wneud ac i ddweud diolch yn fawr.”
Dyma enillwyr y gwobrau, sydd wedi cael eu cydnabod gan Chwaraeon Anabledd Cymru am eu cyfraniad eithriadol i chwaraeon:
Sefydlwyd Clwb Rygbi Cadair Olwyn Crusaders Gogledd Cymru ym mis Ebrill 2013 mewn menter ar y cyd rhwng Crusaders Gogledd Cymru, Rygbi’r Gynghrair Cymru a Chwaraeon Anabledd Cymru gyda’r nod o wneud y gêm yn hygyrch i bawb yng Ngogledd Cymru. Diolch i waith ei wirfoddolwyr angerddol, yn estyn allan ac yn gwneud i bob newydd-ddyfodiad deimlo’n gartrefol ac yn rhoi croeso anhygoel iddynt, mae'r clwb wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Hwn oedd y clwb Rygbi’r Gynghrair cyntaf i ennill safon Rhuban Glas insport ac mae hefyd wedi derbyn dyfarniadau Efydd ac Arian. Mae'r tîm yn chwarae ac yn hyfforddi yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, Queensferry.
Stephen Jones (Cadeirydd, Clwb Rygbi’r Gynghrair Cadair Olwyn Crusaders Gogledd Cymru): “Fe hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi gwneud y wobr yma’n bosibl i Glwb Rygbi’r Gynghrair Cadair Olwyn y Crusaders. Rydyn ni’n ymdrechu i wneud yn siŵr bod croeso bob amser i bobl ag anableddau, os ydyn nhw eisiau dod fel chwaraewyr, aelodau neu wylwyr, ac mae ein gwirfoddolwyr ni’n sicrhau bod y clwb yn lle arbennig i fod ynddo. Mae ennill Gwobr Sefydliad insport yn gyflawniad aruthrol ac mae hynny oherwydd y clwb a’r hyn rydyn ni’n ei gynnig i bawb.”
Enillodd Ana, o Garmel ger Treffynnon, fedal aur gyda thîm Merched Iau Dan 24 Tîm Prydain Fawr ym Mhencampwriaethau Ewropeaidd Pêl Fasged Cadair Olwyn pan oedd hi ond yn 14 oed. Mae’r chwaraewraig gyda’r North Wales Knights hefyd yn bencampwraig Prydain deirgwaith a bu’n gapten ar garfan Pêl Fasged Cadair Olwyn Tîm Cymru yn ystod ei ymgyrch cymhwyso yng Ngemau’r Gymanwlad 2022.
Ana Blease: “Rydw i eisiau diolch i bawb o fy nghwmpas i am fy nghefnogi i drwy gydol y flwyddyn yma a fy helpu ar hyd y ffordd. Rydw i’n falch iawn o fod wedi ennill gwobr Athletwr Newydd y Flwyddyn Chwaraeon Anabledd Cymru gan ei fod yn golygu’r byd i mi. Rydw i jyst eisiau diolch i fy holl system gefnogi, fy holl ffrindiau a theulu a fy hyfforddwyr. Mae wedi bod yn flwyddyn wych a diolch yn fawr.”
Yn ysbrydoliaeth i bawb sy’n ei chyfarfod, roedd Mia yn benderfynol o barhau i gymryd rhan mewn chwaraeon ar ôl i’w choes chwith gael ei thorri i ffwrdd uwchben ei phen-glin. Dechreuodd ei siwrnai newydd mewn digwyddiad insport ac erbyn hyn mae’r ferch yn ei harddegau o Aberteifi yn mwynhau pêl fasged cadair olwyn, nofio, golff, dringo, sgïo wedi’i addasu a phara-feicio. Ei huchelgais yw cystadlu mewn athletau trac yn y Gemau Paralympaidd.
Enwodd Mia Andrew Toft, Gemma Cutter, Morgan Jones a Paul Drayton fel unigolion sydd wedi bod yn allweddol wrth ei hysbrydoli.
