Roedd digwyddiad Ysbrydoli Cysylltiadau Arweinwyr Ifanc Anabl mewn Chwaraeon mewn partneriaeth ag Undeb Rygbi Cymru yn gyfle i bobl ifanc anabl mewn chwaraeon ddod at ei gilydd mewn amgylchedd cynhwysol i adeiladu cysylltiadau, cael eu hysbrydoli, ac ysbrydoli eraill. Roedd y fformat, a gynhaliwyd am yr ail flwyddyn, yn cynnwys cinio rhwydweithio anffurfiol, recordiad byw o bodlediad Chwaraeon Anabledd Cymru, a chyfle i hyrwyddo arweinwyr ifanc a'r sefydliadau sy'n eu cefnogi.
Yn arwain y cyflwyniad yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd yng Nghaerdydd oedd James Ledger, sbrintiwr Paralympaidd T11 Cymru a Phrydain Fawr, a recordiodd dri podlediad ysbrydoledig Chwaraeon Anabledd Cymru o flaen cynulleidfa fyw.
Cyntaf i’r llwyfan oedd Will Bishop. Ar ôl chwarae pêl-droed ieuenctid i Bridgton a Chlwb Pêl-droed Lerpwl, gwelwyd ei ddawn athletau ar ddiwrnod Cyfres insport yng Nghaernarfon. Enillodd myfyriwr Prifysgol Met Caerdydd, sy’n cael ei hyfforddi gan Uwch Swyddog Llwybr Perfformiad DSW, Morgan Jones, fedal efydd yn y naid hir categori cymysg yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad yn Trinidad a Tobago llynedd – a gorffennodd yn bumed yn y sbrint 100 metr, er fod o ddim yn bwriadu rasio a dim ond mynd a’i treinyrs rhedeg rhag ofn! Er bod y naid hir wedi dod yn gamp gyrfa iddo, mae Will yn dal i fwynhau chwarae pêl-droed a phêl-fasged cadair olwyn.
Ar ol Will cawsom gyflwyniad gan Bronnie Griffiths, sy'n Swyddog Prosiect yn Activity Alliance. Mae ei thaith yn wahanol iawn gan fod Bronnie yn dod o gefndir arweinyddiaeth a threfniadol – yn wir mae’n cyfaddef nad oedd hi ddim i fyd chwaraeon cyn iddi wirfoddoli ar gyfer digwyddiadau Cyfres insport! Ers hynny, mae hi wedi cyflawni gradd ym Mhrifysgol De Cymru ac wedi cynorthwyo rhaglen chwaraeon anabledd sy'n ehangu, wedi cadeirio'r Bwrdd Ieuenctid Cenedlaethol a sefydlu adran cynhwysiant ieuenctid yn Torino FC. Roedd ei stori ysbrydoledig yn dangos nad oes rhaid i chi fod yn athletwr i weithio mewn chwaraeon.
Roedd trydydd Podlediad DSW, a’r olaf, gyda Nathan Stephens, sy’n Bennaeth Datblygu Perfformiad DSW. Newidiodd ei fywyd pan geisiodd Nathan, ar ei nawfed pen-blwydd, neidio ar drên cludo nwyddau a oedd yn symud. Roedd cryfder ei gymeriad yn golygu nad colli ei ddwy goes oedd y diwedd ond dechrau ei stori – wrth iddo gael ei gyflwyno i chwaraeon anabledd tra’n dal i wella yn yr ysbyty. Mae'n dal i chwarae para hoci iâ, ond gwelwyd ei ddawn taflu gan y diweddar Anthony Hughes MBE mewn digwyddiad Cyfres insport. Aeth Nathan ymlaen i dorri record y byd mewn gwaywffon, cystadlu yn y Gemau Paralympaidd yn Beijing (mewn siot, disgen a gwaywffon) ac ennill gradd o Brifysgol Met Caerdydd. Ymunodd â ChAC yn 2015 ac mae wedi bod yn ysbrydoliaeth ers hynny, yn helpu i ddatblygu talent chwaraeon.
Ymhlith y siaradwyr eraill roedd Darren Carew (Rheolwr Cynhwysiant Cenedlaethol URC), Tomas Martin (Cydlynydd Boccia DSW) a Morgan Jones (Uwch Swyddog Llwybr Perfformiad DSW).
Dywedodd Nathan Stephens: “Mae Para sport wedi dysgu i mi sut i oresgyn adfyd, i allu rholio gyda’r dyrnod, i fod yn drefnus, i feddu ar sgiliau cyfathrebu da ac i berfformio dan bwysau. Mae’r holl wersi a ddysgwyd mewn chwaraeon wedi trosglwyddo ymhell iawn gan gynnwys bywyd cartref a gwaith ac yn helpu yn fy rôl fel Pennaeth Datblygu Perfformiad DSW. Cymerodd amser i mi sylweddoli faint oeddwn wedi datblygu yn fy amser fel athletwr i ddod â’r sgiliau i fyd busnes a Chwaraeon Anabledd Cymru. Fy nghyngor i yw os oes gennych chi angerdd am rywbeth a'i fwynhau, cadwch ati. Nid yw Chwaraeon Anabledd Cymru yn swydd i mi, a byddaf yn parhau i’w gwneud o ddydd i ddydd oherwydd rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda’r athletwyr a’u helpu i gyrraedd yr hyn y maent am ei gyflawni.”
Dywedodd Darren Carew: “Mae Undeb Rygbi Cymru yn hynod falch o gefnogi Chwaraeon Anabledd Cymru, nid yn unig gyda’r digwyddiad Arweinwyr Ifanc mewn Chwaraeon hwn ond yn gyffredinol oherwydd bod gennym ni berthynas mor hir dymor. Mae cymaint o werth yn Chwaraeon Anabledd Cymru yn y modd y maent yn darparu ac yn cysylltu pobl â galluoedd amrywiol â chymaint o wahanol gyfleoedd chwaraeon. Mae Undeb Rygbi Cymru yn gysylltiedig iawn â'r athroniaeth honno ac mae gallu dod â'n hyfforddwyr cymunedol ag anableddau i lawr i'r digwyddiad cysylltiadau ieuenctid hwn yn golygu llawer iawn. Mae wedi bod yn ddigwyddiad gwych.”
Mae podlediadau Chwaraeon Anabledd Cymru yn cael eu darlledu ar YouTube, Spotify, podlediadau apple a bean pod.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Paul Evans Swyddog Cyfathrebu DSW ar: paul@lloydbell.co.uk / 07710 743167