Mia Lloyd: “Diolch yn fawr iawn i’r holl bobl anhygoel yma – rydych chi wedi fy ysbrydoli i ar hyd fy siwrnai a gobeithio un diwrnod y gallaf dalu’n ôl i chi am eich caredigrwydd a’ch haelioni drwy eich gwneud chi’n falch. Diolch!"
Daeth Menna y Paralympiad Gaeaf sydd wedi ennill y nifer mwyaf o fedalau erioed ar ôl ennill arian yn y Super-G – ei phumed medal Baralympaidd – yn Beijing, ar ôl ennill pedair medal, gan gynnwys aur slalom, yng Ngemau Paralympaidd y Gaeaf yn PyeongChang yn 2018. Hi hefyd yw’r sgïwraig Brydeinig gyntaf i ennill teitlau Paralympaidd a Phara y Byd.
Menna Fitzpatrick: “Diolch yn fawr iawn! Mae’n anrhydedd enfawr ennill gwobr Athletwr y Flwyddyn Chwaraeon Anabledd Cymru ac fe hoffwn i ddweud diolch yn fawr iawn wrth bawb sydd wedi fy helpu i ar hyd y ffordd – sef fy nheulu, fy nhywysydd Katie Guest, Gary Smith am fod y tywysydd wrth gefn gorau erioed, yr holl hyfforddwyr a'r holl dechnegwyr sgïo rydw i wedi gweithio gyda nhw dros y blynyddoedd i sicrhau fy mod i’n cyrraedd y cam yma. Fe hoffwn i ddweud diolch enfawr a da iawn i'r holl enwebeion sydd wedi gwneud yn anhygoel ac rydw i'n hynod falch o fod yma gyda chi. Diolch yn fawr iawn!"
Mae Jane yn hyfforddwraig chwaraeon uchel ei pharch o bentref Llangybi yn Sir Fynwy sydd â mwy na 30 mlynedd o brofiad. Dechreuodd fel rhedwr hamdden gyda chlwb rhedeg lleol a dechreuodd hyfforddi mewn athletau prif ffrwd. Yn hyfforddwr academi sy’n gwirfoddoli gyda charfan athletau Chwaraeon Anabledd Cymru, mae hi wedi gweithio gyda rhai o athletwyr gorau’r byd chwaraeon, gan gynnwys y Paralympiaid Rhys Jones a Kyron Duke. Mae Jane yn gyn-gadeirydd Cymdeithas Chwaraeon Cymru ar gyfer Pobl ag Anableddau Dysgu, yn Gyfarwyddwr Ymddiriedolwyr ar gyfer Cymdeithas Chwaraeon Pobl ag Anableddau Dysgu y DU ac yn aelod o fwrdd Chwaraeon Anabledd Cymru. Roedd hi hefyd yn rhan o Daith Gyfnewid y Fflam ar gyfer Gemau Paralympaidd Llundain 2012.
Dywedodd Anthony Hughes MBE, Rheolwr Perfformiad Cenedlaethol Chwaraeon Anabledd Cymru: “Ar ran pawb yn Chwaraeon Anabledd Cymru, fe hoffwn i ddweud diolch a llongyfarchiadau anhygoel am yr hyn rydych chi wedi’i gyflwyno, yr hyn rydych chi wedi'i wneud a'r hyn rydych chi wedi'i roi i'r gamp. Jane, rydw i’n gwybod eich bod chi wedi aberthu llawer iawn dros y blynyddoedd, a gallaf ddweud yn onest, fel dyn anodd creu argraff arno, eich bod chi wedi cael effaith aruthrol ar fywydau cymaint o bobl ifanc.”
Gellir gweld gwobrau rhithwir Chwaraeon Anabledd Cymru ar-lein yn:
https://www.disabilitysportwales.com/en-gb/awards/2022/
https://www.disabilitysportwales.com/en-gb/awards/2022/youtube
https://www.disabilitysportwales.com/en-gb/awards/2022/facebook
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Paul Evans, Swyddog Cyfathrebu ChAC, ar: paul@lloydbell.co.uk / 07710 743167